Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

Tlws Coffa Elvet a Mair Elvet Thomas 2010

llinell

Bob blwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol dyfernir gwobr i diwtor sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i faes Cymraeg i Oedolion. Rhoddir y tlws a’r wobr ariannol gan Havard a Rhiannon Gregory, er cof am Elvet a Mair Elvet Thomas a wnaeth gymaint o gyfraniad i faes dysgu’r Gymraeg fel ail iaith. Teimla Havard a Rhiannon fod tiwtoriaid Cymraeg yn gwneud gwaith amhrisiadwy nad yw bob amser yn cael ei gydnabod. Mae’r enillydd yn derbyn gwobr unigryw.

Mae nifer o diwtoriaid wedi derbyn y tlws erbyn hyn, fel y gwelir isod:

llun tlws coffa 12000 – y diweddar Chris Rees
2001 – Basil Davies
2002 – Felicity Roberts
2003 – er cof am Robina Elis-Gruffydd
2004 – Geraint Wilson-Price
2005 – Elwyn Hughes
2006 – Keith Rogers ac Elwyn Havard
2007 – Eirian Conlon
2008 – Cennard Davies
2009 – Shirley Williams

Shirley Williams o bentref Croesor yn y gogledd oedd yr enillydd llynedd. Dysgwraig oedd Shirley ei hunan ac mae wedi bod yn gysylltiedig â maes Cymraeg i Oedolion ers dros 30 o flynyddoedd. Mae hi wedi ysbrydoli a chefnogi cannoedd o oedolion sy’n dysgu’r Gymraeg. Bu’n diwtor-drefnydd brwdfrydig tu hwnt dros ardal Meirionnydd gyda Phrifysgol Aberystwyth, ac yn ddiweddarach gyda Chanolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru. Roedd ei hymwybyddiaeth o natur yr ardal ac o anghenion dysgwyr yr ardal a’r tiwtoriaid o dan ei hadain yn ddi-hafal.

llun tlws coffa 2Yn flynyddol, felly, caiff un tiwtor arbennig ei anrhydeddu am:

Yn ogystal â gwobr ariannol o £300 a’r tlws hardd i’w gadw am flwyddyn, cyflwynir darn arbennig o femrwn Gregynog i’r enillydd hefyd, yn gofnod parhaol personol. Llawer o ddiolch, felly, i Havard Gregory am drefnu a noddi’r gwobrau.

Mae’r ffurflen enwebu ar gael nawr drwy glicio ar y ddolen isod. Mae’r ffurflen enwebu ar ffurf Word fel bod modd i chi ei llenwi’n electronig neu ei hargraffu, yn ôl dymuniadau personol. Bydd rhaid anfon adroddiad o 300 o eiriau hefyd yn nodi pam yr ydych yn enwebu tiwtor. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw 7 Mehefin 2010.

Gellir anfon y ffurflen at bwyllgor golygyddol Y Tiwtor drwy e-bost: cymraegioedolion@cbac.co.uk.

Gellir anfon y ffurflen drwy’r post hefyd at:

botwm ffurflen enwebuMandi Morse
Cymraeg i Oedolion
CBAC
245 Rhodfa’r Gorllewin
Caerdydd
CF5 2YX.

llinell