Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

Hwyl yn yr Haul
yng Nglanyfferi!


Aeth grŵp mawr o ddysgwyr o bob lefel i fwynhau'r cwrs preswyl olaf un yng Nglanyfferi ar ddiwedd mis Mawrth. Cafodd y dysgwyr gyfle i gael llawer o hwyl, cwrdd â llawer o bobl newydd ac wrth gwrs, siarad llawer o Gymraeg!

Yn anffodus bydd Canolfan Addysg Glanyfferi, sy'n ddelfrydol ar gyfer cyrsiau Cymraeg, yn cau ar ddiwedd y mis ac felly manteisiodd y dysgwyr yn llawn ar eu cyfle olaf i ddod i’r cyfleusterau gwych hyn. Yn ystod y penwythnos llawn cyffro hwn mwynheuodd y dysgwyr wersi ychwanegol, dawnsio gwerin, gemau iaith, cwis, canu yn y dafarn, taith gerdded i'r traeth a thaith i Drefach Felindre er mwyn ymweld â'r Amgueddfa Wlân a mwynhau Helfa Drysor o amgylch y dref.

Dywedodd Suzanne Condon, un o'r tiwtoriaid a oedd yn gweithio ar y cwrs a oedd hefyd yn mynd i Lanyfferi yn aml pan oedd hi’n dysgu Cymraeg: ‘Mae llawer iawn o fwrlwm wedi bod yng Nglanyfferi y penwythnos hwn. Mae pawb wedi mwynhau mas draw ond wedi blino'n lân erbyn hyn ar ôl yr holl weithgareddau! Mae'n drueni mawr bod rhaid i'r Ganolfan ddelfrydol hon gau ar ddiwedd y mis. Byddwn yn gweld eisiau Glanyfferi yn fawr!’

Bydd y Cwrs Sadwrn nesaf ar 8 Mai yn Sain Ffagan. Os hoffech ymrestru, ewch i'r ddolen isod:
http://www.caerdydd.ac.uk/learnwelsh/courses/learnersclub/Cwrs%20Sadwrn.html

llun caerdydd

llinell