Croeso i Sean a Ffion
Swyddogion Cymraeg yn y Gweithle a Chymraeg i’r Teulu
gan Sian Griffiths
Mae’n braf dweud ein bod ni wedi penodi dau aelod newydd i staff Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent yn ddiweddar. Ar Chwefror 22ain, dechreuodd Sean Driscoll fel Swyddog Datblygu Cymraeg yn y Gweithle, a Ffion Green fel Swyddog Datblygu Cymraeg i’r Teulu. Mae Ffion wedi bod yn gweithio gyda ni ers dros flwyddyn fel Swyddog Gweinyddol, ac rwyf yn siwr eich bod chi wedi siarad â hi ar y ffôn, neu wedi ei gweld hi ar gyrsiau penwythnos ac Ysgolion Undydd. Mae Sean wedi bod yn diwtor rhan amser gyda ni ers y flwyddyn diwethaf. Dyma ychydig bach o’u hanes.
Sean
Ble dych chi’n byw?
Dw i’n byw yn Hirwaun, ar bwys Aberdâr.
O ble dych chi’n dod yn wreiddiol?
Dw i’n dod o Hirwaun hefyd.
Oes teulu gyda chi?
Oes mae teulu gyda fi. Mae gwraig gyda fi o’r enw Lauran, ac mae tri o blant gyda fi - Jamie, Matthew a Ffion. Hefyd mae ci gyda ni – labrador brown o’r enw Rosie.
Ble dych chi wedi bod yn gweithio?
Pob man. Dw i wedi gweithio fel gweithiwr cymdeithasol cynorthwyol; swyddog iaith Cymraeg gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Hefyd dw i wedi gweithio fel cyfieithydd i Ddinas a Sir Abertawe am wyth mlynedd. Dw i wedi gweithio fel tiwtor Cymraeg i oedolion am nifer o flynyddoedd, yn dysgu Cymraeg yn y gymuned ac yn y gweithle.
Beth yw’ch diddordebau?
Wel, dw i’n hoff iawn iawn o gemau gaeaf fel sgio, hoci iâ a’r bobsleigh. Dw i’n gwylio gemau Olympaidd y Gaeaf ar hyn o bryd - tan oriau mân y bore! Hefyd dw i’n hoffi nofio a darllen - ond nid ar yr un pryd!
Ble dych chi’n hoffi mynd ar wyliau?
Dw i’n hoffi gwledydd oer gyda llawer iawn o eira!!!
Dych chi’n edrych ymlaen at eich swydd newydd?
Ydw. Dw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn at ddechrau yn y swydd newydd.
Beth yw’ch gobeithion chi am y dyfodol ym maes Cymraeg i’r Teulu / Cymraeg yn y Gweithle?
Hoffwn i weld llawer mwy o weithleoedd yn cynnig cyrsiau Cymraeg i’w staff. Mae mwy a mwy o bobl yn yr ardal hon yn dysgu Cymraeg, ac mae’n gwneud synnwyr i fusnesau gyflogi staff sy’n siarad Cymraeg i gynnig gwasanaethau dwyieithog i’w cwsmeriaid. Felly, os oes diddordeb gan staff yn eich gweithle ddysgu Cymraeg, gofynnwch i’ch rheolwr gysylltu â fi yma yng Ngholeg Pont y Pŵl drwy ffonio 01495 333711
Ffion
Ble dych chi’n byw?
Dw i’n byw yn Rhisga.
O ble dych chi’n dod yn wreiddiol?
Dwi’n dod o Rydaman yn wreiddiol. Mae Rhydaman yn y Gorllewin rhwng Caerfyrddin a Llanelli.
Oes teulu gyda chi?
Oes, mae teulu gyda fi. Mae un mab o’r enw Ellis, sy’n bump oed, gyda fi. Mae gŵr gyda fi hefyd, o’r enw Antony.
Ble dych chi wedi bod yn gweithio?
Ro’n i’n athrawes ysgol am wyth mlynedd cyn i fi ddechrau gweithio fel tiwtor Cymraeg i Oedolion. Ers tair blynedd dw i wedi gweithio fel tiwtor, a thros y flwyddyn diwethaf dw i wedi gweithio fel swyddog gweinyddol yn y ganolfan.
Beth yw’ch diddordebau?
Dw i’n hoffi darllen llyfrau. Dw i’n hoffi mynd am dro gyda fy mab a chwarae pêl –droed!! Dw i’n hoffi bwyta ma’s a fy hoff fwyd ydy cyri.
Ble dych chi’n hoffi mynd ar wyliau?
Dw i’n hoffi mynd i wersylla gyda fy nheulu a ffrindiau. Dyn ni’n gwersylla dros Dde Cymru. Y flwyddyn yma dw i’n mynd ar wyliau i Dwrci.
Dych chi’n edrych ymlaen at eich swydd newydd?
Wrth gwrs!! Dw i’n edrych ymlaen at yr her o ddatblygu Cymraeg i’r Teulu dros ardal Gwent. Hefyd, dw i’n edrych ymlaen at weithio fel rhan o dîm Cymraeg i oedolion Gwent.
Beth yw’ch gobeithion chi am y dyfodol ym maes Cymraeg i’r Teulu / Cymraeg yn y Gweithle?
Dw i’n gobeithio bydd Cymraeg i’r Teulu yn tyfu i fod yn faes gweddol o fawr a bydd bron pob ysgol yng Ngwent yn cynnal dosbarth Cymraeg i’r Teulu.
Diolch yn fawr iawn i Sean a Ffion am ateb y cwestiynau. Ar ran staff Canolfan Gwent, hoffwn i ddymuno pob lwc iddyn nhw yn eu swyddi newydd. Os hoffech chi gael gair â nhw ynglŷn â dosbarthiadau Cymraeg yn y Gweithle, neu Gymraeg i’r Teulu, ffoniwch nhw ar 01495 333711, neu ebostiwch nhw – sean.driscoll@coleggwent.ac.uk a Ffion.green@coleggwent.ac.uk