Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

Mwy o lwyddiannau
Cymraeg yn y Gweithle

llinell

Felly, ar ôl ymgynghori â Chanolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru, rydym wedi bod yn gweithio gyda sawl darparwr yn yr ardal i ddatblygu rhaglen gynhwysfawr o hyfforddiant yn y gweithle wedi’i deilwra i’n hanghenion unigryw.  Mae dau fath o gwrs gyda ni erbyn hyn.  Un trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer staff mewn swyddi Cymraeg hanfodol (staff y rheng flaen) ac un trwy gyfrwng y Saesneg ar gyfer staff di-Gymraeg sydd yn ymwneud â’r cyhoedd yn achlysurol.  Mae’r ddau gwrs yn trafod gofal cwsmer ac arfer da wrth ymwneud â’r cyhoedd wyneb yn wyneb neu dros y ffôn yng nghyd-destun gofynion ein Cynllun Iaith.

Cafodd ein hymdrechion ganmoliaeth yn ddiweddar gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg a ddywedodd,
 ‘Rydym o’r farn fod y Cyngor wedi llwyddo i flaenoriaethu ac i ganolbwyntio adnoddau ar y meysydd hynny fydd yn gwella profiad y siaradwr Cymraeg o ddelio â’r Cyngor, meysydd megis hyfforddiant dwys i garfannau penodol o staff ddysgu’r Gymraeg.’  

Dywedwyd hefyd, ‘cymeradwywn eich penderfyniad i ddarparu hyfforddiant dwys sydd wedi ei dargedu a’i gynllunio’n fanwl.’

Ymddengys i’r staff fwynhau ac elwa o’r profiad hefyd.  Roedd yr adborth o’r cwrs diweddaraf yn cynnwys y sylwadau canlynol:

llinell llunbwrdd iechyd

Woo hoo!’
Dyna ymateb therapydd galwedigaethol yn Ysbyty Gwynedd pan ofynnodd hen ŵr iddi ar ddiwedd sgwrs chwarter awr:
Dach chi’n dŵad o Fangor neu Sir Fôn?

Mae Amanda wedi dysgu Cymraeg ac yn dod o Awstralia yn wreiddiol!
‘Gaeth o sioc fawr pan wnes i ddweud Awstralia, a wnaeth o ysgwyd fy llaw sawl gwaith,’ meddai mewn neges e-bost orfoleddus at ei thiwtor ddechrau mis Ionawr.
‘Dw i wedi cael cyfleon gwych a diddorol i ddefnyddio fy Nghymraeg yn ddiweddar. Dw i wedi cael TRI chlaf mewn pythefnos sy ddim yn siarad Saesneg – un hen ffermwr, un hen, HEN wraig sy’n byw ger y mynyddoedd ac un hen saer coed.’

Mae hyn yn dangos mor bwysig yw cael staff yn ein hysbytai sy’n gallu siarad Cymraeg. Ers rhai blynyddoedd bellach mae Coleg Menai wedi bod yn cynnal cyrisau Cymraeg ar wahanol lefelau dri diwrnod yr wythnos ar gyfer staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac mae’r dysgwyr yn gwneud cynnydd rhagorol gan ddal ati o flwyddyn i flwyddyn a defnyddio’r Gymraeg ar y wardiau ac yn y clinigau.

Yr uchafbwynt y llynedd oedd i un o’r dysgwyr ennill gwobr genedlaethol yng nghystadleuaeth Gofal Iechyd Cymru.

llinell

llun staff y llysoedd

Mae Coleg Menai wedi bod yn darparu cyrsiau Gloywi Iaith mewn gweithleoedd ers dros ddeg mlynedd bellach. Datblygiad newydd eleni yw’r cwrs Gloywi Iaith ar-lein ac mae deg aelod o staff y Gwasanaeth Cyfiawnder wedi cofrestru ar y cwrs. Maent yn brysur orchfygu’u hofnau ynghylch treiglo ac yn cael y llaw uchaf ar yr holl a, ac, â, ag, aaaaaaaa...! sydd yn y Gymraeg. Gobeithio y bydd yn fodd iddynt fagu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith bob dydd.

 

llinell