Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

logo IATEFL

Cynhadledd IATEFL Harrogate

7 - 11 Ebrill 2010

 

Cynhaliwyd cynhadledd ryngwladol IATEFL yn Harrogate eleni, o 7 - 11 Ebrill.
Dyma Gynhadledd rhif 44.

Erbyn hyn mae’r Gynhadledd yn enwog am ei naws gyfeillgar a hwylus, gan ddenu tiwtoriaid ailiaith o 80 o wledydd gwahanol. Mae’n gyfle gwych i rwydweithio, trafod a chymdeithasu. Eleni cafwyd pedair sesiwn lawn, pedwar prif ddigwyddiad a thros 400 o sesiynau oedd yn cynnwys cyflwyniadau, gweithdai, trafodaethau panel, fforymau agored a.y.y.b. 

Aeth Janette Jones yno ar ran CBAC, gan gynnig sylwadau ar rai sesiynau.

llinell

1. Coaching in practice:
supporting the self-directed change of others

Sesiwn gan Adrian Underhill

Gweithdy ymarferol oedd y sesiwn ddifyr hon. Yn ôl Underhill, nid rôl yr hyfforddwr ydy cynghori ond yn hytrach arwain yr hyfforddai i ddatrys ei anawsterau ei hun trwy ofyn cwestiynau. Trwy gyfeirio’r siarad, mae’r hyfforddwr yn hybu datblygiad hunan gyfeiriol yr hyfforddai ac yn ei arwain at ddatrysiad.

Mae pedwar cam i’r broses:

  • Sefydlu nod y cyfarfod
  • Disgrifio’r sefyllfa bresennol
  • Dod o hyd i awgrymiadau trwy seiadu a thrafod syniadau
  • Ymrwymo i weithred

Pwysleisiwyd pwysigrwydd gwrando strwythuredig ac anfeirniadol i gynorthwyo’r hyfforddai i feddwl am ddatrysiadau posibl.

Wrth grynhoi, pwysleisiodd Underhill dri pheth mae’n bwysig eu gwneud:

  • Gofyn cwestiynau effeithiol ac wedyn tewi
  • Trafod tasgau penodol
  • Sicrhau mai’r hyfforddai sy’n dewis pa gamau mae’n mynd i’w cymryd i ddatrys y broblem

Whitmore, John. 1994, Coaching for Performance (Nicholas Brealey)
Landsberg, Max. 1997, The Tao of Coaching (Harper Collins)

llinell

2. Memorising language chunks
through telling and retelling stories

Sesiwn gan David Heathfield

Thema oedd yn codi dro ar ôl tro yn y gynhadledd oedd defnyddio storïau i addysgu ac mi gafwyd sesiwn arbennig gan David Heathfield fasai wrth fodd tiwtoriaid sy’n hoffi addysgu mewn dull cinesthetig. Gellir defnyddio storïau cyfarwydd neu anghyfarwydd ar gyfer y gweithgaredd hwn ond dylid sicrhau bod y patrymau iaith sydd dan sylw yn cael eu hailadrodd sawl gwaith yn y stori.

Defnyddir ailadrodd ac actio er mwyn i’r dysgwyr gofio’r iaith sy’n codi yn y stori:

  1. Storïwr yn dweud y stori gan ddefnyddio ystumiau
  2. Storïwr yn gofyn am wirfoddolwr i chwarae rhan un cymeriad efo fo
  3. Partneriaid yn actio un olygfa
  4. Un pâr yn actio’r olygfa o flaen y dosbarth
  5. Camu’r stori. Yn gyntaf mae un gwirfoddolwr yn camu trwy olygfeydd y stori gyda’r storïwr - efo’i gilydd maen nhw’n cymryd cam, yn actio un olygfa ac wedyn yn cymryd cam arall cyn actio’r olygfa nesa.
  6. Partneriaid yn camu’r stori
  7. Ailadrodd y stori fel dosbarth
  8. Partneriaid yn ailadrodd y stori - dylid aildrefnu’r partneriaid gan sicrhau bod o leiaf un person hyderus ym mhob pâr
  9. Y myfyrwyr yn dweud y stori wrth rywun tu allan i’r dosbarth

Oherwydd yr holl ailadrodd a’r gwaith corfforol, ar ôl y sesiwn bydd y dysgwyr yn gallu cofio darnau helaeth o iaith.

llinell

Gwefannau defnyddiol:
www.sfs.org.uk
www.storymuseum.org.uk

Dych chi hefyd yn gallu gwylio David Heathfield ar youtube

Heathfield, David 2005 Spontaneous Speaking: Drama Activities for Confidence and Fluency (DELTA Publishing).

Ewch i wefan IATEFL am ragor o fanylion:
http://www.iatefl.org/harrogate-2010/44th-annual-conference-harrogate-2010

IATEFL
Darwin College, University of Kent,
Canterbury, Kent, CT2 7NY
Ffôn: 0044 1227 824430                                                                           
Ffacs: 0044 1227 824431

 

llinell