Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru
teitl hyrwyddo gweithleoedd dwyieithog


Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn cynnig cyngor ynghylch sut i ddefnyddio'r Gymraeg mewn gweithleoedd a hynny yn sgil sefydlu’r cynllun i hyrwyddo gweithleoedd dwyieithog. Mae’r Bwrdd wedi gweithio gydag ymgynghorwyr i ddatblygu dogfennau a chynlluniau ar gyfer sefydliadau penodol.

Os hoffech gael rhagor o fanylion am y Pecyn Hyfforddiant: Hyrwyddo Gweithleoedd Dwyieithog, yn ogystal â’r Nodiadau i’r Tiwtor, ewch i wefan y Bwrdd:
http://www.byig-wlb.org.uk/Pages/Hafan.aspx

Gwelir isod enghraifft o weithdy a ddatblygwyd gan ymgynghorydd a all fod yn fuddiol i’w gynnal mewn nifer o weithleodd.

        llinell

Gweithdy 1

 

Rhan 1 – Gwaith bob dydd

  • Defnyddiwch y cloc i ddechrau meddwl am yr holl bethau ry’ch chi’n eu gwneud yn ystod y dydd, (e.e. delio â’r post a’r e-bost; mynd i’r cantîn amser cinio; cael sgwrs wrth y llun-gopïwr / photocopier…). - 10 munud
  • Gan ddefnyddio’r cloc eto neu’r Ffurflen Dasgau ar wahân gwnewch nodyn mwy manwl o’r holl dasgau a’r gweithgareddau ry’ch chi’n eu gwneud yn rhan o’ch gwaith. - 10 munud 
  • Trowch at eich cymydog i gael sgwrs am y pethau ry’ch chi wedi eu nodi - efallai bod ’na bethau ry’ch chi wedi eu hanghofio! - 10 munud

 

Rhan 2 – Iaith Gwaith

  • Nawr ar eich pen eich hun eto cymrwch olwg ar y tasgau. Defnyddiwch ddau liw gwahanol i nodi a) y pethe ry’ch chi’n eu gwneud yn Gymraeg; b) y pethe ry’ch chi’n eu gwneud yn Saesneg.  Defnyddiwch y ddau liw ar gyfer y pethe sy’n digwydd yn ddwyieithog. - 5 munud
  • Mewn grwpiau o ryw 3 - 4 meddyliwch pam bod hyn yn digwydd; beth sy’n effeithio ar yr iaith ry’ch chi’n ei defnyddio mewn sefyllfaoedd gwahanol? - 10 munud
  • Yna, dewch yn ôl at weddill y grŵp i rannu rhai o’r pethau ry’ch chi wedi bod yn eu trafod - 10 munud

Rhestr o weithgareddau yn y gwaith
List of work related tasks

Tasgau llafar                                                            Oral tasks

Ar y ffôn
On the telephone

 

Trafod/siarad gyda chydweithwyr
Talking to/Discussing with colleagues

 

Cyfarfodydd mewnol
Internal meetings

 

Cyfarfodydd cyhoeddus
Public meetings

 

Arall
Other

 


Tasgau Ysgrifenedig                                    Writing based tasks

Anfon e-bost
Email

 

Llythyru
Correspondence

 

Cadw cofnodion cyfarfodydd
Minute taking

 

Cadw cofnodion ffeil
File records

 

Creu/llenwi ffurflenni
Form filling

 

Creu/drafftio deunydd i’w arddangos
Drafting display material

 

Creu/drafftio deunydd gwybodaeth i’w ddosbarthu’n fewnol
Drafting internal information material

 

Creu/drafftio adroddiadau at ddefnydd mewnol
Drafting internal reports

 

Creu/drafftio deunydd gwybodaeth fer i’r cyhoedd
Drafting public information material

 

Drafftio adroddiadau i’r cyhoedd
Drafting public reports

 

Arall
Other

 


Rhan 3 – Creu Newid

a) fel unigolyn
b) fel tîm

Felly,

  • ar eich pen eich hun, meddyliwch am y newidiadau personol y byddech chi’n licio eu gwneud - 10 munud
  • rhannwch y pwyntiau yma gyda gweddill y grŵp - 10 munud
  • treuliwch weddill yr amser yn penderfynu ar y newidiadau ry’ch chi am eu gwneud fel tîm - 30 munud

 

Creu Newid o ddydd i ddydd: Cynllun Gweithredu

Fy nghynllun i:

a.Gallaf ddechrau gwneud y pethau yma yn Gymraeg yn syth:

b. Dros y 6 mis nesaf bydd angen help arna i i wneud y pethau yma yn Gymraeg hefyd:

Ein cynllun ni

a. Dyma’r pethau y gallwn eu gwneud yn Gymraeg yn syth:

b. Dros y 6 mis nesaf bydd angen help arnon ni i wneud y pethe yma yn Gymraeg hefyd:

 

 

llinell