gan Glenda Brown, Swyddog Asesiadau Cymraeg yn y Gweithle, CBAC
Datblygiadau’r Prosiect Arfau Diagnostig Ar-lein Cymraeg yn y Gweithle
Agoriad llygaid a gefais i, Emyr Davies (CBAC) ac Awen Penri (APADGOS), wrth ymweld ag un o aelodau ALTE sef Cambridge ESOL, sy’n gyfrifol am gymhwyster BULATS (Business Language Testing Service) yn ddiweddar. Buon ni yno ar daith ymchwil i ddarganfod mwy am wasanaeth mesur sgiliau ieithyddol ar-lein ar gyfer y gweithle a oedd i’w weld yn hynod o drawiadol ar y we. Roedd hyn yn cynnwys arolwg o ba arferion da y gallem eu hystyried a’u mabwysiadu wrth ddatblygu’r Prosiect Arfau Diagnostig ar gyfer y sector breifat yng Nghymru.
Y Prosiect
Nod y prosiect yw creu porth ar-lein a fydd yn cynnwys dau erfyn diagnostig i:
- alluogi cyflogwyr i ddadansoddi pa sgiliau iaith Gymraeg sydd angen ar eu staff ac i adnabod pa swyddi o fewn eu sefydliadau a ddylai gael eu targedu (Yr Erfyn Diagnostig Rheolaeth); a
- rhoi modd i gyflogwyr i ddadansoddi sgiliau iaith Cymraeg presennol eu staff ac i ffocysu ar yr agweddau sydd angen eu gwella, i’w galluogi i weithredu trwy gyfrwng y Gymraeg yn y gweithle (Yr Erfyn Diagnostig Sgiliau).
Sut bydd hyn yn digwydd mewn gwirionedd?
Bydd yr Erfyn Diagnostig Rheolaeth yn erfyn dadansoddol ar-lein i alluogi cyflogwyr i asesu pa swyddi sydd angen siaradwyr gyda sgiliau yn y Gymraeg e.e.
- gyda swydd derbynnydd, gall fod yn ofynnol i’r aelod o staff groesawu cwsmeriaid yn ddwyieithog ac i gynnal sgyrsiau sylfaenol, felly byddai angen i’r aelod o staff gael sgiliau llafar sylfaenol yn y Gymraeg;
- gyda swydd rheolwr cyfrifon, gall fod yn ofynnol i’r aelod o staff fod yn medru trafod gwybodaeth fanwl o’r sector ac i baratoi adroddiadau, felly byddai angen i’r aelod o staff gael sgiliau uwch yn y Gymraeg ynghyd â’r gallu i ysgrifennu yn y Gymraeg.
Bydd yr Erfyn Diagnostig Sgiliau hefyd yn erfyn ar-lein, i alluogi rheolwyr i asesu sgiliau ieithyddol unigol eu staff, ac i adnabod y rhai sydd angen hyfforddiant iaith pellach. Bydd yr erfyn yn eu galluogi i greu proffil o sgiliau ieithyddol mewn ffordd ymarferol e.e. datganiadau:
‘Mae e / hi’n gallu gofyn cwestiynau sylfaenol ffeithiol a deall atebion mewn iaith syml’.
Bydd hefyd yn amlygu mannau lle mae’r aelod o staff angen hyfforddiant pellach.
Bydd canlyniadau’r arfau diagnostig yn galluogi cyflogwyr i ffocysu ar y bylchau ac i osod targedau realistig mewn modd fforddiadwy.
Yn hyn o beth, mae ganddo’r potensial i fod yn offeryn cryf iawn i ddod â’r sector breifat yn rhan o’r broses i gynnig mwy o wasanaethau dwyieithog.
Llawer iawn, a dweud y gwir!
Erfyn ar gyfer gweithleoedd a dysgwyr yw Gwasanaeth Profi Iaith Fusnes ESOL Caergrawnt, sy’n ffordd gyflym, ddibynadwy a fforddiadwy o asesu sgiliau ieithyddol cyflogwyr, hyfforddeion ac ymgeiswyr swyddi.
Mae BULATS yn profi’r sgiliau cyfathrebu sydd eu hangen mewn sefyllfa busnes real, ac yn profi’r pedwar sgìl – gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu mewn pedair iaith – Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg. Cynigir yr ieithoedd eraill gan aelodau eraill o ALTE yn y gwledydd perthnasol.
Maent yn cynnig amryw o brofion i ddiwallu anghenion gwahanol sef ar-lein, drwy CD-Rom a phrofion papur. Mae pob prawf yn annibynnol o’r gweddill, sy’n caniatáu iddynt gael hyblygrwydd i addasu eu gwasanaeth yn ôl yr angen.
Mae’r profion ar-lein yn defnyddio technegau profi addasol sy’n golygu bod y profion yn unigryw ac yn cydnabod lefel benodol yr ymgeiswyr. Wrth i’r ymgeiswyr weithio drwy’r prawf, mae’r system yn dewis y cwestiwn nesaf ar sail ateb y cwestiwn blaenorol sy’n anoddach neu’n haws nes bod lefel gyson wedi’i chyflawni.
Cynhyrchir canlyniadau clir, hawdd i’w deall ar gyfer yr ymgeiswyr neu’r grwpiau, yn dibynnu ar yr angen. Mae’r canlyniadau rhwng 1-100 wedi’u mapio i gymwysterau ESOL Caergrawnt, ac i fframweithiau cydnabyddedig megis Fframwaith Cyffredin Ewrop / ALTE.
Ar ôl danfon amryw o gwestiynau iddynt o flaen llaw, cawsom gyfarfod â phum swyddog ar adegau gwahanol i drafod y cwestiynau a chael cyflwyniadau o’r hyn a wnaent.
Roedd gennym ddiddordeb penodol i weld sut mae BULATS yn asesu sgiliau llafar, gan fod angen rhoi blaenoriaeth i hynny wrth ddatblygu’r arfau Cymraeg. Syndod oedd clywed eu bod yn profi sgiliau llafar drwy alluogi’r ymgeiswyr i recordio eu hymatebion ar-lein. Mae’r ffeil sain wedyn yn cael ei e-bostio i farciwr allanol. Roeddent wedi sicrhau bod y prawf wedi’i amseru a bod cyfarwyddiadau clir a dealladwy ar y sgrin i dywys yr ymgeiswyr drwy’r prawf.
Gan edrych yn ôl ar ein hymweliad â Chaergrawnt, mae’n amlwg bod tomen o arferion da y gallwn eu hystyried. Mae cyfle cyffrous o’n blaenau i greu arfau sy’n mynd i hwyluso’r defnydd o’r iaith Gymraeg ac i alluogi gweithleoedd i gynllunio er mwyn cynnig mwy o wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector breifat. Gobeithio y gellir dweud, ymhen amser, ein bod wedi addasu a chreu arfau sydd yr un mor soffistigedig â BULATS ar gyfer ein dibenion ni yng Nghymru.