Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl cystadleuaethllun siop inc

Siop Inc yn Aberystwyth oedd wedi noddi’r gystadleuaeth yn y rhifyn diwethaf, gan gynnig gwobr hael o docyn llyfr gwerth £20.

Y cwestiwn oedd:

Pwy enillodd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn, 2009?

Yr ateb cywir, wrth gwrs, yw Meggan Lloyd Prys ac roedd nifer ohonoch wedi anfon yr ateb cywir atom erbyn 22 Mawrth. Yr enillydd lwcus yw Helen Owen o Lanelli. Llongyfarchiadau mawr i chi a mwynhewch y darllen!

 

cystadleuaeth newydd
Mae’r adeg hon o’r flwyddyn, yn draddodiadol, yn gyfnod prysur iawn wrth i ddysgwyr ar hyd a lled y wlad ddechrau paratoi ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae cystadlaethau perfformio a chystadlaethau ysgrifenedig i bobl sy'n dysgu Cymraeg. Ydych chi'n gwybod am rywun sy’n gallu dweud jôcs neu stori? Ydy’ch dosbarthiadau chi’n mwynhau canu mewn côr?  Neu beth am lefaru? 

Ceir cystadlaethau ysgrifennu barddoniaeth, rhyddiaith a hyd yn oed blog hefyd! Dewch draw i babell y dysgwyr, sef Maes D, i weld pwy sydd wedi cyrraedd y brig.  Am fanylion pellach am yr holl gystadlaethau i ddysgwyr, edrychwch ar y Rhestr Testunau.

Bydd rhai ohonoch, mae’n siŵr, hefyd yn cyfrannu at y gwaith o drefnu gweithgareddau Maes D. Hoffech chi neu’ch dysgwyr helpu ym Maes D yn ystod wythnos yr Eisteddfod?  Bydd angen llawer o wirfoddolwyr i helpu yn y babell: yn croesawu ymwelwyr, sgwrsio yn Gymraeg a helpu yn y caffi. Os oes diddordeb gyda chi mewn gwirfoddoli ym Maes D, ewch i’r ddolen hon: http://www.eisteddfod.org.uk/cymraeg/content.php?nID=328

llun serYna, argraffwch y ffurflen 'Maes D Ffurflen Gwirfoddoli' a’i hanfon yn ôl at Jo Knell yn Swyddfa'r Eisteddfod (40 Parc Tŷ Glas, Llanisien, Caerdydd, CF14 5DU). Hefyd, gallwch e-bostio Jo Knell, Swyddog Datblygu'r Gymraeg:  jo@eisteddfod.org.uk .  Ffôn:  02920 763777


Bydd y swyddogion yn cysylltu â chi ym mis Mai i drefnu pa ddiwrnod dych chi eisiau gweithio.

Y wobr y tro hwn yw pâr o docynnau maes ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, o 31 Gorffennaf i 7 Awst, ac mae’r wobr yn rhoddedig gan swyddfa’r Eisteddfod. Medrwch anfon eich ateb trwy fynd i’r adran Cysylltu a’r dyddiad cau yw 31 Mai 2010. Felly brysiwch!

Y cwestiwn yw:

Ble bydd Eisteddfod Genedlaethol 2010 yn cael ei chynnal?

Pob lwc!

llinell ser