Gwraig gynnes, agos-atoch a thiwtor amryddawn sydd wedi dysgu Cymraeg ei hun. Daw Helen o Abertawe’n wreiddiol a chafodd ei haddysg drwy gyfrwng y Saesneg yn Ysgol Gyfun Mynydd Bach. Aeth ymlaen i Brifysgol Caerdydd i astudio’r Gymraeg gan ymgolli’n llwyr yn swyn yr iaith. Am gyfnod ar ôl gadael coleg bu’n gweithio ar lawysgrifau canoloesol yn y Llyfrgell Genedlaethol, ac yn benodol ar Lyfr Coch Hergest. Aeth ymlaen wedyn ar ddechrau’r 80au i gwblhau traethawd ymchwil M.A. gan ganolbwyntio ar agweddau ar fenywod mewn llenyddiaeth Hen Wyddeleg, ac edrych ar gymariaethau yn y Gymraeg. Treuliodd flwyddyn yn Cork yn Iwerddon cyn dychwelyd i Gaerdydd i orffen yr ymchwil.
Wedi hynny, ymunodd â Chanolfan Dysgu Cymraeg i Oedolion, Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd dan arweinyddiaeth Chris Rees. Bu yno’n gweithio a dysgu ei chrefft fel tiwtor am 3 blynedd. Mawr yw ei diolch i Chris Rees a greodd gymaint o argraff arni gyda’i ffordd dawel, diymhongar a’i hiwmor sych. Roedd yn gyfnod cyffrous gyda Helen yn rhannu dosbarth gyda Chris. Roedd hi hefyd yn adeg sefydlu S4C ac o ganlyniad roedd nifer o actorion a gweithwyr y Swyddfa Gymreig yn mynychu’r dosbarthiadau a gynhaliwyd ddwy waith y dydd – o 7.30 i 9.00 bob bore ac o 4.30 i 6.00 bob prynhawn. Cafodd y cyfnod hwnnw ddylanwad mawr arni, ac wrth fynychu un o weithgareddau anffurfiol y Ganolfan y cyfarfu â’i gŵr, Digby, oedd yn ddysgwr yn nosbarth y tiwtor Elwyn Hughes!
Gyda’i gŵr yn cael cynnig swydd yng Nghastell Newydd Emlyn, daeth cyfle i symud i ardal Gymraeg yng ngorllewin Cymru i fagu teulu. Wrth fagu’r tri mab, Rhys, Rhodri a Llion, bu Helen yn gweithio rhan amser am ryw 12 mlynedd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Llanbedr Pont Steffan, gyda’i chyfrifoldebau’n cynnwys dysgu’r cwrs isdeitlo, sef cwrs arloesol bryd hynny. Bu hefyd yn Swyddog Prosiectau Cynlluniau Ewropeiadd yn yr Adran, gan hyrwyddo dwyieithrwydd mewn busnesau bach.
Law yn llaw â’i gwaith bob dydd, byddai Helen hefyd yn parhau i gynnal dosbarthiadau nos yn ardaloedd Llandysul, Aberteifi a Chastell Newydd Emlyn, yn ogystal â gwneud gwaith gwirfoddol gwerthfawr gyda Gwasanaethau Cymdeithasol Ceredigion a’r gwasanaeth cwnsela, Cruse. Symudodd ymlaen wedyn i wneud gwaith cyfieithu a golygu cyn penderfynu treulio mwy o amser gyda’r teulu. Erbyn hyn, mae’n brif diwtor gyda Chyngor Sir Penfro a hefyd yn dysgu dosbarthiadau i Gyngor Sir Ceredigion gan ddysgu dosbarthiadau o bob safon, o Fynediad i Uwch. Mae’n amlwg ei bod hi wrth ei bodd yn tiwtora, gydag un dosbarth wedi aros gyda hi am 8 mlynedd! Hoffai weld y maes CiO yn proffesiynoli mwyfwy, gyda’r sicrwydd y byddai tiwtora’n datblygu’n yrfa dda, safonol.
Mae Helen hefyd yn gweithio fel cwnselydd teuluol gyda Relate ac mae’n teimlo’n aml fod gan y ddwy swydd yr un swyddogaeth – sef creu sefyllfa lle gellir hwyluso sgwrs yn naturiol. Ac yn wir, mae Helen yn medru tynnu’r siaradwr ati mewn ffordd dawel, hamddenol – bron heb i chi sylweddoli.