Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

gweithgareddau'r dysgwyr

Gyda llai na 100 o ddiwrnodau cyn cyngerdd agoriadol Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd mae pethau’n poethi yma yn Adran y Dysgwyr.

Ddydd Sadwrn, Mai 8fed bydd Rownd Gyn-derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn cael ei chynnal yn Ysgol Gyfun Glyncoed, Glynebwy. Braf iawn yw nodi bod 29 wedi cystadlu eleni felly rydym yn edrych ymlaen at gystadleuaeth gyffrous. Ein beirniaid ar y diwrnod hwnnw fydd Robat Powell, Donna Edwards, Gillian Elisa a Hywel Jones. Bydd pedwar ymgeisydd yn cael eu dewis ganddynt erbyn diwedd y prynhawn i fynd i’r Rownd Derfynol ddydd Mercher, Awst 4ydd, gyda chinio Dysgwr y Flwyddyn y noson honno yn Institiwt Llanhiledd. Arweinydd y noson yw Garry Owen a bydd bwffe a thwmpath gyda Jac y Do. Cofiwch brynu’ch tocynnau yn gynnar ar gyfer yr achlysur arbennig hwn.

llinell

Maes D

gweithgareddai2Cofiwch alw ym Maes D bob dydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod! Galwch am baned a sgwrs yn y caffi gydag enwogion fel Dewi Pws a Iolo Williams neu dewch am wersi Cymraeg bob dydd.  Bydd cyfle i glywed siaradwyr diddorol yn trafod hanes yr ardal, byd y campau, y Mabinogi a’r gynghanedd, ymhlith pynciau eraill. Bydd cyfle i ddysgu canu’r anthem genedlaethol, chwarae gêm o Scrabble Cymraeg, gweld llwyau caru yn cael eu cerfio a phrynu pob un llyfr Cymraeg dan haul! Mae dydd Sul wedi ei glustnodi gan yr Eisteddfod fel diwrnod i’r teulu ac ym Maes D fe gawn gwmni Martin Geraint, Kariad y Clown ac eraill i ddiddanu’r plant.

gweithgareddau2

Bob nos bydd Maes D ar agor tan 8 o’r gloch (heblaw am nos Fercher, sef noson Dysgwr y Flwyddyn, pan fyddwn yn cau am 5 o’r gloch). Am 6 o’r gloch yr hwyr cawn ymlacio a chau pen y mwdwl ar weithgareddau’r dydd yng nghwmni cerddorion arbennig. Dewch i glywed, ymysg eraill, Brigyn, Betti Galws a Steve Eaves. Daw Heather Jones hefyd i gadw cwmni i ni yn ystod yr wythnos. Dafydd Iwan fydd yn agor Maes D y Sadwrn cyntaf gyda chymorth Côr y Dreigiau a fe fydd Dafydd gyda ni eto ym mharti y Sadwrn olaf pan fyddwn yn trosglwyddo’r awenau i Bwyllgor Dysgwyr Wrecsam gyda’n dymuniadau gorau. Ond, cyn hynny, cawn wythnos a mwy o hwyl ym Maes D yng Nglynebwy yn Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd. Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi yno. Cofiwch ddod!!

llinell