Sarah yn serennu
Daeth Sarah Mercelsanca i’w gwers yng Nghoed Parc fore Mawrth, ar yr 2il o Fawrth, yn gwisgo crys rygbi coch, geiriau’r anthem genedlaethol ar ei chefn a chenhinen Pedr ar y ffrynt. Saesnes yw Sarah sydd wedi ymgartrefu ac ymdoddi’n llwyr i’r gymdeithas ym Mro Morgannwg. Cafodd deg aelod arall y dosbarth Uwch y cyfle i ddymuno Dydd Gŵyl Dewi iddi ond hefyd i’w llongyfarch ar ei gorchest ddiweddaraf.
Mewn Cymraeg croyw ac acen glir, disgrifiodd sut enillodd hi’r wobr gyntaf mewn cystadleuaeth genedlaethol a gynhelir gan Ffederasiwn Dofednod Cymru - gyda thri wy perffaith a chytbwys. Wyau a ddodwyd gan hwyaden Khaki Campbell o’r enw Jemima oeddynt. Gyda’r wyau hyn fe lwyddodd Sarah i faeddu wyau neb llai na noddwr y Ffederasiwn, sef y Tywysog Charles!
Yn ogystal ag ennill y wobr gyntaf gyda’r wyau, cafodd Sarah lwyddiant arall hefyd. Enillodd Kelly, sydd yn cyd-fyw â Sarah, wobr am fod y gorau yn y sioe. Twrci pum mis oed yw Kelly gyda llaw ac mae i’w gweld yn y llun. (Sarah sydd ar y dde!!)
Llongyfarchiadau gwresog i Jemima, Kelly a Sarah.