Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitladnoddau newydd

Cant y Cant  - 100%

Llyfr newydd gan R. Alun Charles

Yn ôl yr amcangyfrifon diweddaraf, mae tri chwarter miliwn o bobl yng Nghymru a thu hwnt yn gallu siarad Cymraeg gan gynnwys rhyw hanner can mil o bobl yn Llundain a chnewllyn ym Mhatagonia. Yng Nghymru, roedd y Cyfrifiad ddeng mlynedd yn ôl yn dweud bod dros filiwn o bobl yn deall Cymraeg hyd yn oed os nad ydyn nhw’n ei siarad hi’n rhugl.

Bellach, mae dysgu Cymraeg yn digwydd ymhob twll a chornel – bydd Prifysgol Caerdydd yn unig yn cofrestru dwy fil o fyfyrwyr newydd ar eu cyrsiau bob blwyddyn! – ac wrth gwrs, erbyn hyn mae pob plentyn ysgol yng Nghymru’n cael gwersi hyd at lefel TGAU.

llun cant y cantOnd un peth yw dysgu geiriau a brawddegau sylfaenol; peth arall yw dod yn rhugl a hyderus i allu darllen Cymraeg. Tra bo llawer o ddysgwyr yn llwyddo i ymdoddi’n llwyr i’r gymuned, mae dechrau magu hyder i ddarllen, gan agor drysau i gyfoeth ein diwylliant llenyddol ac ysgrifenedig, yn gallu bod yn anodd, yn enwedig ar ôl mynychu dosbarthiadau sy’n annog pobl i siarad yn unig.

Gweld y bwlch hwn yn y ddarpariaeth barodd i Alun Charles fynd ati i ysgrifennu Cant y Cant. Llyfr lliwgar, llawn o luniau a gwybodaeth ddiddorol, sy’n sôn am bob math o bynciau, gan gynnwys pontydd y byd, trychinebau, bwydydd, y Cymry cyntaf, menywod a llu o bethau eraill.

Y syniad tu ôl i’r gyfrol yw cynnwys cant o ddarnau a phob un yn gant o eiriau o hyd ar bob math o wahanol feysydd, ac nid dim ond pethau’n ymwneud â Chymru a’r Gymraeg chwaith. Mae’r adran ar ganolfannau chwaraeon yn cynnwys cant o eiriau am Barc Croke a Madison Square Gardens yn ogystal â Lord’s a Stadiwm y Mileniwm, a chewch wybod am bobeth o jîns a chrysau-t i emwaith Rhiannon a dillad Ji-binc yn yr adran ar Steil.

I helpu’r darllenwr Cymraeg dihyder, mae geirfa ar waelod y dudalen a digon o arddulliau gwahanol, yn llythyron, deialogau a disgrifiadau hyfryd, i roi cymorth i ddysgwyr arfer â gweld y Gymraeg yn cael ei hysgrifennu.

Os gwyddoch chi am rywun sy’n dysgu Cymraeg, mae’r gyfrol hon yn mynd i fod yn ffordd wych o symud ymlaen o siarad yr iaith i ddod yn rhugl ynddi. Byddai’n gwneud anrheg ddelfrydol. Dyna sut i blesio ... 100%!

Cant y Cant gan R. Alun Charles.
Gwasg Gomer, £8.99.
Am ragor o fanylion ewch i www.gomer.co.uk

llinell

Panel Adnoddau

Fel rhan o'r broses o adnabod anghenion ar gyfer rhaglen gomisiynu adnoddau Cymraeg i Oedolion APADGOS, mae gwahoddiad i diwtoriaid gynnig sylwadau am adnoddau sydd wedi'u cyhoeddi neu syniadau am brojectau newydd.

Bydd cynrychiolwyr o bob canolfan yn mynychu cyfarfod i drafod y blaenoriaethau ar gyfer y rhaglen eleni. Dylid anfon unrhyw sylwadau neu argymhellion am ddeunyddiau newydd (gan nodi lefel a disgrifiad o'r adnodd) i'w hystyried gan y panel at dyfan.evans@cymru.gsi.gov.uk erbyn 4 Mehefin.

llinell

llun hyfedreddFfeil Hyfedredd  

Bwriedir lansio’r Ffeil Hyfedredd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd 2010. Dyma benllanw blynyddoedd o baratoi a cheir mwy o fanylion yn rhifyn nesaf y Tiwtor. 

 

 

 

llinell