Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

Ar draws Ffiniau

gan John Evans

logo daonscoil
I’r cynfyd y camwn, medd Gwenallt, wrth groesi’r ffin i Ddyfed, sef bro’r hud a lledrith a ddisgrifir yn y Mabinogi. Wel, croesais ddwy ffin arwyddocaol eleni, wrth fynd i Iwerddon i fynychu cynhadledd o Wyddelod croesawgar a ffein iawn. Y cam cyntaf, gan deithio ym mherfeddion nos ym mis Awst, oedd croesi’r môr o Abergwaun i Rosslare i wlad rhai o’m cyndadau. Yr ail gam oedd croesi ffin fewnol i dalaith Munster sydd, yn ôl traddodiad, yn cyfateb yn union i Ddyfed gyda’i niwl hudolus a nodweddion eraill. Am wythnos bûm yn byw hunaniaeth Wyddelig ac yn mwynhau naws y fro sy’n gartref i gyfran helaeth o siaradwyr yr iaith frodorol, chwe milltir o Dungarvan yn Sir Borthlarg (Waterford.)

llun ysgol hafPwrpas fy nhaith oedd er mwyn cyfrannu at yr Ysgol Haf i oedolion sy’n dysgu’r Wyddeleg, sef y Daonscoil na Mumhan (coleg y Werin, Munster.) Sefydlwyd yr ysgol haf werinol hon ym 1953, lle rhoddir lle blaenllaw i bob agwedd ar ddiwylliant Iwerddon. Cynhelir yr wythnos gyfan a’i holl sesiynau drwy gyfrwng yr Wyddeleg. Yn ystod yr wythnos ceir darlithoedd, dadleuon, dosbarthiadau dysgu’r Wyddeleg ar bob lefel, sesiynau darllen ac ysgrifennu barddoniaeth a dosbarthiadau arlunio. Rhoddir pwyslais mawr ar fwynhau e.e. trwy chwarae gemau, nofio, cerdded, canu a cherddoriaeth.

Eleni, daeth rhyw drigain o garedigion yr iaith Wyddeleg ynghyd i drafod ac i wrando, i ganu ac i adrodd. Ers rhai blynyddoedd rwyf, ar gais y penaethiaid, yn rhoi gwersi Cymraeg drwy gyfrwng yr Wyddeleg (alltudir y Saesneg am wythnos) ac roedd dosbarth gennyf eto eleni. Yn unol â phatrwm Defnyddio’r Gymraeg: Cwrs Mynediad, aethpwyd i’r afael â chyfarch, ffarwelio, holi am iechyd, manylion personol, diddordebau a bwydydd a diodydd. Bu cardiau fflach CBAC yn gymorth mawr. Eleni eto, cafodd y dimensiwn Cymraeg dderbyniad gwresog er gwaethaf fy holl ffaeleddau wrth diwtora! Wrth gwrs, roedd yn help i’r myfyrwyr fod cystrawen a geirfa’r ddwy iaith yn debyg iawn. Bydd rhai ohonynt yn mynd ymlaen i ymestyn eu gwybodaeth drwy’r we ac yn ymweld â Chymru, ac yn ail-sefydlu hen berthynas.

Mae’n bwysig ein bod yn parhau i ddeall a gwerthfawrogi ein gilydd, fel lleiafrifoedd yr ynysoedd hyn, ac mae gennym oll gyfraniad i’w wneud.

Ewch i’r wefan am fwy o fanylion: http://www.daonscoil.com


John Evans

llinell