Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

Rhifyn 9, sef rhifyn y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd!Croeso arbennig i’r Tiwtor ar ei newydd wedd.

llun y clawrMae’r rhifyn hwn yn rhoi sylw haeddiannol i’r Gynhadledd Genedlaethol i Diwtoriaid Cymraeg i Oedolion 2009 a gynhaliwyd yn Venue Cymru, Llandudno ym mis Tachwedd.

Bu’n ddau ddiwrnod prysur a buddiol a cheir blas ar rai o’r sesiynau yn y rhifyn hwn o’r Tiwtor:
Cafwyd cyfle yno i glywed sesiwn ar Sgiliau Meicro Wrando gan Haydn Hughes ac Elin Williams, a chawsom ein cyflwyno i’r newidiadau i’r Arholiad Canolradd gan Emyr Davies. Hefyd, bu’r Athro Alison Wray yn edrych ar sut y gellid adolygu cyrsiau a deunyddiau Cymraeg i Oedolion.

Rydym yn teithio i Iwerddon yn y rhifyn hwn hefyd, yn olrhain y profiadau gafodd rhai o’n cyfrannwyr yno. Aeth Emyr Davies i Gyfarfod ALTE ym Maynooth, ac i Maynooth yr aeth Janette Jones, hefyd, i edrych ar sut y gellir Asesu Siarad. Aeth John Evans i gyfeiriad gwahanol wrth dreulio cyfnod yn yr Ysgol Haf Wyddelig ym Munster.

Yn ogystal â hynny, rydym yn edrych ar Adnoddau APADGOS, ac ewch i’r adran newydd, Adolygiadau, am wybodaeth ddefnyddiol bellach ar y deunydd sydd ar gael yn ymwneud â’r maes Cymraeg i oedolion. Beth am anrheg ‘Dolig i’ch dysgwyr?

A chan ei bod hi’n dymor rhoi anrhegion fe welwch nad oes gwell anrheg na’r wobr a gynigir yn y Gystadleuaeth, yn enwedig os ydych chi wrth eich bodd gyda Rhod Gilbert!

Peidiwch anghofio am yr adran Deunydd Dysgu ac ewch i chwilota am ddeunydd ar gyfer y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, ymysg pethau eraill. Mae’r taflenni’n barod i’w hargraffu a’u defnyddio yn eich dosbarthiadau.

Ac yn olaf, cawn gyfle yn y rhifyn hwn i dalu terynged i un o gymwynaswyr mawr y maes Cymraeg i Oedolion, sef Elen Rhys.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda.

llinell