Cyfarfod ALTE
11-13 Tachwedd 2009
Cynhaliwyd 37fed cyfarfod ALTE ym Maynooth, Iwerddon, drwy wahoddiad Prifysgol Genedlaethol Iwerddon Maynooth. Dyma’r corff sy’n gyfrifol am yr arholiadau Gwyddeleg i oedolion, ac mae’n werth tynnu sylw at y wefan sy’n rhoi gwybodaeth am y Teastas Eorpach na Gaeilge, sef www.teg.ie.
Rhennir cyfarfodydd ALTE yn dair agwedd:
- Grwpiau trafod penodol (SIGs)
- Gweithdai
- Cynhadledd agored (dydd Gwener)
Yn ogystal â’r gwaith uchod, rhaid i aelodau profiadol gyfrannu at bwyllgor gweithredol ALTE i drafod gweithdrefnau, aelodaeth, cyfansoddiad a materion yn ymwneud â chyllido a gweinyddu ALTE.
1. Grwpiau trafod penodol
Gellir dewis o blith nifer o grwpiau, a bûm innau yn y grŵp i drafod Cod Ymarfer ALTE a’r grŵp i drafod llawlyfr newydd i ddatblygwyr arholiadau. Mae’r rhan fwyaf o aelodau ALTE wedi bod drwy awdit, yn unol â gofynion y cod ymarfer. Llwyddodd yr arholiadau Mynediad a Sylfaen i fynd drwy’r broses hon bron i ddwy flynedd yn ôl. Wedi’r rownd gyntaf, bydd angen gweithredu’r argymhellion a wnaethpwyd yn sgil yr awdit cyntaf, ac o safbwynt CBAC, cynnwys y lefel nesaf yn yr awdit nesaf ymhen blwyddyn. Mater o fireinio’r PFA (Procedures for Audit) oedd nod y cyfarfod hwn.
Trafod fersiwn drafft o ddogfen benodol oedd y nod yn y grŵp arall, sef llawlyfr i ddatblygwyr arholiadau. Mae hen fersiwn o’r ddogfen hon ar gael drwy Gyngor Ewrop (a baratowyd yn y nawdegau), a chomisiynwyd ALTE gan Gyngor Ewrop i ddiweddaru’r ddogfen honno. Mae llawer o waith i’w wneud i gael y llawlyfr diwygiedig yn barod i’w gyhoeddi, ond os oes gan unrhyw un ddiddordeb yn y fersiwn drafft, gellir cysylltu â mi i gael copi.
2. Gweithdy
Yr unig weithdy y cafwyd cyfle i fynd iddo oedd y gweithdy ar osod safonau, a gynhaliwyd gan Tony Green, Prifysgol Swydd Bedford. Mae ‘gosod safonau,’ meddai, yn ymwneud ag
unffurfiaeth, awdurdod a gwerthuso. Yng nghyd-destun arholiadau, sicrheir bod yr arholiadau’n unffurf ar draws pob gweinyddiad; bod defnyddwyr yn gweld bod rhyw awdurdod tu cefn iddynt; a hefyd eu bod yn fodd o werthuso ymgeiswyr a’u mesur yn erbyn rhyw linyn allanol.
Mae’n amlwg, meddai, fod y CEFR (Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop) yn dod yn fwyfwy amlwg fel cyfeirlyfr safonau yn y maes dros y byd, ac un o brif nodau’r fframwaith yw ‘sefydlu safonau cyffredin’. Mae perthynu â’r fframwaith felly’n rhan o’r broses o osod safonau. Ceir llawer o ganllawiau ar osod safonau yn y llawlyfr sy’n helpu datblygwyr i berthynu eu harholiadau â Fframwaith Ewrop. Gellir cael hyd i’r ddogfen hon ar wefan Cyngor Ewrop: http://www.coe.int/t/dg4/linguistic/Manuel1_EN.asp
Cyfeiriodd at lyfr Standard Setting: A Guide to Establishing and Evaluating Performance Standards on Tests gan Gregory J.Cizek a Michael B.Bunch (golygyddion) Sage Publications 2007, fel llyfr defnyddiol wrth lunio safonau mewn arholiad, e.e. sut i bennu marciau trothwy ac yn y blaen. Un o’r syniadau sylfaenol i’r broses yw’r MAP (Minimally Acceptable Person) - cysyniad rhyfedd ond allweddol. Yn syml iawn, mae arbenigwyr profiadol yn dod i benderfyniad beth yw’r lleiaf y mae’n rhaid i ymgeisydd fod yn gallu ei wneud ar y lefel benodol honno i gael cymhwyster neu radd benodol. Yn yr arholiadau CiO, gwneir hynny drwy edrych ar waith yr ymgeiswyr yn erbyn y disgrifiadau graddau, a chan ailfarcio gwaith pob ymgeisydd ffiniol yn ofalus. Fodd bynnag, mae sawl ffordd o wneud hyn, ac un o’r dulliau a ddisgrifir gan Cizek a Bunch yw dull ‘Angoff’ o osod trothwyon llwyddo mewn profion goddefol. Gan gofio am y MAP (uchod), mae’r arbenigwyr profiadol yn penderfynu pa eitemau y byddai disgwyl i’r ymgeisydd derbyniol damcaniaethol hwnnw eu cael yn gywir. Byddai’r cymedr yn rhoi arwydd clir o’r trothwy llwyddo priodol i’r ymgeisiaeth gyfan wedyn.
3. Cynhadledd Agored
Roedd nifer o siaradwyr ar y rhaglen, a chyfle i diwtoriaid Gwyddeleg i oedolion ddod i glywed y darlithiau hyn, nifer ohonyn nhw yn yr iaith Wyddeleg (gyda chyfieithu ar y pryd).
Pádraig Ó hAoláin (Prif Weithredwr, Udarás na Gaeltachata)
Steve Coleman (Adran Anthropoleg, Prifysgol Maynooth)
Seán Ó Cuirreáin (An Coimisinéir Teanga)
Roedd siaradwyr y bore’n canolbwyntio ar sefyllfa’r iaith Wyddeleg yn ardaloedd y Gaeltacht. Tynnwyd sylw at ddeddfwriaeth ar gyfer yr iaith Wyddeleg (2003) a’r effaith y mae hynny wedi ei gael. Cyfeiriodd Seán Ó Cuirreáin, y comisiynydd iaith, at y bwriad i gyhoeddi cynllun pum mlynedd ym mis Rhagfyr 2009. Er nad yw’r manylion ar gael eto, mae’n debyg y bydd y cynllun yn gosod nodau penodol i gynyddu nifer y siaradwyr yn yr un modd ag Iaith Pawb yng Nghymru.
Joanna McPake (Prifysgol Strathclyde)
Siaradodd Joanna McPake am broject Valeur, a ariannwyd drwy’r ECML (Canolfan Ewrop ar gyfer Ieithoedd Modern) yn Graz. Y nod oedd mapio’r holl ieithoedd ‘ychwanegol’ sy’n bodoli yn Ewrop - nid yn unig yr ieithoedd ‘brodorol’ fel y Gymraeg a’r Fasgeg, ond ieithoedd ymfudwyr fel Arabeg neu Tseinëeg, a rhai ieithoedd didirogaeth fel Romani. Dangosodd fod amlieithedd ar gynnydd ar draws Ewrop. Y gwladwriaethau lle roedd y nifer fwyaf o ieithoedd yn cael eu siarad oedd y DU (288), Sbaen (198) ac Iwerddon (158), y gwledydd a welodd y nifer fwyaf o ymfudwyr dros ddegawd a mwy. Dyma’r ymdrech fwyaf cynhwysfawr i fapio amlieithedd ar draws cyfandir ac mae’n sail i bolisi Ewropeaidd o godi ymwybyddiaeth o’r ieithoedd hyn a chefnogi’r defnydd ohonynt.
Barry O’Sullivan (Prifysgol Roehampton)
Testun Barry O’Sullivan oedd arholi ieithoedd llai eu defnydd. Prif fyrdwn ei sgwrs oedd bod modd i’r arholiadau ‘bychain’ wneud pethau cystal os nad gwell na’r arholiadau, cyhyd â’u bod wedi eu seilio ar egwyddorion dilysrwydd cadarn. Cyfeiriodd yn gadarnhaol at yr arholiadau CiO, gan dynnu sylw at y fersiynau de a gogledd a ddarperir o’r arholiadau ar y lefelau cyntaf. Mantais arholi ieithoedd llai eu defnydd yw bod y datblygwyr yn adnabod y gynulleidfa’n well, ac yn gallu bod yn fwy hyblyg o ran darparu arholiadau addas ar eu cyfer.
Siuán Ní Mhaonaigh
Amlinellodd Siuán sut y datblygwyd yr arholiadau Gwyddeleg i oedolion, y Teastas Eorpach na Gaeilge. Mae’r niferoedd wedi cynyddu’n gyson ers eu sefydlu tua phum mlynedd yn ôl, a’r galw am ganolfannau i’w cynnal yn lledu, nid yn unig yn Iwerdddon, ond dros y byd. Cafwyd cipddarlun o’r cwestiynau oedd yn codi wrth ddatblygu’r arholiadau a gwelwyd mai’r un materion sy’n effeithio ar yr arholiadau CiO, e.e. delio â thafodieithoedd a ffurfiau llafar, y duedd i ymgeiswyr sefyll arholiad ar lefel is na’u gallu. Er bod darlun cymysg o ran darpariaeth cyrsiau Gwyddeleg, mae’n amlwg fod yr arholiadau a’r safonau a ddiffinnir ganddynt yn sail gadarn i ddatblygiadau eraill.
David Little (Coleg y Drindod, Dulyn)
Siaradodd David Little am sut y dylai systemau addysg cenedlaethol ymateb i her y CEFR (Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop). Roedd hyn yn ddatblygiad ar ei sgwrs yng nghyfarfod ALTE Tachwedd 2005 a gynhaliwyd yng Nghaerdydd, dan nawdd CBAC. Ar hyd Ewrop yn gyffredinol, nid yw effaith y fframwaith i’w gweld ar ysgolion yn amlwg iawn. Mae maes dysgu oedolion a mewnfudwyr yn wahanol, a dyna’r maes y bu David Little yn gweithio ynddo, sef datblygu cyrsiau a llwybrau dilyniant i fewnfudwyr i Iwerddon i’w galluogi i ddysgu Saesneg - yn blant ac yn oedolion. Ceir rhagor o hanes sut y defnyddiwyd y Portffolio Iaith Ewropeaidd (sy’n seiliedig ar y CEFR) fel offeryn canolog i wneud y gwaith hwn yn y ddogfen: The European Language Portfolio: a guide for teachers and teacher trainers http://www.coe.int/T/DG4/Portfolio
Emyr Davies
Swyddog Arholiadau Cymraeg i Oedolion