Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

Adnoddau APADGOS

Lansio DVD y Big Welsh Challenge

llun big welsh challenge

Fel rhan o’r rhaglen o weithdai yn y gynhadledd Cymraeg i Oedolion eleni, bu cyfle i diwtoriaid gael rhagolwg o DVD newydd a ddatblygwyd gan y BBC sy’n seiliedig ar gwrs ar-lein y Big Welsh Challenge.

Amcan yr adnodd hwn yw cyflwyno’r holl ddeunydd fideo ar wefan y BWC ar ffurf DVD er mwyn galluogi tiwtoriaid, sydd heb gyswllt â’r we yn eu hystafelloedd dosbarth, i wneud defnydd ohono gyda’i dysgwyr. Yn ogystal â’r deunydd fideo, mae’r pecyn yn cynnwys canllawiau cynhwysfawr i diwtoriaid a gweithgareddau newydd sbon.

Cafwyd cyflwyniad i gynnwys yr adnodd yng nghwmni Eleri Wyn Williams a Stuart Brown o Adran Addysg y BBC, a Cennard Davies, awdur y canllawiau a’r gweithgareddau newydd. Dywedodd Eleri Wyn Williams, Pennaeth Addysg BBC Cymru: ‘Roeddem yn hynod falch o gael y cyfle i greu DVD o’r darnau fideo sydd yn rhan o wefan y Big Welsh Challenge ac i gael y fraint o weithio gyda Cennard i greu nodiadau i diwtoriaid fydd yn eu helpu i wneud defnydd effeithiol o’r clipiau mewn dosbarthiadau. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd defnydd o’r adnoddau yn y dosbarth yn annog y myfyrwyr i ddefnyddio’r wefan i gefnogi ac atgyfnerthu’r dysgu sydd yn digwydd yn y dosbarth.’

Cynhyrchwyd y DVD gyda chefnogaeth ariannol APADGOS. Bydd copïau rhad ac am ddim o’r DVD yn cael eu dosbarthu i bob canolfan yn fuan iawn, felly holwch am eich copi!

Gellir hefyd lawrlwytho’r dogfennau ysgrifenedig o wefan y BBC – www.bbc.co.uk/bigwelshchallenge a www.bbc.co.uk/cymru/tiwtoriaid

llinell