Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

Teyrnged i Elen Rhys

gan Alwyn Roberts

rule

llun Elen RhysYm marwolaeth Elen Rhys fe gollodd y maes Cymraeg i oedolion un o'i gymwynaswyr pennaf. Fe'i maged yn Y Barri ar aelwyd ddi-Gymraeg ond diolch i athrawon yn Ysgol Gynradd Romilly ac yn Ysgol Ramadeg y Merched fe ymhoffodd yn y Gymraeg gymaint nes iddi benderfynu mynd i Fangor ac astudio ar gyfer gradd yn y Gymraeg. Yno fe ymdaflodd i frwydr yr iaith yn y Coleg ond hefyd bu’n cynnal cyrsiau i fyfyrwyr di-Gymraeg. Roedd hi ei hun yn ymwybodol o dderbyn yr iaith fel rhodd ac fe ddaeth yn argyhoeddedig ei bod yn rhodd fwy gwerthfawr o'i rhannu ag eraill. Yn yr argyhoeddiad hwn fe ddaeth Elen o hyd i'w chenhadaeth a'i gyrfa.

Ar ôl cyfnod byr yng Nghaerdydd yn dysgu yn rhan-amser ar gyrsiau Chris Rees fe ddychwelodd Elen i Fangor yn diwtor yn yr Adran Allanol ar gyfer Dysgu Cymraeg i Oedolion. Hi oedd y gyntaf i'w phenodi i'r swydd hon ac fe osododd sylfaeni cadarn i'r rhaglen. Roedd hi’n gweld yr angen am ddilyniant o gyrsiau a fyddai'n tywys y dysgwr o'r dechrau hyd at feistrolaeth, ac am diwtoriaid wedi eu dewis yn ofalus, eu hyfforddi a'u cynnal. Gwelodd yr angen hefyd am ddeunyddiau addas ar gyfer pob gris. Bu Bangor yn ffodus iawn i fanteisio ar sgiliau Elen a’i holynwyr sef Carolyn Iorwerth ac Elwyn Hughes.

Y cam nesaf oedd cael ei phenodi yn Swyddog Dysgu Cymraeg i Oedolion gyda CBAC. Yn y swydd hon daeth i adnabod y bobl hynny a oedd yn gweithio yn y maes drwy Gymru gyfan a'r amrywiaeth o amgylchiadau ac o anghenion yn y gwahanol ardaloedd.

Daeth trobwynt yn ei gyrfa gyda sefydlu S4C. Ar y cychwyn roedd Awdurdod y Sianel newydd yn credu mai cyfrifoldeb y sianeli Saesneg yng Nghymru - BBC Wales a HTV – oedd y rhaglenni i ddysgwyr. Cafwyd ymateb chwyrn i hyn gan ddysgwyr a'u tiwtoriaid a oedd yn mynnu bod iddynt hwythau hefyd ran yn y Sianel newydd - a hwy, wrth gwrs, oedd yn iawn. O ganlyniad, fe sefydlodd S4C adran fewnol i ymgymryd â’r cyfrifoldeb hwn a phenodwyd Elen i ofalu am yr adran fewnol honno. Yn Nhachwedd 1989 sefydlwyd yr adran yn gwmni elusennol, sef Cwmni Acen, gydag Elen yn Brif Weithredwr. Yn y swydd hon y treuliodd weddill ei gyrfa broffesiynol.

Prif nod Acen oedd cynnig cynhaliaeth i raglenni dysgwyr y Sianel ac i'r dysgwyr eu hunain. I'r perwyl hwn, darparwyd sgriptiau rhaglenni, cyngor ar safonau iaith, deunyddiau a chyhoeddiadau o bob math a hefyd, ymhen amser, linell gymorth i ddysgwyr a rhaglenni rhyngweithiol ar-lein. Cwmni hunan-gynhaliol yw Acen ac felly yr oedd yn rhaid i Elen sicrhau incwm a fyddai yn cynnal yr holl weithgareddau. Arweiniodd hyn at gontractau ymchwil Ewropeaidd, at waith ymgynghorol mewn gwahanol wledydd ac at gyrsiau wedi eu llunio yn arbennig ar gyfer anghenion cwsmeriaid. Fe ddatblygodd Elen ei gwybodaeth o gymdeithaseg a seicoleg iaith ac fe ddaeth yn gyfrannwr cyson mewn cynadleddau yn y maes. Gan greu o'i chwmpas griw o gyd-weithwyr, Elen oedd prif ysgogydd yr holl weithgareddau hyn a hi oedd yn gyfrifol am reoli’r holl waith. Roedd yn dasg a oedd yn gofyn am hyblygrwydd wrth ymateb i wahanol amgylchiadau a denu gwaith ac arian.

Roedd hi weithiau o flaen ei hamser, fel y gwelir yn yr ymdrech a wnaed i sefydlu Coleg Ddigidol. Byddai’r fenter hon wedi uno sefydliadau addysg uwch a phellach Cymru i ddarparu rhaglen gynhwysfawr o gyrsiau ar-lein. Llwyddiant rhannol oedd y fenter arbennig hon, ond fe gyflawnodd Elen waith aruthrol.

Dyfarnwyd yr MBE iddi am ei gwaith ond fe gafodd fwy o bleser o wobrau a oedd yn cydnabod llwyddiant Acen yn datblygu sgiliau personol y staff - staff a oedd yn cyfuno graddedigion a phobl ifanc ar gyrsiau hyfforddiant y llywodraeth, y Cymry Cymraeg a’r di-Gymraeg gan gynnwys aelodau o gymunedau ethnig Caerdydd. Roedd llwyddiant masnachol Cwmni Acen yn cynnig cyfle i gynorthwyo mudiadau eraill yn y maes a thros y blynyddoedd rhoddwyd cefnogaeth i Nant Gwrtheyrn ac yn ddiweddar i'r Eisteddfod Genedlaethol. Mae'n nodweddiadol o Elen ei bod hefyd wedi dewis cefnogi gwasanaeth croeso yr Eisteddfod - croesawu a chynorthwyo dysgwyr yr iaith oedd nod amgen ei gyrfa.

Roedd hi bob amser yn frwdfrydig ac yn fentrus, ac yn berwi o syniadau. Ac eto, yr oedd ganddi synnwyr cryf o'r hyn a oedd yn ymarferol. Dwn i ddim a sylweddolodd ei hathrawon yn Y Barri y gymwynas a wnaethant wrth arwain Elen at y Gymraeg, ond ym mhosibiliadau ei ddisgyblion y mae gwobr pob athro.

rule