Cystadleuaeth
Roedd nifer o atebion wedi dod i law yn dilyn cystadleuaeth y rhifyn diwethaf. Y dyddiad cau oedd Hydref 30 a’r wobr yw tocyn llyfr gwerth £20 yn rhoddedig gan CBAC. Y cwestiwn oedd:
Pwy oedd wedi cyflwyno’r tystysgrifau i ddysgwyr llwyddiannus yn y seremoni ym Maes D adeg yr Eisteddfod Genedlaethol eleni?
Yr ateb wrth gwrs yw Angharad Mair a’r enillydd yw G. Rice o Gaerdydd. Llongyfarchiadau mawr i chi!
Dyma gystadleuaeth newydd sbon felly, a medrwch anfon eich ateb trwy fynd i’r adran Cysylltu. Mae gennym wobr gyffrous tu hwnt y tro hwn.
Mae llawer o sôn yn y rhifyn hwn am Landudno ac yn arbennig am y gynhadledd i diwtoriaid Cymraeg i Oedolion a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Venue Cymru. Lleoliad ysblennydd gyda chyfleusterau cyfoes o bob math. Cynhelir sioeau o bob rhan o’r byd yno, yn ogystal â chynadleddau ac arddangosfeydd. Mae Venue Cymru hefyd wedi ymrwymo i ehangu ei hapêl i'r gymuned gyfan ac mae'r Theatr fawr a geir yno wedi sefydlu nifer o fentrau a phrosiectau er mwyn hwyluso'r gwaith hwn. Un o’r mentrau hyn yw cynnig wythnos o brofiad gwaith i bob sefydliad addysgol yn Sir Conwy.
Mae’r lleoliad yn denu rhai o sêr mwyaf y byd adloniant, a bydd Rhod Gilbert, Lesley Garrett, Paul Weller a Chwmni Syrcas Moscow yn ymddangos yno yn y dyfodol agos, i enwi dim ond rhai o’r artistiaid hynny.
Rhod Gilbert!
O gofio cysylltiad agos Rhod Gilbert â’r maes Cymraeg i Oedolion (pwy sy’n cofio’r Big Welsh Challenge?) rydym yn ffodus iawn i allu cynnig pâr o docynnau i fynd i weld Rhod Gilbert ar Chwefror 24, 2010 yn Venue Cymru, Llandudno fel gwobr y gystadleuaeth yn y rhifyn hwn. Mae’n diolch yn fawr i Venue Cymru am y wobr hael hon. Y dyddiad cau y tro hwn yw Ionawr 20. Felly brysiwch!
Y cwestiwn yw:
Beth yw enw’r graig fawr enwog yn Llandudno?
Pob lwc!