Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

Newyddion Canolfan Morgannwg

llinell

Anrheg Nadolig i’r tiwtoriaid

Gobeithio na fydd y tiwtoriaid yn rhy siomedig ein bod yn datgelu beth yw eu hanrheg cyn iddyn nhw eu hagor.  Dros y misoedd diwethaf, mae nifer o diwtoriaid y Ganolfan wedi bod yn cyfrannu gweithgareddau sydd wedi’u paratoi ar gyfer eu defnyddio ar gyfrifiadur yn ystod gwers.  Maen nhw wedi cael eu didoli a’u golygu a gobeithir gallu cyflwyno cof bach yn llawn gweithgareddau i’r tiwtoriaid fel anrheg Nadolig.

Cwrs ar gyfer cynorthwywyr sylfaen

O fewn yr wythnosau nesaf, bydd deunyddiau’n cael eu dosbarthu’n rhad ac am ddim i bob canolfan ar gyfer eu defnyddio gyda chynorthwywyr dosbarth yn y sector Gymraeg.  Cynhaliwyd dau gwrs peilot 30 awr y llynedd a chanlyniad y peilot yw llyfryn sy’n canolbwyntio ar feithrin cywirdeb o fewn patrymau elfennol, a cheir CD sain i gyd-fynd ag ef.

llun deilen

Partneriaethau Addysg Gymunedol

Mae swyddogion y Ganolfan yn treulio cryn dipyn o amser yn cefnogi gweithgareddau dysgu oedolion yn y gymuned.  Gall hyn fod yn ffordd effeithiol iawn o rwydweithio a dod i wybod am ddatblygiadau yn y maes.  Yn ddiweddar, buom yn ddigon ffodus i gael nawdd gan y bartneriaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr i brynu baneri cyhoeddusrwydd, argraffu copïau lliwgar o’r digwyddiadau cymdeithasol, a chael set o lyfrau darllen ar gyfer un o’r Clybiau Darllen.  Mae’n bwysig bod y maes yn manteisio ar y nawdd hwn.

llun dysgu anffurfiolDysgu Anffurfiol

Mae croeso mawr i ddysgwyr o ganolfannau cyfagos ymuno â dysgwyr Morgannwg ar gyfer gweithgareddau dysgu anffurfiol.  Beth am ddod â chriw i un o’r teithiau cerdded – ail Sadwrn bob mis am 10.30 y bore. 

Mae nifer o weithgareddau’n cael eu trefnu bob wythnos ond dyma rai o’r prif ddigwyddiadau dros yr wythnosau nesaf:

Am fanylion llawn ar y rhaglen dysgu anffurfiol, cysylltwch â Shan Morgan ar smorgan2@glam.ac.uk.

Cwrs Nadolig

llun serenYn dilyn llwyddiant ein cwrs Nadolig cyntaf y llynedd, cynhelir cwrs arall eleni – 14 + 15 Rhagfyr yng Nghanolfan Dysgu Gydol Oes Gartholwg.  Un o’r grwpiau fydd grŵp adolygu arbennig ar gyfer y dysgwyr hynny fydd yn sefyll arholiad Mynediad ym mis Ionawr.  Croeso mawr i ddysgwyr o ganolfannau cyfagos.

llinell