Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

Proffil Tiwtor

proffil tiwtor: zoe pettingerCafodd Zoe Pettinger ei geni ym Mhortsmouth yn Lloegr ac aeth i’r Brifysgol yn Aberystwyth yn ystod y nawdegau, i astudio Saesneg a Drama. Yn yr un cyfnod bu’n  gweithio gyda chwmni theatr arloesol ym Machynlleth a oedd yn ymwneud â theatr geffylau, sef Equilibre. Yno y clywodd y Gymraeg am y tro cyntaf a chafodd ei hudo gan y farddoniaeth Gymraeg oedd yn rhan o’r sioe geffylau.

Ar ôl gorffen ei chwrs gradd yn 1995 aeth yn ôl i dde Lloegr ac fe dreuliodd y ddeng mlynedd nesaf yn gweithio fel actores a dawnswraig hunangyflogedig, ond yn dyheu am gael dychwelyd i orllewin Cymru. Gwireddwyd y freuddwyd honno yn 2005 pan symudodd Zoe a’i phartner yn ôl i Aberystwyth, ac fe ddechreuodd hithau ddysgu Cymraeg bedwar diwrnod ar ôl cyrraedd! Fodd bynnag, a hithau erbyn hyn wedi bod yn mynychu’r cwrs Wlpan ers tri mis yn unig, daeth newid byd pan glywodd am salwch ei mam a bu’n rhaid newid y drefn unwaith eto. Am ddwy flynedd bu Zoe yn rhannu’i hamser rhwng y ddau le – mis yn ne Lloegr a mis yng ngorllewin Cymru. Yn ystod y cyfnod hwnnw parhaodd i ddysgu Cymraeg gan gadw cysylltiad â’i thiwtoriaid dros e-bost. Hefyd, cofrestrodd ar gwrs 2 flynedd gyda Phrifysgol Llanbedr Pont Steffan sef Astudiaethau’r Gymraeg – Diploma Addysg Uwch.

Daeth cyfnod anodd iawn yn 2007 pan fu farw ei mam a symudodd Zoe yn ôl i Aberystwyth yn barhaol. Bwrodd ati yn fwy nag erioed i ddysgu Cymraeg er mwyn cael canolbwyntio ar rywbeth positif mewn cyfnod o dristwch mawr. Ers hynny, mae ei sgiliau iaith wedi cyrraedd lefel uchel iawn. Yn 2008 dechreuodd weithio bum bore’r wythnos yn Ysgol Llwyn yr Eos, Penparcau fel cynorthwywraig gan gynnal dosbarthiadau dawns a drama i’r plant trwy gyfrwng y Gymraeg. Hefyd, yn Ionawr 2009 dechreuodd ar ei gwaith fel tiwtor gyda Choleg Prifysgol y Drindod gan gynnal cwrs i athrawon a chynorthwywyr cynradd (cyfrwng Saesneg) yn Aberystwyth o’r enw ‘Tystysgrif Addysg Uwch mewn Cymraeg a Dwyieithrwydd gyda’r Blynyddoedd Cynnar.’ Mae’n mwynhau y gwaith hwnnw yn fawr iawn ac yn manteisio ar ei chefndir drama i gyflwyno nifer fawr o weithgareddau creadigol. Erbyn hyn mae ganddi ddau ddosbarth gydag un dosbarth yn cael ei gynnal rhwng 3.00 a 5.00 ar ddydd Mercher, a’r llall rhwng 6.00 ac 8.00 ar yr un diwrnod.

Erbyn hyn mae Zoe hefyd yn diwtor Cymraeg dan ofal Canolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru ac yn cynnal dosbarth Wlpan ddwy waith yr wythnos. Mae’r gwaith hwnnw yn rhoi pleser mawr iddi ac mae’n amlwg bod ei dysgwyr yn mwynhau cael eu tiwtora gan un a gyrhaeddodd rownd olaf y gystadleuaeth ‘Dysgwr y Flwyddyn’ eleni! Roedd y profiad hwnnw yn fythgofiadwy i Zoe, yn llawn hwyl a chyffro ac yn gyfle i wneud llawer o ffrindiau newydd.

Teimla’n gryf mai ei swyddogaeth yn awr yw talu’n ôl am y cyfloeoedd gafodd hithau i ddysgu Cymraeg ac ers rhyw 5 wythnos mae hi hefyd wedi dechrau gweithio gyda Menter Iaith Cered yn cynnal gweithdai dawns a drama i deuluoedd trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ardal ddifreintiedig.

llun serenYn ôl Zoe, mae ei bywyd wedi ei wyrdroi ers iddi gael ei chyflwyno i’r Gymraeg ac mae hi wedi darganfod byd hollol newydd sy’n cynnwys theatr, iaith a hanes Cymraeg yn ogystal â diwylliant, cymuned a ffrindiau Cymraeg. Mae hi wedi datblygu cymaint ers y dyddiau cynnar hynny gyda’r sioe geffylau rhyw 15 o flynyddoedd yn ôl. Mae Zoe yn ymfalchïo’n fawr yn y ffaith y cafodd y sioe honno ei hatgyfodi eleni ... ac mai hi adroddodd y farddoniaeth Gymraeg y tro hwn.

llinell