Gweithdy yr Athro Alison Wray
Cynhadledd Cymraeg i Oedolion
Wedi iddi draddodi araith agoriadol y Gynhadledd Cymraeg i Oedolion fis Tachwedd eleni (araith arbennig oedd yn ein herio o safbwynt sut a pham mae dysgwr yn dysgu), cynhaliodd yr Athro Wray gyfres o weithdai diddorol oedd yn mynd i’r afael â’n hagweddau tuag at y deunydd a ddefnyddir ar hyn o bryd wrth ddysgu Cymraeg i Oedolion. Roedd yn weithdy ymarferol iawn, gyda phob un o’r rhai oedd yn bresennol yn cael eu hannog i gymryd rhan. Y brif dasg oedd dychymygu eich bod yn rhan o dîm oedd yn adolygu maes llafur a deunydd Cymraeg i Oedolion, gyda’r bwriad o greu rhai newydd.
I gychwyn, gofynwyd nifer o gwestiynau fel sbardun i’r drafodaeth:-
- Pan fyddwch chi’n dysgu, pa elfennau ydych chi’n edrych ymlaen atynt?
- Beth sydd yn gweithio’n dda?
- Beth ydych chi’n ei ofni?
- Pa elfennau ydych chi’n dymuno iddynt gael eu gwneud yn wahanol?
- Ydych chi wedi datblygu eich deunydd eich hunan o safbwynt rhyw nodwedd ieithyddol?
Rhannwyd y gynulleidfa i grwpiau o bedwar neu bump ac, i gychwyn, gofynnwyd i ni i drafod a chytuno ar dair prif agwedd NA DDYLID eu defnyddio wrth lunio deunydd. Roedd yn ddiddorol cychwyn gyda thrafodaeth am y negyddol, gan ein bod o bosib yn teimlo’n fwy cyfforddus yn trafod beth sy’n anghywir. Dyma rai o’r enghreifftiau a roddwyd i ni gan yr Athro Wray:-
- Tybiaethau anghywir ynghylch sut mae dysgwyr yn dysgu orau;
- Trefn cyflwyno nodweddion ieithyddol;
- Gweithgareddau y tybiwch eu bod yn annoeth o safbwynt eu cynnwys.
Gofynnwyd i bob grŵp osod eu syniadau ar bapur post-it cyn eu gludo i fyrddau gwyn. Wrth ddarllen y deunydd, roedd modd i bob person flaenoriaethu a grwpio’r nodweddion na ddylid eu cynnwys mewn cwrs newydd. Roedd y drafodaeth a glywyd wrth i bobl gylchynu’r byrddau a darllen y nodiadau yn hynod o ddiddorol, gydag ambell i ddadl yn cychwyn!
Wedi cael ychydig o amser i ddarllen y cynnwys oedd ar y byrddau, gofynnwyd i bob grŵp wedyn i nodi pa elfennau y DYLID eu cynnwys fel rhan o gwrs. Gofynnwyd i ni nodi beth ddylid ei wneud, ac ym mha ffordd y dylid ei wneud yn effeithiol. Unwaith eto, gofynnwyd i ni i gytuno ar dri argymhelliad, a gosod y rhain ar bapur post-it (pinc y tro hwn!), gan nodi hefyd unrhyw brofiad oedd gennym o safbwynt creu ein deunydd ein hunain. Wedi hynny, roedd modd i ni gytuno neu anghytuno â’r hyn oedd wedi cael ei ddweud trwy gyfrwng papur post-it unwaith eto. Cafwyd sawl syniad gwreiddiol fel rhan o’r gweithdy ac, a dweud y gwir, roedd angen mwy na’r awr a gafwyd er mwyn gwneud teilyngdod â’r pwnc. Efallai y cawn ni gyfle y flwyddyn nesa!
Dafydd Morse