Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

Newidiadau i’r arholiad Canolradd

gan Emyr Davies

llinell

Bydd rhai mân newidiadau i’r arholiad Canolradd yn 2010.  Newid pwyslais yw’r rhain fwyaf, a newid fformat, yn bennaf i’r profion goddefol.   Dyma’r newidiadau isod ac mae enghreifftiau o’r profion hynny yn y ddogfen Word yn yr adran Deunydd Dysgu.

Pwysoli

Sgwrs wedi ei recordio ymlaen llaw: 15% [60]
Prawf Llafar: 40% [160]
Gwrando: 15% [60]
Darllen: 15% [60]
Ysgrifennu: 15% [60]

Mae hynny’n rhoi mwy o sylw i’r darn sy’n cael ei anfon ymlaen llaw (y ‘dasg arbennig’ gynt),
a rhoddir yr un faint o farciau i’r prawf gwrando â’r profion darllen ac ysgrifennu.

Ysgrifennu

Does dim newidiadau i’r prawf hwn.

Llafar

Does dim newidiadau fel y cyfryw, ond mae’r rhan gyntaf yn y prawf ar ddiwrnod yr arholiad yn gofyn i ymgeiswyr ‘drafod pwnc’ (yr hen ‘dasg gyfathrebol’).  Mae’r pynciau hyn o natur eithaf cyffredinol, e.e.

  1. ‘Mae byw yn y wlad yn well na byw mewn dinas fawr.’  Trafodwch â’r cyfwelydd.
  2. ‘Dydy rhaglenni teledu ddim cystal heddiw ag yn y gorffennol.’ Trafodwch â’r cyfwelydd.
  3. ‘Dyddiau ysgol - dyddiau da…’ Trafodwch â’r cyfwelydd.

Rhoddir dewis o 3 a chyfnod i baratoi, fel o’r blaen.

Gwrando

Mae llai o eitemau nag o’r blaen, ond rhaid gwrando ar ddau beth - deialog a bwletin newyddion.  Newid pwyslais sydd yma’n bennaf.  Yn lle gofyn am gwestiynau sy’n gofyn i ymgeiswyr am wybodaeth ffeithiol, rhaid iddyn nhw gasglu’r ateb o’r cyd-destun.  Er enghraifft, dyma un eitem newyddion:

Newyddion drwg i ardal Pen-y-lan.  Dwedodd llefarydd ar ran cwmni Mentec eu bod nhw’n cau eu ffatri yn yr ardal.  Bydd hanner y gweithwyr yn symud i’w ffatri yn Birmingham, ond bydd y pedwar deg arall yn colli gwaith.  Dwedon nhw eu bod nhw’n ddiolchgar i bobl ardal Pen-y-lan am gefnogi’r cwmni am ugain mlynedd, a’u bod nhw’n drist iawn o orfod gadael y dre.

Mae’r eitem ei hun yn debyg iawn i fwletinau’r gorffennol, ond mae’r pwyslais wedi newid, e.e.

Cwestiwn yn gofyn am wybodaeth ffeithiol:
Faint o bobl oedd yn arfer gweithio yn ffatri Mentec?

Cwestiwn yn gofyn i’r ymgeisydd ‘gasglu’ o’r cyd-destun:
Sut mae Mentec yn mynd i helpu rhai o’u staff?

Mae cwestiynau o’r math wedi eu defnyddio yn y gorffennol, ond cwestiynau sy’n gofyn i’r ymgeiswyr ddeall ymhlygiad a ddisgwylir ar y lefel hon.

Darllen a Llenwi Bylchau

Mae’r rhan olaf yn y prawf, sef y llenwi bylchau, yn aros yn ddigyfnewid.
Erthygl a geir yn y rhan gyntaf o hyd, ond er mwyn dangos dealltwriaeth ar lefel testun cyfan, mae fformat yr atebion yn wahanol. Yn lle gofyn i ymgeiswyr ddarllen yn ofalus a chwilio am wybodaeth ffeithiol, rhaid i’r ymgeiswyr grynhoi prif nodau’r erthygl ar sail nifer o bwyntiau.

Yn yr enghraifft yn yr adran Deunydd Dysgu, ceir erthygl yn sôn am ferch sydd wedi ennill y loteri. Mae’r cwestiynau’n gofyn i’r ymgeisydd grynhoi sut mae bywyd y ferch wedi newid o safbwynt ei chartref, ei golwg, ei ffrindiau ac yn y blaen. Lle bo dwy agwedd neu ddau beth a gyferbynnir, rhaid sôn am y ddwy er mwyn cael y marc llawn. Yn sgil trafodaeth yn y gynhadledd i diwtoriaid, bydd geiriad y cwestiwn yn gwneud hynny’n gliriach.

Er enghraifft, wrth grynhoi gwyliau’r ferch, rhaid dweud:  (a) ei bod hi ddim wedi mynd ar wyliau tramor cyn ennill, a (b) ei bod hi’n mynd ar wyliau i Ibiza nawr. 

Ail ran y prawf darllen yw’r unig elfen sydd wedi newid yn llwyr. Ar y lefel hon, disgwylir i ymgeiswyr fedru adnabod bwriad ysgrifennwr, a dyna bwrpas y rhan hon. Mae hyn yn disodli’r hysbyseb, lle roedd disgwyl i ymgeiswyr gael hyd i wybodaeth ffeithiol. Yn y fformat newydd, bydd dwy neges e-bost, y naill yn ateb y llall. Rhaid i’r ymgeiswyr ddarllen y brawddegau aml-ddewis a rhoi’r llythyren briodol yn y blwch i gael marc llawn. Ceir enghraifft yn y fanyleb i diwtoriaid (ar wefan CBAC) ac yn y darnau enghreifftiol gyda’r rhifyn hwn o’r Tiwtor.

llinell