DVD Y Big Welsh Challenge
Adolygiad gan Cennard Davies
Yn y Gynhadledd i Diwtoriaid Cymraeg i Oedolion Llandudno, lansiwyd DVD newydd y 'Big Welsh Challenge' a noddwyd gan y Cynulliad ac a gynhyrchwyd gan Adran Addysg BBC Cymru. Ar y DVD ceir opera sebon ddiddorol mewn 16 rhan. Mae ynddi gymeriadau o bob oed a chefndir, amrywiaeth eang o sefyllfaoedd a fersiynau arbennig ar gyfer de a gogledd Cymru. Cwmpesir ystod eang o batrymau sylfaenol gan gynnwys amser presennol, perffaith ac amherffaith y ferf ‘Bod', y gorffennol cryno a'r gorchmynnol. Rhagwelir y gellir defnyddio'r DVD mewn sawl ffordd gan diwtoriaid. Bydd yn offeryn adolygu gwerthfawr; gellir ei ddefnyddio yn atodiad i'r cwrs arferol a ddilynir gan y dosbarth er mwyn dwyn amrywiaeth i mewn i'r gwersi; gall fod yn sylfaen gadarn i gwrs blasu cryno a gellir defnyddio'r stori i hybu gweithgareddau creadigol ar y lefelau uwch.
Fy nhasg i oedd creu nodiadau i'r tiwtor ynghyd â gweithgareddau dosbarth. Yn hynny o beth, roeddwn yn ffodus i gael cyngor cadarn Elwyn Hughes (Prifysgol Bangor) a'r Dr Maldwyn Pate (Prifysgol Morgannwg) yn gefn imi, ac mae eu dylanwad nhw yn drwm iawn ar y cynnwys terfynol. Sicrhaodd Stewart Brown fod diwyg y cyfan ar gyfer y we yn cynnal y safon orau bosib.
Mae nodiadau'r tiwtor mewn dwy ran.
Rhan un
Nod yr Uned
- Y prif batrymau a geir ynddi
- Geirfa
- Rhestr o ymadroddion defnyddiol
- Gweithgareddau dosbarth. Mae'r rhain wedi eu seilio'n uniongyrchol ar gynnwys y DVD a'r bwriad yw cael dysgwyr i ddynwared y patrymau a glywir yn hytrach na'u defnyddio'n greadigol. Gosod sylfeini ieithyddol a wneir yma.
- Ymarferion Ysgrifenedig A. Yr un yw'r pwyslais yma, sef ceisio atgynhyrchu yn fecanyddol, os mynner, brif batrymau'r uned.
Rhan dau
Yn yr ail ran mae nifer o elfennau dewisol a phwyslais ar ddefnyddio iaith yn fwy creadigol.
- Gramadeg. Tynnir sylw at bwyntiau gramadegol perthnasol.
- Drilio. Nodir yn unig y prif batrymau y dylid eu cadarnhau. Gall y tiwtor gymhwyso'r driliau yn ôl ei chwaeth a'i ddymuniad ei hun.
- Gweithgareddau B. Yma rhoir llawer mwy o gyfle i ddysgwyr ddefnyddio'r iaith yn greadigol trwy gasglu gwybodaeth, holi ei gilydd, chwarae gemau iaith a.y.y.b. Mae'r gridiau, holiaduron a.y.y.b. ar gyfer y gweithgareddau hyn i gyd ar gael mewn atodiad yn barod i'w hargraffu.
- Cam Bach Ymlaen. Defnyddir yr adran hon mewn sawl modd. Weithiau ceisir cyfannu gwybodaeth trwy ymestyn patrymau a geirfa; dro arall defnyddir rhan flaenorol o'r DVD i ymarfer patrwm sydd newydd godi ac weithiau awgrymir defnyddio'r uned i gyflwyno patrwm nad yw yn y cwrs fel y cyfryw.
- Ymarferion Ysgrifenedig B. Fel yn achos y gweithgareddau, mae'r pwyslais yma ar ddefnydd mwy creadigol o'r Gymraeg.
Dyna yn fras iawn gynnwys y nodiadau. Yn ychwanegol, ceir sgriptiau'r cyfan, yn ogystal â chyfieithiad, mewn atodiad. Rhagwelir y gall tiwtoriaid wneud defnydd helaeth o'r rhain i greu gweithgareddau trawsieithu a chyfieithu. I grynhoi, rwy'n siŵr y bydd y DVD yn gaffaeliad i diwtoriaid, yn eu galluogi i amrywio gweithgareddau'r dosbarth. Mae hynny’n elfen hanfodol, yn enwedig mewn cwrs dwys. Bydd pob tiwtor, gobeithio, yn gosod ei stamp ei hun ar yr adnodd newydd hwn ac yn gweld posibiliadau di-ben-draw wrth ei ddefnyddio. Ein gobaith ni, sef y rhai a fu ynghlwm wrth y gwaith o lunio canllawiau i diwtoriaid, yw y bydd ein hawgrymiadau yn sbardun i ddatblygiadau pellach. Diolch i Liz Powell a'i hadran yn y Cynulliad am gomisiynu'r gwaith ac i Adran Addysg y BBC o dan gyfarwyddyd Eleri Wyn Williams am ei gynhyrchu mor raenus.