Cynhadledd Genedlaethol
i Diwtoriaid Cymraeg
i Oedolion 2009
Ar y 6ed a’r 7fed o Dachwedd daeth dros 180 o diwtoriaid i Landudno i’r bedwaredd gynhadledd genedlaethol ar gyfer tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion. Roedd hi’n bleser cael cynnal y gynhadledd yng Ngogledd Cymru am y tro cyntaf eleni, yn Venue Cymru. Erbyn hyn, mae’r gynhadledd wedi’i sefydlu fel digwyddiad pwysig yng nghalendr tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion, ac mae nifer cynyddol o diwtoriaid yn mynychu bob blwyddyn, ac yn cysylltu â ni i gael gwybod y dyddiad, yn aml, cyn i’r trefniadau gychwyn!
Prif nod y gynhadledd yw rhannu gwybodaeth am ddatblygiadau newydd yn y maes, rhoi cyfle i diwtoriaid dderbyn hyfforddiant ar rai themâu allweddol, ac i ddod ynghyd i rannu profiadau.
Fel arfer, roedd hi’n dipyn o gamp penderfynu sut i lenwi rhaglen ddeuddydd, ond cyflwynwyd nifer o syniadau trwy’r canolfannau a’u tiwtoriaid. Roeddem yn ffodus fod yr Athro Alison Wray o Brifysgol Caerdydd wedi cytuno i siarad ar y bore cyntaf ac i gynnal gweithdai i drafod ymhellach sut y gall tiwtoriaid ddeall anghenion eu dysgwyr yn well. Roedd ei chyflwyniad yn ddifyr iawn, ac roedd yn amlwg bod y tiwtoriaid yn gwrando’n astud, gan fod nifer o gwestiynau wedi codi ar ddiwedd y sesiwn.
Cafwyd gweithdai buddiol iawn gan Dr Emyr Davies, CBAC, a oedd yn cyflwyno’r newidiadau i’r arholiad Canolradd, a Dr Sangeet Bhullar a oedd yn trafod sut i ddefnyddio technoleg newydd yn y dosbarth. Roedd gweithdy blynyddol Haydn Hughes, Canolfan y Gogledd, ac Elin Williams, Canolfan y Canolbarth, eleni yn canolbwyntio ar feicro-wrando, ac roedd yn bleser cael y BBC yn bresennol i lansio pecyn ‘The Big Welsh Challenge’ ar gyfer tiwtoriaid.
Yn dilyn y gweithdai, cafwyd cyfle i glywed rhai o’r canlyniadau cychwynnol sydd wedi deillio o waith Canolfan Gogledd Cymru ar fapio cynnydd dysgwyr, cyn i bawb ruthro i lenwi gwestai Llandudno dros nos.
Eleni eto cafwyd noson hwylus iawn ar y nos Wener. Cawsom sgwrs ddifyr gan Bethan Gwanas ar ôl y wledd arferol, ac fe wnaeth hithau ei gorau i’n hysbrydoli i ddarllen mwy o lyfrau Cymraeg ac i annog dysgwyr i ddarllen. Treuliodd y tiwtoriaid weddill y noson yn cymdeithasu â thiwtoriaid eraill ac yn ymlacio ar ôl diwrnod llawn.
Roedd cyflwyniad Lisa Van Zyl o Brifysgol Morgannwg am addysgu cynhwysol fore dydd Sadwrn yn fuddiol dros ben, ac ysgogodd sawl trafodaeth dros ginio am y dulliau gorau o gwrdd ag anghenion pob unigolyn yn y dosbarth. Roedd yn bleser ei chlywed yn gwneud y cyflwyniad yn y Gymraeg, ei chweched iaith!
Roedd cyfle eto ar y dydd Sadwrn i diwtoriaid fynychu 2 weithdy. Wrth drefnu’r gweithdai, y nod oedd sicrhau bod digon o amrywiaeth a bod pob gweithdy yn cynnig syniadau newydd i’r tiwtoriaid eu defnyddio yn y dosbarth. Penderfynwyd gwahodd siaradwyr i gyflwyno gweithdai ar rai o’r prif themâu y mae Llywodraeth y Cynulliad am eu gweld yn datblygu ymhellach megis dysgu anffurfiol a defnyddio adnoddau dysgu ac addysgu newydd yn y dosbarth. Diolch i’r swyddogion dysgu anffurfiol am eu cyflwyniad ac i Mandi Morse, CBAC, am gyflwyno’r adnoddau newydd sydd ar gael ar lefel Hyfedredd. Cafwyd hefyd gyflwyniadau defnyddiol iawn ar ymwybyddiaeth iaith gan Dr Rachel Heath-Davies a Dr Mair Evans, a gweithdy ar ei ymchwil geirfa gan Steve Morris.
Fel y llynedd, roedd cyfleoedd yn ystod y gynhadledd i’r tiwtoriaid bori trwy enghreifftiau o’r adnoddau dysgu ac addysgu diweddaraf sydd ar gael gan rai o brif bartneriaid y maes.
Bu’r gynhadledd yn llwyddiannus dros ben unwaith eto, a dymuna Llywodraeth y Cynulliad ddiolch i bawb a gyfrannodd. Er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn gwybodaeth am unrhyw ddigwyddiadau cenedlaethol yn y dyfodol, anfonwch neges at tiwtor@cymraegioedolion.org
Rhodri Jones