# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 8 Hydref 2009
 dysgwr.jpg

Bu cyffro mawr ar faes Eisteddfod Genedlaethol Meirion a’r Cyffiniau 2009 wrth i gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2009 ddod at ei therfyn. Cyrhaeddodd pedwar o ymgeiswyr brwd y rownd derfynol ac yn ystod hanner cyntaf wythnos yr Eisteddfod, cawsant gyfle i sgwrsio ac i arddangos eu sgiliau iaith i’r tri beirniad, sef Elin Williams, Haydn Hughes a Clive Wolfendale.


       Y pedwar ymgeisydd:

John Burton (rhes gefn, cyntaf ar y dde)
Mae John yn enedigol o Crewe a symudodd i Benmachno yn 2007. Erbyn hyn mae wedi cychwyn gwaith coedwigaeth a ffermio. Cychwynnodd ddysgu Cymraeg yn syth ar ôl symud i’r ardal dan arweiniad Gerwyn Edwards sydd yn wreiddiol o’r Bala ond erbyn hyn yn byw yn Nhŷ Mawr Wybrnant. Mae John yn hoff o wrando ar gerddoriaeth gan gynnwys Gwyneth Glyn a Gruff Rhys.

dysgw2r.jpg
Zoe Morag Pettinger (rhes gefn, ail ar y dde)
Magwyd Zoe yn Fareham rhwng Southampton a Portsmouth. Daeth i Gymru yn 1992 er mwyn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Deng mlynedd ar ôl graddio, ymgartrefodd yn Nhrisant ger Aberystwyth. Dechreuodd ddysgu Cymraeg ym mis Hydref 2005 mewn gwersi yn Aberystwyth. Erbyn hyn mae Zoe yn datblygu prosiectau creadigol sy’n defnyddio dawns a drama fel ffordd o ddysgu Cymraeg i blant ac oedolion.

Meggan Lloyd Prys (rhes flaen, cyntaf ar y dde)
Yn wreiddiol o Ohio, yr UDA, mae Meggan bellach yn byw yn Rhiwlas ger Bangor. Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn yr Ysgol Haf ym Mangor yn 2006. Erbyn hyn mae’n Gymhorthydd Dosbarth yn Ysgol Gynradd Llanfairpwll ac, yn ogystal â hynny, mae’n dysgu Cymraeg i oedolion. Mae’n aelod o gôr Llanfairpwll. Mae Meggan wedi priodi Cymro a gyfarfu wrth astudio mewn Prifysgol yn yr UDA.

dysgw3r.jpg
Dominic Gilbert (rhes gefn, cyntaf ar y chwith)
Ganwyd Dominic ym Manceinion ac aeth i Brifysgol Aberystwyth yn 2005 i astudio’r gyfraith. Treuliodd amser gyda Chymry Cymraeg a’u hannog i siarad Cymraeg ag ef, ac o fewn dim datblygodd ei hyder i ddefnyddio’r Gymraeg. Mae’n ddysgwr hunan-ddysgedig. Mae Dominic wedi ymdrochi ei hun mewn gweithgareddau Cymraeg ac mae ef bellach wedi ymgartrefu ym Miwmares ac yn gyfeilydd i Gôr Cofnod yng Nghaernarfon.

Bu clod mawr i ymdrechion y pedwar ymgeisydd ac ar Nos Fercher, 5 Awst, yng Nghanolfan Cywain yn y Bala, cafwyd cyfle i glywed y pedwar yn cael eu holi gan Alwyn Siôn. Roedd hi’n noson hwyliog iawn gyda chyfle i gael sgwrs a mwynhau bwyd blasus Canolfan Cywain. Cafodd y rhai mwyaf mentrus hefyd gyfle i ddawnsio i’r Band Arall oedd yn darparu’r adloniant. Yna, cyn pen dim, daeth yn adeg cyhoeddi’r canlyniad a dyfarnwyd gwobr Dysgwr y Flwyddyn i Meggan Lloyd Prys. Llongyfarchiadau gwresog iddi a gellir darllen mwy am ei hanes hi yn yr adran Broffil.

Mae’r gwobrau yn anrhydeddus iawn ac yn cydnabod llwyddiant y pedwar a gyrhaeddodd y Rownd Derfynol. Cyflwynwyd Tlws Dysgwr y Flwyddyn i Meggan er cof am Marged Jones (yn rhoddedig gan Ddysgwyr y Bala) ynghyd â £300 (yn rhoddedig gan Dafarn yr Eryrod Llanuwchllyn.) Cyflwynwyd Tlws y Rownd Derfynol i’r ymgeiswyr eraill (yn rhoddedig gan Ddysgwyr y Bala) ynghyd â £100 (yn rhoddedig gan Dafarn yr Eryrod Llanuwchllyn.) Roedd pawb hefyd yn derbyn tanysgrifiad blwyddyn o gylchgrawn ‘Golwg,’ pecyn nwyddau Merched y Wawr a thanysgrifiad blwyddyn o’r ‘Wawr,’ yn ogystal â phecyn ‘CymraegontheMove’ gan Aliaith. Llongyfarchiadau mawr i’r pedwar ohonynt a gobeithio y bydd eu hegni a’u hymroddiad yn parhau i annog eraill.

Ar yr un noson cynhaliwyd seremoni arall sy’n hollbwysig i ddatblygiad y maes Cymraeg i Oeodolion. Ewch i’r erthygl ‘Tlws Coffa’ i gael gwybod mwy.

dysgwr4.jpg