Mae arholiadau 2009 wedi bod. O ran niferoedd, bu’n gyson iawn â’r blynyddoedd a fu, ond gwelwyd cynnydd mawr yn ymgeiswyr lefel Sylfaen. Dyma grynodeb:
Mynediad: Nos: 383 + Dydd: 666 = 1,049 (heb gynnwys ymgeiswyr Ionawr)
Sylfaen: 480
Canolradd: 221
Uwch: 58
Bu i 11 ymgeisydd gwahanol geisio am unedau yn y cymhwyster Hyfedredd, rhai’n dewis cwblhau un neu ddwy uned ar y tro. Cynhaliwyd yr arholiadau mewn canolfannau ledled Cymru, mewn dwy ganolfan yn Llundain a chanolfan yn Y Wladfa. O gynnwys arholiad Mynediad Ionawr (ond nid yr Hyfedredd), safodd 1,983 ymgeisydd un o’r arholiadau CiO eleni.
Cynhaliwyd seremoni i gyflwyno tystysgrifau i ymgeiswyr llwyddiannus yn yr arholiadau Canolradd ac Uwch yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Bala, ac Angharad Mair oedd yn cyflwyno. Diolch yn fawr i Angharad ac i drefnwyr Maes D am eu cymorth.
Diolch yn fawr iawn hefyd i’r cyfwelwyr, y marcwyr, yr arholwyr, y trefnyddion a phawb a fu ynghlwm â’r arholiadau eto eleni. Mae ymroddiad tiwtoriaid y maes a’u hymrwymiad yn gwbl allweddol i ni fedru cynnal yr arholiadau o gwbl.
Bob yn ail flwyddyn, anfonir holiadur at yr ymgeiswyr i gyd ac anfonwyd y rhain i’w dadansoddi’n annibynnol, a bu’r ymatebion yn gadarnhaol iawn. Cynhwysir y rhain, y cynlluniau marciau, adroddiadau’r arholwyr a gwybodaeth ystadegol yn y bwletin arholiadau a gyhoeddir ar ddiwedd y flwyddyn.
Dyma rai sylwadau am yr arholiadau gwahanol:
Mynediad
Eto eleni, gwelwyd bod canran uchel o’r ymgeiswyr yn dewis sefyll gyda’r nos, felly mae’n amlwg fod angen darparu hyn. Eleni oedd y tro cyntaf i bawb sefyll yr arholiad hwn ar ei newydd wedd, er mai ychydig o wahaniaethau sydd, e.e. trafod llun yn y prawf llafar; hysbysebion yn y prawf darllen yn lle arwyddion; bwletin tywydd ychwanegol yn y prawf gwrando. Derbyniwyd cannoedd o ymatebion i’r holiadur a bydd dadansoddiad o’r rhain yn ymddangos yn y bwletin arholiadau.
Sylfaen
Dyma’r lefel a welodd gynnydd mawr eleni (tua 38% yn fwy na 2008). Fel gyda’r Mynediad, roedd pob ymgeisydd yn sefyll yr un arholiad eleni (a gafodd ei beilota yn y de orllewin y llynedd). Daeth 242 holiadur yn ôl (a rhai hwyr yn dal i gyrraedd!), a’r ymatebion yn gadarnhaol. Roedd 92.5% o’r ymatebwyr yn credu bod yr arholiad yn addas i’w hanghenion a’u lefel; 98% yn credu eu bod wedi cael digon o gyfle i baratoi a bod digon o wybodaeth yn y llyfryn a ddarperir; 91% yn dweud ei fod wedi bod yn brofiad cadarnhaol ac yn hwb i barhau i ddysgu Cymraeg.
Canolradd
Mae’r niferoedd Canolradd wedi bod yn gyson iawn dros y blynyddoedd, a’r ymatebion yn gadarnhaol iawn. Ychydig iawn o ymgeiswyr yn unig nad oeddynt yn cyrraedd y trothwy llwyddo. Daeth 92 holiadur yn ôl a llawer o sylwadau cadarnhaol am y profiad, y trefniadau a charedigrwydd y cyfwelwyr llafar. Ychwanegodd nifer sylwadau ar y diwedd, e.e. Mi fwynheais i’r dydd, diolch yn fawr,” Byseddu’n croesau. Diolch yn fawr i chi!”
Uwch
Er mai dim ond 58 a safodd yr arholiad hwn, roedd yr ymatebion gan y 24 a anfonodd yn ôl yn gadarnhaol. Roedd pob ymatebydd wedi dweud pa mor bwysig oedd y prawf llafar a’r ffolio, a’u bod yn fodlon â’r prawf yn ei ffurf bresennol. Bydd y sylwadau ar gael yn y bwletin arholiadau ac o ddefnydd wrth gynllunio i ailachredu’r lefel Uwch yn ystod y blynyddoedd i ddod.
2010
Mae dyddiadau 2010 eisoes wedi eu dosbarthu, ac yn cyfateb fwy neu lai i ddyddiadau 2009. Bydd y Canolradd ar ddydd Mercher (rhag iddo syrthio yn ystod hanner tymor). Gellir llwytho’r dyddiadau ar pdf yma.
Erbyn 2010, bydd rhai newidiadau i’r arholiad Canolradd. Mân newidiadau fydd y rhain ac ni ddylai effeithio ar beth sy’n digwydd ar y cyrsiau. Ceir rhagor o fanylion a phapurau enghreifftiol yn y fanyleb a fydd ar wefan CBAC:
Bydd crynodeb o’r newidiadau yn rhifyn nesaf Y Tiwtor a chysylltwch â swyddog hyfforddi eich canolfan ranbarthol i gael gwybod am sesiynau hyfforddi.
Emyr Davies
Swyddog Arholiadau Cymraeg i Oedolion