Bydd adnodd newydd ar y we o fis Medi ar gyfer dechreuwyr sydd am ddatblygu’u sgiliau – yn enwedig eu sgiliau gwylio a deall.
Bydd y cwrs, a fydd ar gael trwy www.s4c.co.uk/dysgwyr (fersiynau’r de a’r gogledd), yn cynnwys sioeau sleidiau, clipiau (lle bo hynny’n bosib), ac amrywiaeth o weithgareddau rhyngweithiol – yn ogystal â’r elfennau pedagogaidd arferol. Mae Cwmni Acen yn cydweithio â Rhwydwaith y Coleg Agored i ddatblygu llwybrau achredu ar gyfer dysgwyr sydd yn dilyn yr unedau a gobeithir treialu’r achrediadau cyntaf yn gynnar yn 2010.
Bydd darpar-ddysgwraig, Kate Parry, yn dilyn yr unedau a bydd hi’n ymateb i’r her ar Twitter.com. Bydd modd i ddysgwyr ddefnyddio Twitter a chysylltiad uniongyrchol i ofyn am gymorth gan y mentoriaid neu’r gymuned.
Bydd mwy o wybodaeth i ddysgwyr yn rhifyn nesaf cylchgrawn Acen i ddysgwyr a gyhoeddir ddechrau Medi. Os am gopi sampl (am ddim) anfonwch e-bost trwy post@acen.co.uk gan nodi’ch enw, eich cyfeiriad cartref llawn a lleoliad eich dosbarth. Croeso hefyd i chi ffonio 02920 300800.
Mae fersiynau gwahanol ar gyfer dysgwyr yn y De a’r Gogledd.