# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 8 Hydref 2009
maesd.jpg


Cynhaliwyd seremoni i gyflwyno tystysgrifau i ymgeiswyr llwyddiannus a safodd yr arholiadau Cymraeg i Oedolion, Defnyddio’r Gymraeg: Canolradd ac Uwch yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Bala ym mis Awst.

Angharad Mair, cyflwynydd a golygydd Wedi 7, oedd y siaradwr gwadd. A hithau wedi rhedeg marathons, roedd hi’n gallu uniaethu â’r siwrnai faith roedd y dysgwyr hyn wedi ei chyflawni. Cafodd pob ymgeisydd ddod i’r llwyfan i dderbyn tystysgrif, a chyfle i fwynhau’r Eisteddfod a Maes D (Pabell y Dysgwyr).

Anfonodd un ymgeisydd neges e-bost wedi’r seremoni i fynegi ei gwerthfawrogiad o arholiadau CBAC:

‘Ro’n i eisiau ysgrifennu i ddweud pa mor fodlon ydw i gyda arholiadau CBAC Defnyddio’r Gymraeg. Daethon ni yn ôl o’r Eisteddfod ddoe gyda fy nhystysgrif Lefel Uwch a dw i’n dal i wenu! Mae’r arholiadau wedi bod yn wych achos dw i wedi dysgu cymaint wrth adolygu ac mae’r strwythur yn gwneud yn siŵr eich bod chi’n gallu defnyddio’r iaith ym mhob sefyllfa.Dw i’n gweithio mewn cylch meithrin ac mewn ysgol gynradd Gymraeg, ond faswn i ddim wedi llwyddo heb yr arholiadau. Roedd y seremoni yn grêt hefyd...’

Hoffai CBAC ddiolch yn fawr i Angharad Mair am gyflwyno’r tystysgrifau, i Mostyn Davies am dynnu’r lluniau ac i swyddogion Maes D a’r Eisteddfod am eu cymorth wrth drefnu’r seremoni flynyddol.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
Emyr Davies: 029 2026 5009
Lowri Morgan: 029 2026 5007


Yn ogystal â’r seremoni, cynhaliwyd nifer o weithgareddau eraill ym Maes D hefyd, fel a welir yn y lluniau.

  maesd2.jpg

maesd3.jpg
Ymhlith gwledd o ddigwyddiadau di-ri, bu Gwyneth Glyn yno’n canu a Mair Tomos Ifans yn cyflwyno Chwedlau Meirionnydd. Pwy all anghofio’r stori am Idris Gawr yn cosi bola’r eogiaid!

Bu’n wythnos lwyddiannus iawn a braf oedd gweld dysgwyr o bob oedran a chefndir yn manteisio ar y cyfle i ymarfer a datblygu eu sgiliau iaith. Llongyfarchiadau i drefnwyr Maes D am arlwy arbennig ym mhabell bwysicaf yr Eisteddfod eleni eto!

rule8col.gif