# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 8 Hydref 2009

rhaglen.jpg  

Rhaglen Gomisiynu Adnoddau Cymraeg i Oedolion APADGOS

Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol Panel Adnoddau Cymraeg i Oedolion APADGOS ganol mis Gorffennaf. Pwrpas y panel hwn (sy’n cynnwys cynrychiolwyr o bob un o’r Canolfannau) yw cynnig argymhellion ar gyfer y rhaglen gomisiynu, trafod datblygiadau yn y maes, ac arolygu adnoddau wedi’u cyhoeddi.

Ariannwyd 10 project gan Uned Datblygu’r Gymraeg APADGOS yn ystod 2008-2009:

•  Cardiau Bach CBAC 1 a 2 (cyhoeddwyd gwanwyn 09) – ar gael o www.gwales.com, siopau llyfrau lleol, neu’n uniongyrchol oddi wrth CBAC www.cbac.co.uk/siop

•  Pecyn Perthyn, Amgueddfa Werin Cymru: Sain Ffagan (cyhoeddwyd gwanwyn 2009) - www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/perthyn

•  Pecyn Gwau Geiriau, Amgueddfa Wlân Cymru, Drefach Felindre (cyhoeddwyd haf 2009) - www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/gwaugeiriau

•  DVD Gwylio’n Graff, Eclipse (cyhoeddwyd haf 09 – copïau wedi’u dosbarthu i’r canolfannau, neu e-bostiwch adnoddau@cymraegioedolion.org am gopi)

•  Ffeil Hyfedredd, CBAC (ar y gweill – i’w gyhoeddi hydref 2009. Mwy o wybodaeth isod.)

•  DVD Big Welsh Challenge, BBC (ar y gweill)

•  DVD Eclips (Uwch), BBC (ar y gweill)

•  Pecyn Dysgu Drwy Lenyddiaeth, CBAC (ar y gweill - i’w gyhoeddi gwanwyn 2010)

•  Deunyddiau Cymraeg i’r Teulu, CBAC (ar y gweill)

•  Ac, wrth gwrs, cylchgrawn ar-lein Y Tiwtor

Derbyniwyd nifer o syniadau ar gyfer adnoddau newydd gan ganolfannau ac unigolion, a phenderfynwyd ar flaenoriaethau ar gyfer rownd gomisiynu 2009-10, gan gynnwys:

•  Cyfres o adnoddau digidol, rhyngweithiol i gefnogi cyrsiau dwys lefel Mynediad a Sylfaen. Bydd y gweithgareddau wedi’u mapio i’r cyrsiau dwys rhanbarthol (Cwrs y Gogledd, Canolbarth, De-ddwyrain, De-orllewin).

•  Ymestyn bas data adnoddau dysgu Cymraeg ysgolion i gynnwys deunydd CiO.

•  Parhau i gefnogi asiantaethau i gyhoeddi pecynnau tebyg i Llwybrau Llafar, Gwau Geiriau ag ati, gan gynnwys pecyn newydd yn Oriel Ynys Môn.

•  Tasgau gwrando ar CD.

Bydd mwy o wybodaeth am y projectau newydd hyn yn rhifyn nesaf Y Tiwtor.

   rule8col.gif adnoddau.jpg

Ffeil Hyfedredd

Wedi misoedd lawer o waith paratoi, bydd y Ffeil Hyfedredd yn cael ei gyhoeddi ym mis Hydref. Bydd y rhan fwyaf ohonoch eisoes yn gwybod bod y Ffeil Hyfedredd yn cefnogi’r cymhwyster ‘Tystysgrif mewn Hyfedredd Iaith: Defnyddio’r Gymraeg.’ Nod y Ffeil Hyfedredd yw codi safon y myfyrwyr fel eu bod yn arddangos meistrolaeth lwyr dros ystod y sgiliau iaith i gyd, ac yn medru cyflawni dyletswyddau gwaith ar lefel uchel. Mae’n cynnwys 5 uned a luniwyd gan bedwar o awduron profiadol yn y maes Cymraeg i oedolion, sef Steve Morris, Heini Gruffudd, Eiry Miles ac Ein Meek:

1.  Cyflwyno
2.  Cyfieithu a Thrawsieithu
3.  Crynhoi a Gwerthuso
4.  Project Ymchwil
5.  Ysgrifennu Graenus

Mae’n hanfodol nodi mai ffeil i’r tiwtor yw’r Ffeil Hyfedredd, ac nid i’r myfyrwyr. Nid oes angen i’r myfyrwyr gael copïau personol o’r ffeil oherwydd bydd y tiwtor yn paratoi ac yn addasu ymarferion o flaen llaw gan lungopïo a dosbarthu taflenni yn ôl yr angen. Er hwylustod, darperir yr holl unedau ar ffurf ffeiliau Word ar CD hefyd fel bod modd i’r tiwtor addasu unrhyw weithgaredd yn ôl anghenion y dosbarth. Ceir CD sain hefyd sy’n cynnwys darnau gwrando ar gyfer rhai ymarferion yn Uned 2: Cyfieithu a Thrawsieithu ac Uned 3: Crynhoi a Gwerthuso. Pris y Ffeil yw £14.95 ac mae hynny’n cynnwys y ffeil ei hun a’r ddau CD.

Am fwy o fanylion cysylltwch â mandi.morse@cbac.co.uk

rule8col.gif


     Cynhadledd Deuddydd i Diwtoriaid Cymraeg i Oedolion

Fel rhan o raglen hyfforddi tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion, mae’n fwriad gan APADGOS i gynnal cynhadledd deuddydd i diwtoriaid yn ystod penwythnos 6-7 Tachwedd 2009.

Prif nod y gynhadledd yw rhannu gwybodaeth am ddatblygiadau newydd yn y maes, ac i drafod rhai themâu allweddol. Mae amserlen bras i’w gael isod.

Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal yn Venue Cymru, Llandudno, a bydd yn cychwyn am 10.30 fore dydd Gwener 6 Tachwedd, ac yn gorffen erbyn 15.30 o’r gloch brynhawn dydd Sadwrn 7 Tachwedd. Bydd croeso i diwtoriaid aros i gael swper ar y nos Wener. Bydd llety yn cael ei drefnu ar y nos Wener ar gyfer y rhai hynny fydd yn teithio o bell, a bydd Llywodraeth y Cynulliad yn talu am y llety. Bydd blaenoriaeth ar gyfer llety yn cael ei roi i’r tiwtoriaid sy’n teithio o ganolfannau’r De Ddwyrain, De Orllewin a’r Canolbarth. Os bydd lle yn dal i fod ar gael bydd cyfle i’r rhai hynny fydd yn teithio o Ganolfan y Gogledd i aros dros nos. Caiff y llefydd hyn eu neilltuo ar sail cyntaf i’r felin a bydd modd i diwtoriaid hawlio costau teithio gan eu Canolfannau.

Dylai tiwtoriaid gysylltu â swyddog hyfforddi eu Canolfan Cymraeg i Oedolion leol am fwy o fanylion.


Amserlen y gynhadledd

Dydd Gwener, 6 Tachwedd 2009

10:30  Cyrraedd a chofrestru.

11:00  Croeso   

11:15  Caffael Iaith.
       Yr Athro Alison Wray, Prifysgol Caerdydd.

12:30  Cinio

13:30  Gweithdai.

       Caffael Iaith
       Yr Athro Alison Wray, Prifysgol Caerdydd

       Defnyddio technolegau newydd yn y dosbarth
       Dr Sangeet Bhullar, Wise Kids

       Arholiad Defnyddio’r Gymraeg: Uwch
       Emyr Davies, CBAC

       Sesiwn Meicro-wrando
       Haydn Hughes, Canolfan CiO Gogledd Cymru
       ac Elin Williams, Canolfan CiO Canolbarth Cymru

       Pecyn ‘The Big Welsh Challenge’ ar gyfer tiwtoriaid
       BBC Cymru a Cennard Davies

14:30  Coffi

15:00  Ail-adrodd y gweithdai.

16:00  Mapio Cynnydd Dysgwyr – Canlyniadau Cychwynnol
       Canolfan CiO Gogledd Cymru

16:30  Diwedd y dydd.

18:30  Swper a Siaradwr Gwadd: Bethan Gwanas


Dydd Sadwrn, 7 Tachwedd 2009

9:30  Cyrraedd. Te a choffi.

9.50  Croeso.

10:00  Addysgu cynhwysol.
       Liza Von Zeil, Prifysgol Morgannwg

11:00  Te a choffi.

11:30  Gweithdai.

       Addysgu cynhwysol
       Liza Von Zeil, Prifysgol Morgannwg

       Adnoddau newydd ar lefel Hyfedredd
       Mandi Morse ac Emyr Davies, CBAC

       Ymchwil Geirfa
       Steve Morris, Canolfan CiO De-orllewin Cymru

       Dysgu Anffurfiol  
       Swyddogion y canolfannau

       Ymwybyddiaeth Iaith
       Dr Rachel Heath-Davies, Canolfan CiO Caerdydd a Bro Morgannwg     

12:30  Cinio

13:30  Ail-adrodd gweithdai’r bore.

  
14:30  Cloriannu.



   rule8col.gif