# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 8 Hydref 2009

banana.jpg  
Wel, am swydd arbennig: Swyddog Y Dysgwyr, Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Fe’m penodwyd yn Swyddog Y Dysgwyr ar gyfer Eisteddfod Meirion a’r Cyffiniau 2009 union flwyddyn yn ôl.

Ac, o, am flwyddyn ddiddorol a hyfryd. Cefais gyfle i weithio â nifer o bobl ymroddgar gan gynnwys tiwtor-drefnydd Meirionnydd, Shirley Williams, a chriw ffyddlon a gweithgar Pwyllgor Y Dysgwyr. Diolch i Shirley a’r Pwyllgor am eu cefnogaeth frwd ac roedd hi bob amser yn bleser cael cydweithio â nhw.

banana2.jpg  
Yn syml roedd fy nyletswyddau’n ymwneud â pharatoi dysgwyr ardal yr Eisteddfod ar gyfer ymweliad Gwŷl ddiwylliannol fwyaf Ewrop sef yr Eisteddfod Genedlaethol. Cefais gyfle i fynd i ddosbarthiadau i sgwrsio â dysgwyr ac i drefnu gweithgareddau amrywiol ar eu cyfer, yn rhan o raglen ddysgu anffurfiol. Hefyd, wrth gwrs, cefais y profiad o baratoi amserlen Maes D sef Pabell Y Dysgwyr ar Faes yr Eisteddfod.

banana3.jpg  
Rhaid cyfaddef mai’r peth cyntaf a wnaeth i mi feddwl does dim troi yn ôl nawr oedd gweld Pafiliwn pinc yr Eisteddfod am y tro cyntaf wrth i mi ymlwybro tuag at Y Bala o’m swyddfa yn Nolgellau. Roedd yn deimlad cyffrous, i feddwl bod ffrwyth yr holl lafur ar fin dod i’r golwg. Ac yn wir, mae’n amlwg i’r holl baratoi a’r trefnu dalu ar ei ganfed gan i bopeth ddod at ei gilydd yn hwylus iawn ar y 1af o Awst, 2009.

banana4.jpg  
Roedd yr wythnos ei hun yn benllanw i fisoedd o waith yn annog perfformwyr a chyfranwyr i fod yn rhan o amserlen Maes D. Rhaid hefyd oedd perswadio criw o ddysgwyr i wirfoddoli yn y caffi! Cafwyd crefftwyr y dydd, tasg y dydd a diwrnod anhygoel o gystadlu yn ardal y llwyfan ar y Dydd Iau. A phwy all anghofio am yr agoriad swyddogol pan ddaeth Band Batala Bermo i ddihuno pawb ac i gyhoeddi bod Maes D ar agor ar y Dydd Sadwrn cyntaf!

Un agwedd hollbwysig ar y gwaith wrth gwrs oedd cystadleuaeth Dysgwyr Y Flwyddyn a ddechreuodd yn ôl ym Mai 2009 gyda rownd gynderfynol gyffrous iawn. Gwyddwn o’r diwrnod hwnnw fod siwrnai ddiddorol o’m blaen i, ac i’r pedwar a aeth drwyddo i’r rownd derfynol ar y 5ed o Awst yng Nghanolfan Cywain, Y Bala. Dyna un o uchafbwyntiau’r wythnos i mi, sef datgelu enillydd cystadleuaeth Dysgwr Y Flwyddyn ar y Nos Fercher. Cawsom le braf ac unigryw yng Nghanolfan Cywain y Bala a gwnaed y cyhoeddiad mewn amffitheatr atmosfferig awyr agored. Braf oedd gweld Meggan Lloyd Prys yn dod i’r brig a diolch i’r beirniaid a’r cystadleuwyr i gyd am gyfrannu at lwyddiant y gystadleuaeth hon.

banana5.jpg  
Daeth fy ngwraig a’m merch, Catrin, i fyny i’r Bala i’m gweld ar y dydd Gwener olaf. ‘Ti’n edrych wedi blino,’ meddai fy ngwraig. ‘Ti’n edrych yn sâl,’ meddai Catrin.

Gallaf gyfaddef nad blinder na salwch oedd hynny, ond balchder ... a rhyddhad!



rule8col.gif