# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 8 Hydref 2009

  iphone.jpg



Ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn y Bala, lansiwyd Learn Welsh, sef llawlyfr brawddegau Cymraeg – Saesneg ar gyfer ei ddefnyddio ar iPhone diweddaraf Apple, y 3GS.


Lansiwyd y cymhwysiad, neu app fel y mae’n cael ei adnabod, ar stondin Prifysgol Aberystwyth. Datblygwyd Learn Welsh gan yr Athro Chris Price, sef Pennaeth Adran Cyfrifiadureg y Brifysgol sydd hefyd yn dysgu Cymraeg, ac mae ar gael o ‘App Store’ iTunes am 59 ceiniog.

Seiliwyd y ‘llawlyfr brawddegau’ ar brofiadau Chris ei hun wrth ddysgu Cymraeg. Mae iddo ddeuddeg thema sydd yn cynnwys cyfarchion, brawddegau cyffredin, bwyd a diod, a theithio. Mae hefyd yn cynnwys adran ar y tywydd!

Yn ogystal â gweld y geiriau ysgrifenedig, mae Chris wedi recordio pob gair neu frawddeg er mwyn cynorthwyo gyda’r ynganu. Mae’r app hefyd yn galluogi dysgwyr i brofi eu hunain wrth iddynt ddysgu.

Dywedodd Chris: ‘Mae nifer o apps ar gyfer dysgu ieithoedd eraill ar gael i ddefnyddwyr yr iPhone e.e. mae 27 yn Ffrangeg, 23 ar gyfer dysgu Eidaleg a hyd yn oed un ar gyfer y Wyddeleg a Tagalog, sef iaith sydd yn cael ei siarad ar ynysoedd y Philipinau. Roedd yn hen bryd felly fod cymorth o’r math hwn ar gael i bobl sy’n dysgu Cymraeg.’

Mae Chris yn awyddus iawn i ddatblygu Learn Welsh ymhellach ac yn gwahodd pobl i anfon eu hawgrymiadau at chrisinaber@googlemail.com

Roedd Dr. Adrian Shaw hefyd wedi cyfrannu at y lansiad drwy esbonio sut mae adeiladu app ar gyfer yr iPhone. Mae’n Uwch Gymrawd Dysgu yn yr Adran Gyfrifiadureg ac yn dod yn wreiddiol o Wiltshire. Dechreuodd ddysgu Cymraeg trwy wrando ar raglen Catchphrase ar BBC Radio Wales, ac erbyn hyn mae Adrian yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr Adran.

iphone2.jpg
Yn cyd-fynd â’r newid yn yr hinsawdd dechnegol, cyhoeddodd cwmni Orange, hefyd ar adeg yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala, eu bod yn lansio fersiwn Cymraeg o’r ffôn Samsung S5600 ym mis Medi. Dyma felly fydd y ffôn symudol cyntaf i ddefnyddio’r Gymraeg ac mi fydd yn cynnwys tua 44,000 o eiriau Cymraeg.

Rheswm da dros brynu ffôn newydd, efallai!

     rule8.jpg