# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 8 Hydref 2009
 gregynog1.jpg

Cynhaliwyd yr unfed Seminar Cystrawen y Gymraeg ar bymtheg ar y 6ed a’r 7fed o Orffennaf 2009. Daeth nifer o ieithegwyr adnabyddus ynghyd i drafod egwyddorion cystrawen y Gymraeg. Yn eu plith oedd Dr Emyr Davies CBAC; Bob Morris Jones, Prifysgol Bangor; Dr Gwen Awberry, Prifysgol Caerdydd; Yr Athro Bob Borsley, Prifysgol Essex; Yr Athro Maggie Tallerman, Prifysgol Newcastle a Dr David Willis, Prifysgol Caergrawnt. Borsley, Tallerman a Willis yw awduron 'The Syntax of Welsh'. Gwasg Prifysgol Caergrawnt 2007 (ISBN 978 0 521 83630 2.) Dr Awberry yw awdur ‘The Syntax of Welsh A Transformational Study of the Passive’, Gwasg Prifysgol Caergrawnt (ISBN 978 0 521 10259 9.)

Cynhelir Seminar Cystrawen y Gymraeg yn flynyddol er mwyn roi cyfle i ieithegwyr a ieitheg-wragedd gwrdd i drafod ymchwil ar gystrawen y Gymraeg. Rhwng 1992 a 1996, cynhaliwyd y cyfarfodydd yn yr Adran Ieithyddiaeth, Prifysgol Cymru Bangor, ac ers 1999 cynhelir y cyfarfodydd ym Mhlas Gregynog, canolfan gynadledda Prifysgol Cymru. Mae’r Seminar weithiau yn cynnig cyfle i drafod agweddau eraill ar y Gymraeg ac i drafod cystrawen yr ieithoedd Celtaidd eraill.

Trefnwyr
David Willis dwew2@cam.ac.uk, Maggie Tallerman Maggie. Tallerman@newcastle.ac.uk, a Bob Borsley, rborsley@essex.ac.uk.

  Rhaglen
rhaglen1.jpg rhaglen2.jpg
Cafwyd sesiynau hynod ddiddorol a oedd wir yn ffocysu’r meddwl ac yn ychwanegu at brofiadau ieithyddol.

Cynhelir y seminar nesaf yng Ngregynog ar y 5ed a’r 6ed o Orffennaf 2010. Am fwy o wybodaeth gellir gwglo ‘seminar cystrawen cymraeg gregynog’.
gregynog2.jpg