# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 8 Hydref 2009
cymhwyster.jpg

Am y tro cyntaf erioed mae modd i diwtoriaid Cymraeg i Oedolion ledled Cymru ennill cymhwyster cenedlaethol 60 credyd ar lefel 5 ar y fframwaith cymwysterau cenedlaethol. Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg wedi datblygu’r Cymhwyster mewn ymateb i gais gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Wrth ddarparu hyfforddiant arbenigol i diwtoriaid Cymraeg i Oedolion, mae’r cymhwyster hefyd yn gyflwyniad i’r sector Dysgu Gydol Oes.

Mae myfyrwyr yn dilyn pedwar modiwl, sef:

Modiwl 1:
Paratoi i Addysgu Cymraeg i Oedolion

Modiwl 2:
Cymraeg i Oedolion: Dysgu ac Addysgu

Modiwl 3:
Arfer ac Adnoddau

Modiwl 4:
Damcaniaethau ac egwyddorion

Mae gofyn iddynt:

➢   fynychu dosbarthiadau a gweithdai
➢   arsylwi tiwtoriaid profiadol
➢   wneud ymarfer dysgu
➢   gwblhau aseiniadau ysgrifenedig

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydnabod bod deiliaid y Cymhwyster Cenedlaethol yn gymwys i ddysgu Cymraeg i Oedolion o dan y rheoliadau cyfredol, ond rhagwelir y bydd rhai’n awyddus i barhau â’u hastudiaethau. Er mwyn cynnig dilyniant, mae’r cymhwyster wedi’i baratoi mewn cydweithrediad â Phrifysgol Casnewydd er mwyn i diwtoriaid fynd ymlaen i astudio cwrs TAR. Gallant wneud cais i ymuno ag ail ran cyrsiau penodol yng ngholegau rhwydwaith Prifysgol Casnewydd ledled Cymru er mwyn ennill TAR (y sector ôl-orfodol).

Mae Canolfan Caerdydd a Bro Morgannwg yn cynnig y cwrs mewn blwyddyn ac mae’r pum Canolfan CiO arall yn ei gynnig dros ddwy flynedd. Bydd carfannau newydd yn cychwyn ym Medi 2009 yng Nghaerdydd ac ym Medi 2010 ym mhob Canolfan. Os ydych am ymuno â’r cwrs neu am fanylion pellach, cysylltwch â Carole Bradley ar 029 20 874710 / e-bost: bradleyc1@cf.ac.uk.


rule8.jpg