# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 8 Hydref 2009
   effrind.jpg

     E-ffrind Cymraeg

‘Dw i’n byw yn Awstralia a dw i’n dysgu Cymraeg. Beth am ymarfer Cymraeg gyda e-ffrind?’ Dyna eiriau mewn hysbyseb papur newydd ar dudalen flaen E-ffrindiau gan Lois Arnold, llyfr newydd i ddysgwyr a gyhoeddir gan Wasg Gomer. Mewn gwlad dramor heb gwmni i ymarfer iaith newydd, y we yw’r ateb i sawl person. Cyfres o e-byst rhwng dwy ferch yw E-ffrindiau gyda’r testun yn addas i ddysgwyr Cymraeg ar lefel Mynediad. I hwyluso’r darlleniad ceir rhestr eirfa ar waelod pob tudalen ac mae diwyg deniadol y llyfr a symlrwydd y dweud yn siwr o apelio at nifer sy’n dysgu’r iaith. Pwy a ŵyr, efallai bydd rhywrai yn cael eu sbarduno i chwilio am e-ffrind Cymraeg ar ôl darllen y llyfr hwn!

Dysgwraig yw’r awdures a daeth clod mawr iddi yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd yn 2004 wrth gipio tlws Dysgwr y Flwyddyn. Wedi ei geni yn Walton-on-Thames, Surrey, a’i haddysgu ym Mhrifysgol Warwick, mae hi’n byw yn awr yn Y Fenni gan ymroi i hyfforddi eraill i ddysgu’r iaith Gymraeg fel tiwtor Cymraeg i Oedolion yng Ngholeg Gwent. Mae hi’n cofio’r broses o ddysgu Cymraeg yn dda iawn ac yn ymwneud â dysgwyr yn ddyddiol – y cefndir perffaith i lunio llyfr addas i ddysgwyr! E-ffrindiau yw ei hail lyfr. Cyhoeddodd gasgliad o storïau i ddysgwyr, Cysgod Yn Y Coed, rai blynyddoedd yn ôl.

Cyflwynwyd y llyfr er cof am fam Lois, Beryl Arnold, a oedd wrth ei bodd yn Awstralia. A dyna danio’r diddordeb yn y wlad hon ym mhen draw’r byd. Mae Ceri’n byw yn Awstralia a Sara’n byw yng Nghaerdydd, y ddau gymeriad yn E-ffrindiau. Trwy’r e-byst a’u hymwneud â’i gilydd, fe ddown i’w hadnabod yn well a chael cip ar eu bywydau.

Athrawes Ymarfer Corff sy’n byw ar gyrion Sydney yw Ceri, yn fam ifanc ond â phlant sy’n ddigon hen i fod yn wrthryfelgar a styfnig. Roedd ei mam yn dod o Gymru’n wreiddiol, felly mae ganddi reswm da dros eisiau dysgu Cymraeg. Ei e-ffrind yw Sara, hithau’n dysgu Cymraeg, yn fam â theulu ifanc ac yn gweithio mewn swyddfa yng Nghaerdydd.

O fyd gwaith i oriau hamdden, teithio a gwyliau, cymdeithasu a thrin pobl ifanc, rhannu cyfrinachau a chwyno - fe ddaw’r darllenydd i wybod mwy am fywyd dau ddysgwr, un yn Awstralia a’r llall yng Nghymru, wrth droi tudalennau E-ffrindiau.

Manylion llyfryddol
E-ffrindiau
Lois Arnold
9781848511057
Gwasg Gomer
£7.99

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Meinir Garnon James meinir@gomer.co.uk 01559 363090
Lois Arnold 01873 856524     


rule8.jpg