# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 8 Hydref 2009
     
 clecs_issue6.jpg cwmwl1.jpg  
Dyn tywydd yn ymuno â Chlwb Llanllawen

cwmwl2.jpg  
Mae Clwb Llanllawen, sef clwb i ddysgwyr a siaradwyr iaith gyntaf y Gymraeg Coleg Llysfasi, wrth eu boddau bod dyn tywydd y BBC, Derek Brockway, wedi dod yn aelod anrhydeddus o’r clwb. Roedd Mr Brockway yn siaradwr gwadd yn ystod diwrnod gwobrwyo Llysfasi ym mis Mehefin lle cafodd gyfle i gwrdd â Myfi Brier, sef tiwtor Llysfasi sydd wedi ennill gwobr am ddysgu Cymraeg yn y Gymuned, a gofynnodd iddi sut y gallai wella ei Gymraeg. Fe’i cyflwynwyd â chyfres o lyfrau a CDs Llanllawen sy’n addysgu Cymraeg bob dydd mewn dull hwyliog a chyraeddadwy drwy gyfres o storïau byrion. Esboniodd Jan Wilson-Chalon, sef Swyddog Cyhoeddusrwydd Clwb Llanllawen, sut mae’r Clwb yn annog dysgwyr y Gymraeg i ymarfer yr iaith mewn nifer o ddigwyddiadau cymdeithasol a gwahoddwyd Derek i ymuno â’r clwb. Fe gytunodd o ac anfonodd ei ffurflen ymaelodi at y clwb yn ystod yr haf. Mae hefyd wedi cynnig son am ddigwyddiadau’r clwb yn ystod ei adroddiadau tywydd pan fo’n bosibl!

clecsrule8.gif poblclecs.jpg

I’r Clonc! I’r Clonc!
Dewch Gymry hen ac ifanc,
Dewch i’r Clonc.

Synnwn i fawr os oes traed blinedig gan rai o Gymry a dysgwyr Sir Benfro erbyn hyn. Y darn diweddaraf o Lwybr yr Arfodir i gael ei throedio gan y criw eofn hwn yw’r darn rhwng Cei Stangbwll a Broad Haven ar 26 Medi, sef y seithfed rhan o’r daith.
poblclecs2.jpg
Taith gerdded ar gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg a’r Cymry ydyw. Ond peidiwch â phoeni os golloch chi’r hwyl y tro hwn. Cewch gyfle eto – mae 80 rhan i gyd!

clecsrule8.gif

Y Cymry a’r Dysgwyr yn Llundain

Rhai o weithgareddau Canolfan Cymry Llundain

Os hoffech wybodaeth bellach, neu wybodaeth ynglŷn â digwyddiadau yn y dyfodol, cysylltwch â Swyddfa Canolfan Cymry Llundain (020 7837 3722) neu ymwelwch â’r wefan: http://www.londonwelsh.org/

GRŴP DRAMA
Cwrdd Nos Lun - cyfarfodydd yn dymhorol. Cadeirydd, Mrs Glenys Roberts, Ysgrifennydd, Mrs Iola Bilson.

CORÂL CYMRY LLUNDAIN
Côr cymysg yw’r Corâl sy’n ymarfer ar Nos Fawrth am 7:30. Cadeirydd, Miss Liz Siberry, Ysgrifennydd, Miss Susan Craig.

CÔR MEIBION GWALIA
Mae’r Côr yn ymarfer ar Nos Fercher am 7:30. Ysgrifennydd, Mr David Hurlbutt.

DOSBARTHIADAU CYMRAEG
Nos Iau. Mae pob aelod yn gymwys i ymuno â’r dosbarthiadau (tâl: £54 am y flwyddyn). Cysylltwch â Swyddfa’r Ganolfan am fanylion pellach neu i gofrestru

CÔR MEIBION CYMRY LLUNDAIN
(Arweinydd Dr Haydn James) http://www.londonwelshmvc.org/
Mae’r Côr yn ymarfer Nos Iau am 7:30. Cadeirydd, Mr Berwyn Evans, Ysgrifennydd, Mr Mike Benson.

clecsrule8.gif

Ydych chi’n nabod rhywun sy’n byw yn ardal Basingstoke sy’n siarad Cymraeg? A fyddai diddordeb ganddyn nhw mewn bod yn diwtor Cymraeg?

Os oes, cysylltwch â Gareth Thomas ar 01256 389414 neu trwy e-bost: gareththomas855@btinternet.com

clecsrule8.gif

   cystad5.jpg

Yn y rhifyn diwethaf, roedd cyfle i chi ennill pecyn o adnoddau yn rhoddedig gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru. Mae’r pecyn yn cynnwys cardiau fflach bach 1, cardiau fflach bach 2 a chwaraeydd MP4. Y cwestiwn oedd:

   clecs-4.jpg

Yr ateb wrth gwrs yw Aberystwyth, a’r enillydd yw Jane Morgan o’r Trallwng. Llongyfarchiadau mawr iddi.

poblclecs3.jpg  
Cofiwch am y gystadleuaeth yn y rhifyn hwn ac ewch i’r adran Cysylltu i anfon eich ateb. Y dyddiad cau y tro hwn yw Hydref 30 a’r wobr yw tocyn llyfr gwerth £20 yn rhoddedig gan CBAC. Y cwestiwn yw:

Pwy oedd wedi cyflwyno’r tystysgrifau i ddysgwyr llwyddiannus yn y seremoni ym Maes D adeg yr Eisteddfod Genedlaethol eleni?

Pob hwyl!


clecsrule8.gif