Agored Cymru yw enw newydd Rhwydwaith Coleg Agored Cymru (RhCAC). Mae’n ymddiriedolaeth elusennol sydd â hanes hir o helpu dysgwyr o bob oedran i gyflawni’u potensial. Mae wedi’i gymeradwyo i ddatblygu ei gymwysterau ei hun.
Mae Agored Cymru yn cynnig darpariaeth hyblyg ac ymatebol, sydd wedi’i chynllunio i helpu dysgwyr o bob oedran a lefel i gyflawni eu potensial. Mae’r unedau a’r cymwysterau wedi’u cynllunio gydag anghenion a blaenoriaethau unigolion, cymunedau a chyflogwyr mewn golwg, ynghyd ag amcanion cenedlaethol Cymru fodern.
Mae Agored Cymru yn llwyddo lle gall y llwybrau mwy traddodiadol fethu, lle mae dysgwyr wedi ymddieithrio neu’n anodd eu cyrraedd, pan fo arnyn nhw angen cydnabyddiaeth am ddysgu blaenorol, neu angen crynhoi darnau bach o ddysgu.
Mae Agored Cymru yn cynnig cyfle i’w ganolfannau cydnabyddedig gyflwyno dysgu effeithiol gydol oes, i ehangu cyfleoedd a galluogi dilyniant o fewn fframweithiau addysg a hyfforddiant presennol. Mae’r unedau a’r cymwysterau’n seiliedig ar gredydau, ac yn ddigon hyblyg i gyrraedd dysgwyr mewn unrhyw leoliad – o ysgolion i Addysg Bellach ac o ddysgu ar gyfer troseddwyr i hyfforddiant yn y gweithle.
Mae Agored Cymru, ynghyd â CBAC, yn darparu fframwaith achredu i gefnogi Cymraeg i Oedolion.
Mae Agored Cymru yn cyflawni hyn trwy gefnogi dysgwyr wrth iddyn nhw ddatblygu sgiliau trwy achredu pob cam o’r dysgu, gan helpu dysgwyr i fagu hyder wrth weithio tuag at gymwysterau.
Mae unedau Agored Cymru ar gael o Lefel Mynediad i lefel 4, ac mae pecynnau o unedau ar gael mewn:
• Cymraeg i Oedolion Prif Ffrwd (addas ar gyfer cyrsiau byr a dwys)
• Cymraeg yn y Gweithle
• Cymraeg i Deuluoedd
• Unedau Ychwanegedd Cymraeg (Diwylliant Cymru)
• Unedau Ymwybyddiaeth o’r Gymraeg / Gloywi iaith
Mae Agored Cymru hefyd yn cynnig Cymwysterau NOCN:
Lefel 1 Defnyddio’r Gymraeg gyda Phlant Bach (i’r teulu) QCF
Lefel 1 Defnyddio’r Gymraeg gyda Phlant Bach (i’r gweithle) QCF
Cysylltwch â Llew Moules-Jones, Rheolwr Datblygu Cwricwlwm (Y Gymraeg) i gael mwy o wybodaeth neu gyngor am eich cwricwlwm.
Yn olaf, hoffai Agored Cymru longyfarch Meggan Lloyd Prys o Riwlas ger Bangor, enillydd cystadleuaeth ‘Dysgwr y Flwyddyn‘ Eisteddfod Bala ‘09. Dyfarnwyd dros gant o gredydau RhCA i Meggan drwy Brifysgol Bangor yn ystod y tair blynedd diwethaf. Prawf pendant fod Credyd yn gweithio!