Fel tiwtor Cymraeg i Oedolion yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg, bues i’n ffodus eleni i gael y cyfle i fynychu a chymryd rhan yng Ngŵyl Werin Y Smithsonian yn Washington DC. Gŵyl awyr agored yw hi a gynhelir yn flynyddol ar y National Mall. Cymru oedd y wlad a ddewiswyd i hyrwyddo ei hiaith, ei thraddodiadau a bywyd gwerin y flwyddyn hon. Braint ac anrhydedd oedd cael bod yn un o bron i 250 o bobl Cymru a aeth allan am bythefnos i ledaenu hanes ein gwlad a’n mamiaith.
Fy mhrif swyddogaeth oedd i ddysgu Cymraeg yn yr Ŵyl, ac ni allai unrhyw fath o ymchwil blaenorol fod wedi fy mharatoi yn ddigonol i dderbyn brwdfrydedd ac awch yr Americanwyr i ddysgu am Gymru ac i siarad ein hiaith.
Cynhelir y gwersi Cymraeg mewn strwythur pren nid yn annhebyg i bagoda mewn ardal a elwir Y Cylch Stori, a hynny yng ngwres llethol ganol dydd – ond er mawr syndod i mi, ni amharodd y ffactorau hyn ar y dysgu na’r addysgu. Cynaladwyaeth oedd prif thema’r Ŵyl eleni, felly roedd yr arfer o ddosbarthu papur neu daflenni gwaith yn un na ellid dibynnu arno. Roedd y dechneg ddysgu yn syml ac yn hynafol braidd – siart bapur ar flaen y ‘dosbarth’ yn unig a meicroffon i daflu fy llais dros fwrlwm yr Ŵyl oedd yn parhau o ddeutu’r Cylch Stori. Doedd dim pwerbwynt na deunyddiau TGCh ar gyfyl y lle, felly ro’n i’n dibynnu yn llwyr ar gyfraniad ac ymateb y ‘gynulleidfa’ i ddarparu rhediad llyfn y wers. Anhygoel oedd gweld cynifer o bobl yn cynnal deialogau yn hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg a hynny yn darllen o’r siart bapur neu yn dibynnu ar eu cof wrth ddrilio.
Dysgais ddwy wers strwythuredig y dydd ar gyfartaledd – ar faterion megis cyfarch; pwy dych chi?; O ble dych chi’n dod?; gwaith; dyddiau’r wythnos; y tywydd; yr amser, a hynny dim ond i enwi rhai. Bu cymysgedd o oedran yn y gwersi – o blant bach hyd at bobl yn eu saithdegau! Am brofiad bythgofiadwy! Drilio fu prif ddull y dysgu, ac roedd eu parodrwydd i ailadrodd ac ymgymryd mewn gwaith pâr a grŵp yn galonogol tu hwnt. Anfynych y cewch y cyfle fel tiwtor Cymraeg i ynganu’r llythrennau ‘ll’, ‘ch’ ac ‘ng’ i ddosbarth am y tro cyntaf heb unrhyw wrthwynebiad neu gwestiynu, ond yma ro’n nhw’n ailadrodd yn rhugl ac yn eglur heb sôn am ynganu yn hyderus. Ai eu diwylliant amlieithyddol sy’n gyfrifol am hyn? Pwy a ŵyr! Ond cymaint eu hyfedredd a’u gallu, yr her fwyaf i fi ar ddechrau’r pythefnos oedd i ganfod digon o ddeunydd i’w hymestyn yn ystod yr awr o wers!
Bu dosbarth o blant yn bresennol yn un o fy ngwersi, ac mae’n syndod sut gall plant ennyn tueddiadau cystadleuol mewn oedolion! Roedd yr oedolion yn mynnu drilio yn uwch na’r plant, a’r plant yn brwydro i godi eu lleisiau yn uwch na’r oedolion! Bu’n wers ddifyr tu hwnt, a dweud y lleia.
Mae’r Americanwyr yn meddu ar ryw syched enbydus am wybodaeth, ac er fy mod i’n un sy’n ei chael hi’n hawdd siarad a chynnal sgwrs, dw i erioed wedi siarad cymaint yn fy myw! Cymaint fu’r prysurdeb yn y babell iaith lle y’m lleolwyd am weddill y dydd, bu’n rhaid i mi ofyn am gymorth gan feirdd, cerddorion a Chymry eraill oedd yn yr Ŵyl i ddod i’r babell i fy helpu i ateb gofynion chwant yr Americanwyr am yr wybodaeth hon. O ganlyniad, mawr fu’r galw am losin gwddwg!
Braf iawn oedd clywed y dysgwyr newydd yn defnyddio’r Gymraeg wrth gyfarch fy nghyd-weithwyr yn ystod yr Ŵyl, a brafiach fyth oedd gweld yr un bobl yn dychwelyd am wersi ddyddiau yn olynol.
Efallai mai fy anwybodaeth i oedd heb fy mharatoi ar gyfer y nifer fawr o Americanwyr a chanddynt wreiddiau Cymreig. Bu’r babell iaith yn fwrlwm o gwestiynau a hanesion am deuluoedd y bobl a oedd yn hanu o Gymru, a brwdfrydedd y genhedlaeth fodern i ddysgu am eu gwreiddiau ac i geisio cael empathi â’u cyndeidiau trwy ddysgu’r iaith. Derbyniais nifer fawr o lun gopϊau o dudalennau blaen Beiblau teuluol ac arnynt bwt yn ysgrifenedig yn Gymraeg i’w gyfieithu. Un ohonynt a barodd ddeigryn oedd lle roedd mam yn amlwg yn cyflwyno Beibl i’w mab wrth iddo adael yr aelwyd am y tro cyntaf – a hynny ym 1809! Roedd gweld balchder ac emosiwn yr aelod teulu wrth i mi gyfieithu’r darn ysgrifenedig iddi yn un fydd yn parhau yn fy nghof hyd oes.
Cynhelir nifer o weithgareddau yn y babell iaith ar gyfer ymwelwyr megis Scrabble yn Gymraeg, Lotto Geiriau, Snapeiriau, Snaprif yn ogystal â chasgliad o lyfrau plant a ddarparwyd gan fy ffrindiau a chan Lywodraeth y Cynulliad – diolch iddynt am yr adnoddau hyn. Cafwyd ymateb calonogol i’r holl weithgareddau, gyda phobl yn dod i’r babell i gael mochel rhag yr haul tanboeth ac eistedd am gyfnod i bori trwy’r llyfrau a chwarae gemau gan raddol dysgu geiriau allweddol Cymraeg. Bu muriau’r babell yn wledd o liw a llun, diolch i bosteri Cymraeg, ffris Yr Wyddor a baneri enfawr o waith celf diarhebol Mary Lloyd Jones. Roedd y baneri yn cynnwys barddoniaeth dros y canrifoedd, ac felly yn gyfle i’r ymwelwyr gael blas ar ddatblygiad yr iaith Gymraeg ar hyd yr oesoedd ynghyd â dysgu am hanes barddoniaeth Cymru.
Dau adnodd a fu’n werthfawr tu hwnt oedd y glôb Cymraeg a map o Gymru. Anghredadwy yw meddwl bod ein gwlad ni yr un maint â Massachusetts – ond ffaith ddelfrydol o geisio rhoi Cymru yng nghyd-destun yr Unol Daleithiau ac yn wir y byd!
Adnodd arall a ddarparwyd ar fy nghyfer oedd arwydd ffordd enfawr o Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch a godwyd y tu allan i’r babell iaith. Bu’r Americanwyr yn frwd i ynganu ac i ddysgu ystyr yr enw. A dirifedi fu’r ceisiadau am recordiad ohono i yn llefaru’r enw!
I brofi llwyddiant yr Ŵyl, treuliais ddeuddydd yr wythnos hon yng nghwmni Americanes a fu’n bresennol yn fy ngwersi yno. Mae wedi dod i Gymru ar wyliau am bythefnos o ganlyniad i effaith gadarnhaol yr Ŵyl arni. Aeth ati yn syth wedi’r Ŵyl i ddysgu Cymraeg ar-lein, ac yna paratoais i wersi ar ei chyfer yma yng Nghymru. Buom yn sgwrsio trwy gyfrwng y Gymraeg am y ddeuddydd cyfan, a bu’n ddigon hyderus i siarad Cymraeg â phobl yn Sain Ffagan heddiw. Sôn am ddyfalbarhad ac agwedd benderfynol!
Mae’r iaith Gymraeg yn wir ar led yn yr Unol Daleithiau – gyda Chymdeithas Madog yn Ohio, Cymdeithas Gymraeg Fredricksburg, Utah ac Oklahoma, Cymdeithas Dewi Sant yn Efrog Newydd, Gogledd Carolina, Pennsylvania, dim ond i enwi rhai. Gallaf ond edrych yn ôl ar fy nghyfnod yn y Smithsonian gyda balchder fy mod i wedi bod yn un o’r rhai a gyfrannodd at roi Cymru ar fap y byd. Wyddwn i ddim fod cynifer o bobl yn gwybod amdanon ni eisoes!
Alla i ddim fynegi fy niolchiadau yn ddigonol i Ganolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg, i’r Smithsonian ac i Lywodraeth Cynulliad Cymru am roi’r cyfle unigryw, bythgofiadwy hwn i mi. A diolchaf hefyd i Gymru Fach – er fy mod i’n amau nad fach” mohoni hi mwyach.
Am fwy o wybodaeth am Ŵyl Smithsonian Cymru, hwyliwch i wefan: www.festival.si.edu/2009/wales/index.aspx