# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 8 Hydref 2009
    coffa.jpg  
Bydd Dydd Mercher, 5 Awst, yn Eisteddfod Genedlaethol Meirion a’r Cyffiniau yn aros yn hir yn y cof i un tiwtor arbennig. Dyna pryd y cyhoeddwyd mai enillydd y Tlws eleni yw Shirley Williams, y tiwtor o Feirionnydd. Cyflwynwyd y Tlws iddi gan Havard a Rhiannon Gregory mewn seremoni ffurfiol ar lwyfan y Pafiliwn yn y Bala.

Ar noson fwyn o haf, cyn seremoni gwobrwyo Dysgwr y Flwyddyn, ailgyflwynwyd y Tlws i Shirley yng Nghanolfan Cywain y Bala. Cafwyd noson arbennig ymhith cyfeillion, cerddorion a chyd-weithwyr.
coffa2.jpg  
Daw Shirley yn wreiddiol o Raeadr Gŵy, ac mae’n byw erbyn hyn ym mhentref bychan Croesor. Bu hi a Melfyn, ei gŵr, yn weithgar tu hwnt ym milltir sgwar ardal Llanfrothen, ac mae ganddi ddau o feibion. Dysgwraig oedd Shirley ei hunan ac mae wedi bod yn gysylltiedig â maes Cymraeg i Oedolion ers dros 30 mlynedd. Mae hi wedi ysbrydoli a chefnogi cannoedd o oedolion sy’n dysgu’r Gymraeg.

Cafodd ei haddysg uwchradd yn Ysgol Uwchradd Llanidloes, lle dechreuodd ei diddordeb yn y Gymraeg ac aeth ymlaen wedyn i Brifysgol Abertawe. Ar ôl gadael y coleg bu’n cyflwyno’r Gymraeg mewn Dosbarthiadau Nos yn ogystal â gweithio fel Athrawes Ail Iaith yn ysgolion Maesgarmon ac Ardudwy. Wrth fagu’r plant trodd at faes Cymraeg i Oedolion, fel tiwtor yng Ngholeg Harlech lle bu’n ysbrydoliaeth i nifer fawr o fyfyrwyr. Wedi hynny, bu’n diwtor Cymraeg i athrawon Gwynedd gan eu hannog a’u helpu i ddefnyddio’r Gymraeg wrth eu gwaith.

Ers tua 15 mlynedd bu’n diwtor-drefnydd brwdfrydig tu hwnt dros ardal Meirionnydd gyda Phrifysgol Aberystwyth, ac yn ddiweddarach gyda Chanolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru. Roedd ei hymwybyddiaeth o natur yr ardal ac o anghenion dysgwyr yr ardal a’r tiwtoriaid o dan ei hadain yn ddi-hafal. Gan eu bod wedi eu hysbrydoli gymaint gan Shirely, arferai nifer fawr o oedolion deithio o bellter i fynychu’i dosbarthiadau, y Sadyrnau Siarad ac Ysgolion Haf Dolgellau. Caiff ei hadnabod fel un sy’n barod ei chyngor a’i hanogaeth gan roi arweiniad cadarn.

coffa3.jpg
Bu Shirley hefyd yn cyfrannu’n helaeth at faes dysgu anffurfiol. Ar un cyfnod hi oedd Cadeirydd CYD ac yn ysbrydoliaeth i ddysgwyr Cymru gyfan. Pan ymwelodd yr Eisteddfod Genedlaethol â’r Bala yn 1997, hi oedd Cadeirydd Pwyllgor y Dysgwyr a hi hefyd oedd y Cadeirydd yn 2009, mor frwdfrydig a gweithgar ag erioed.

Ymddeolodd Shirley o’i gwaith adeg Pasg 2009 ac ar hyd y blynyddoedd cynorthwyodd lawer o oedolion i groesi’r bont gan weithio’n ddiflino ymhell y tu hwnt i ofynion unrhyw swydd.

Yn ogystal â gwobr ariannol a’r Tlws hardd i’w gadw am flwyddyn, cyflwynwyd darn arbennig o femrwn Gregynog i’r enillydd hefyd, yn gofnod parhaol personol. Llawer o ddiolch, felly, i Havard Gregory am drefnu a noddi’r gwobrau.


rule8col.gif