# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 6 Pasg 2009

ardal2.jpg  
Mae gan bob un o’r canolfannau iaith eu heriau, wrth gwrs, ond mae’r heriau sy’n wynebu Canolfan Gwent ychydig yn wahanol gan ei bod yn gwasanaethu pum sir: Blaenau Gwent, Casnewydd, Caerffili, Torfaen a Mynwy. Ardal boblog, enfawr. Mae’r ganolfan yn rhan o Goleg Gwent ac yn cydweithio â Choleg Ystrad Mynach i ddarparu’r holl ddosbarthiadau Cymraeg. Ar hyn o bryd, mae’r ganolfan wedi ymgartrefu ar Gampws yr Hill, y Fenni.

Mae 13 o staff llawn amser yn gweithio yno yn ogystal â 75 o diwtoriaid. Mae’r tiwtoriaid hynny yn cynnwys trawsdoriad o Gymry Cymraeg a dysgwyr, gyda thri chwarter ohonynt yn gyn-ddysgwyr. Geraint Wilson-Price sy’n cyfarwyddo gwaith y ganolfan ac mae hynny’n dipyn o gamp o gofio bod gan y ganolfan 5 swyddog datblygu – un ymhob awdurdod sirol. Mae’r swyddogion datblygu hefyd yn dysgu dosbarthiadau ac yn trefnu sesiynau dysgu anffurfiol. Staff profiadol, brwdfrydig ac yn eu plith y mae Siân Griffiths, y rheolwr gweithredol, sydd hefyd yn cynnal dosbarthiadau. Yn ddiweddar, cafodd y ganolfan arolwg lwyddiannus gan Estyn a darllenwch Ddyddiadur Arolwg Siân (Adran Newyddion) er mwyn cael gwybod sut mae mynd ati i oroesi arlowg!

Cyfathrebu’n hwylus â phawb yw’r prif nod mewn canolfan mor fawr, mae’n siwr, ac er mwyn gwneud hynny mae Canolfan Gwent yn gwneud defnydd llawn o Moodle, sef rhyw fath o fewnrwyd sy’n cynnwys pob math o wybodaeth yn ymwneud ag adnoddau a chyrsiau. Gall y staff a’r tiwtoriaid gyrchu’r safle ar unrhyw adeg gan ddefnyddio cyfrin air. Hefyd, cynhelir y Cwrs Cymhwyster i diwtoriaid ac mae saith o diwtoriaid wedi ymrwymo i’r cwrs hwnnw hyd yn hyn. Ond hoffai’r ganolfan ddenu mwy o diwtoriaid yn gyffredinol a chynigir sesiynau hyfforddi addas a bywiog.

Y cyrsiau preswyl yw rhai o’r cyrsiau mwyaf poblogaidd o hyd, gyda Llanbedr Pont Steffan ar frig y rhestr o leoliadau poblogaidd! Mae’r ganolfan yn teimlo bod rhaid dyfalbarhau i sbarduno’r dysgwyr a’r ffordd orau o wneud hynny yw wrth gadw mewn cysylltiad rheolaidd a chynnig gwybodaeth ddefnyddiol ac amserol. Dosberthir pecynnau a chylchgrawn tymhorol at y perwyl hwnnw ac maen nhw hefyd yn cynnwys gwybodaeth am gyrsiau penwythnos a chyrsiau undydd. Mae’r ganolfan hefyd yn cydweithio’n agos â Menter Iaith Caerffili a Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy. Yn sicr, o ganlyniad i waith y Ganolfan a’r sefydliadau eraill, mae patrwm iaith yr ardal yn raddol newid ac mae ymweliad â’r swyddfa weithgar ar Gampws yr Hill yn ysbrydoliaeth ynddo’i hun.  


purpleline.jpg