# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 6 Pasg 2009

   dyddiadur.jpg
Llun Ionawr 26

Diwrnod cyntaf arolwg Estyn. Ar ôl yr holl waith caled dros y misoedd diwethaf i baratoi pawb a phopeth ar gyfer yr Arolwg, mae’r diwrnod mawr wedi cyrraedd!! Swyddfa yn dawel iawn am hanner awr wedi wyth y bore. Catrin (Swyddog Gweinyddol yr adran) a finnau’n eistedd yn dawel wrth ein desgiau yn disgwyl – disgwyl am beth? Dw i ddim yn gwybod! Disgwyl i dîm arolygu Cymraeg i Oedolion ymddangos ar stepen y drws i ofyn am ragor o ystadegau/esboniadau? Disgwyl i’r ffôn ganu? Disgwyl i diwtoriaid ffonio i ddweud eu bod nhw’n sâl? Neb yn ffonio……..tan 9 o’r gloch. Glenda……mewn panig! Y bwrdd gwyn rhyngweithiol ddim yn gweithio yn ein ‘stafell ddosbarth! Catrin yn rhedeg lan i’r ystafell i drio sortio pethau allan. Catrin yw’r arbenigwraig ar bopeth sy’n ymwneud â thechnoleg yn y Ganolfan. Does dim byd dyw hi ddim yn ei ddeall am gyfrifiaduron. Mae hi yn ôl o fewn 5 munud – plwg y bwrdd gwyn wedi dod allan o’r cefn! Panig drosodd. Hanner awr wedi naw yn cyrraedd – dim Arolygydd gyda Glenda. Dyn ni gyd yn teimlo’n fflat – yn falch mewn ffordd, ond yn siomedig hefyd. Gwell i mi ffonio un o’r canolfannau yng Nghasnewydd ble mae Geraint yn dysgu. Mae Arolygydd yno gyda Geraint, a phopeth i’w weld yn mynd yn iawn. 10 o’r gloch yma - galwad o’r dderbynfa…mae Arolygydd Estyn wedi cyrraedd, felly dyma fi’n mynd â hi i ystafell Glenda.

Pnawn Llun yn dawel – pawb yn disgwyl. 5 o’r gloch – Geraint yn cael ei alw i gyfarfod adborth. Dyw e ddim yn edrych yn hapus!

Nos Lun – fy nosbarth Sylfaen 2 i yng Nglyn Ebwy! 5.45 a dw i’n barod. Ffeil dysgu ar y bwrdd, ffeil gwaith papur, cynlluniau gwersi, llyfr Sylfaen, cardiau fflach, dis rhagenwau, gemau..…popeth yn berffaith. Ond rhaid i mi aros tan 7 i ddechrau! Saith o’r gloch - dosbarth llawn, pawb yn frwd ac yn siarad yn dda, fel arfer….OND dim Arolygydd. Falle ar ôl amser coffi. Dw i’n siŵr bydd rhywun yn ymweld â fi. Geraint wedi bod yn pregethu aton ni’r Rheolwyr am wythnosau – Chi’n mynd i gael ymweliad yn bendant!” Ond…..neb yn dod. 9 o’r gloch yn cyrraedd, a dyma fi’n tecstio pawb…Geraint, Catrin, Glenda..….mor siomedig! O wel..….caf i ymweliad pnawn Mercher efallai!


Mawrth Ionawr 27

Bore tawel, cwpwl o diwtoriaid yn ffonio i ddweud eu bod nhw wedi cael ymweliad.

Pnawn Mawrth – cyfarfod gyda Rheolwr Data y Coleg. Geraint wedi clywed bod un o’r Arolygwyr eisiau dod i’r cyfarfod. Pam? Pwy a ŵyr! Ond dyna fe, cyfarfod da, drosodd mewn awr a hanner, a’r Arolygydd yn hapus…….dw i’n meddwl. Ond ddim yn siŵr am Geraint. Mae rhywbeth yn ei boeni fe.

Nos Fawrth – dw i’n asesu myfyriwr sy ar y cwrs cymhwyster yn Ysgol Gymraeg y Fenni. Pedwar dosbarth yno ar nos Fawrth – un ohonyn nhw yn mynd i gael ymweliad, dw i’n siwr. Cyrraedd am 7 a gweld Arolygydd yn nosbarth Sylfaen 2. Catrin, druan, yn dysgu yn yr Hill a heb fod drwy arolwg o’r blaen. Clywais ei bod hi’n mynd yn ôl lan i’r Ganolfan wedyn i weld dosbarth Catrin am 7.45. Ydw i’n mynd i rybuddio Catrin? Na, gwell peidio! O, falle dylwn i, ond bydd ei ffôn hi wedi ei ddiffodd felly does dim pwynt.


Mercher Ionawr 28

Popeth yn dawel yn y swyddfa (o ran Estyn). Cyfle i fwrw ymlaen â’r gwaith oedd wedi gorfod aros tra oeddwn yn paratoi at Estyn.

3pm – teimlad o déjà vu. Dyma fi’n sefyll tu ôl i ddesg eto - Ffeil dysgu ar y bwrdd, ffeil gwaith papur, cynlluniau gwersi, llyfr Sylfaen, cardiau fflach, dis rhagenwau, gemau..…popeth yn berffaith. Dosbarth yn cyrraedd am 4 – dosbarth Cymraeg yn y Gweithle – pobl sy’n gweithio i Ymddiriedolaeth Iechyd Gwent. Pawb yn hapus...ond yn nerfus, gan gynnwys fi! Geiriau Geraint yn mynd trwy fy meddwl…. neb yn cyrraedd……dim sôn am Arolygydd. Dechrau drilio…Dylwn i, Hoffwn i…….ac ati. 4.15... y drws yn agor, a dyma hi…yr Arolygydd! Hwre! 6 o’r gloch, y dosbarth yn gorffen….ac mae hi dal yn y dosbarth! Wedi mwynhau yn fawr iawn iawn, medde hi. Adborth da iawn…..wel, dw i’n hapus iawn, ta beth! Tecstio pawb…hwre, ymweliad drosodd. Ond Geraint cysurwr Job”, yn ein rhybuddio….gallen nhw ddod ddydd Llun neu ddydd Mawrth nesaf, cofiwch!” Mae e wedi bod i gyfarfod adborth... adborth boddhaol, ond maen nhw eisiau gweld rhagor o ddosbarthiadau ddechrau’r wythnos nesaf. O wel, falle don nhw i Lyn Ebwy nos Lun nesaf wedi’r cyfan, te. Gobeithio’n wir…mae’r dosbarth yn wych! Edrych ymlaen…..rhaid mod i’n od iawn!!


Iau Ionawr 29

Grŵp Ffocws Blaenau Gwent – 20 o bobl yno, neb o Estyn. Geraint yn clywed bod 150 wedi cofrestru ar gyfer Ysgol Undydd Trefynwy, ddydd Sadwrn! Gwych. Mae e’n gwenu ychydig bach heddi!


Gwener Ionawr 30

Catrin a fi’n brysur iawn…arholiad Mynediad. Dim amser i feddwl am Estyn heddiw.


Sadwrn Ionawr 31

Ysgol Undydd Trefynwy – Geraint wedi hysbysebu hwn ymhobman yr wythnos hon. Fel arfer tua 120 yn Nhrefynwy…ond dyn ni wedi bwrw’n targed – ac mae 150. Gwych! Popeth yn mynd yn grêt. Dosbarth newydd o ddechreuwyr pur yno hefyd. Geraint yn hapus dros ben, ac yn bwysicach fyth……yr Arolygydd yn hapus iawn iawn hefyd.


Llun Chwefror 2

Maen nhw wedi addo eira heddiw…..na…. fyddwn ni ddim mor lwcus â chael cwpwl o ddiwrnodau o’r gwaith…fyddwn ni? Cyfarfod Swyddogion Datblygu Blaenau Gwent, Mynwy, Casnewydd, fi a’r Arolygydd ar gampws Pont-y-pŵl. Cyfarfod da iawn. Cawson ni ein canmol am yr holl waith dyn ni’n wneud yn yr ardal. Llawer o gwestiynau yn cael eu gofyn, a’r atebion iawn yn cael eu rhoi hefyd…….wel, gobeithio!

Nôl i’r Fenni….mae’n dechrau bwrw eira!! Cyrraedd y swyddfa - neges gan Ganolfan Glyn Ebwy. Oherwydd y tywydd, dosbarthiadau yn cael eu canslo heno a bore fory. Grêt……dim ymweliad i neb ym Mlaenau Gwent heno, te!

Tri o’r gloch, mae Coleg yr Hill wedi cau ers 2.30, a neb wedi dweud wrth yr adran Gymraeg! Ffôn symudol yn canu…y gŵr. Gwell i mi adael nawr neu fydda i ddim yn gallu cyrraedd gartre!


Mawrth Chwefror 3

7 o’r gloch – tua dwy droedfedd o eira yn Nhredegar! Dim gobaith ‘da fi gyrraedd y swyddfa heddi. Bron pob campws Coleg Gwent ar gau. Ffôn symudol ddim yn stopio canu am oriau – staff craidd y Ganolfan, tiwtoriaid, canolfannau, Estyn! Neb yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd. Dim ots…..diwrnod bant! Hwre! Rhai o Arolygwyr Estyn yn gweithio gartref – lwcus i ni gael Moodle” – mae llwythi o wybodaeth am bopeth yn ymwneud â maes CiO Gwent yno, a phob Arolygydd yn gallu defnyddio Moodle o’r tŷ. Lwcus ein bod ni wedi meddwl yn ddwys am ein agenda ESDGC (Addysg Datblygiad Cynaladwy a Dinasyddiaeth fyd-eang) ac wedi safio llawer o goed trwy roi popeth ar "Moodle". Cyfarfod Rheolwyr ac Estyn wedi’i ohirio.


Mercher Chwefror 4

Rhan fwyaf o ddosbarthiadau Gwent wedi’u canslo. Cyrraedd y gwaith erbyn 11.30. Rhaid gwneud penderfyniad am Eisteddfod y Dysgwyr nos Wener. Canslo? Gohirio? Penderfynu gohirio oherwydd rhagolygon y tywydd ar gyfer heno a fory. Trueni mawr. Byddai Estyn wedi mwynhau! Gartref am 5. Rhagor o eira dros nos. Diolch byth ein bod ni wedi gohirio’r Eisteddfod. Un peth yn llai i boeni amdano. Falle cysga i heno nawr!


Iau Chwefror 5

Campysau ar gau eto. Dim byd y gall unrhywun wneud, dim ond aros i’r eira ddadleth. Ro’n i’n hoffi eira…ond ddim yn siwr nawr! Wedi cael digon – mae’n achosi gormod o broblemau, yn enwedig yng nghanol arolwg. Cyfarfod Bwrdd Partneriaeth Blaenau Gwent wedi’i ganslo.


Gwener Chwefror 6

Methu cyrraedd heol Blaenau’r Cymoedd i fynd i’r gwaith ....eto. Mynd am dro yn yr eira…mae hwn llawer mwy o hwyl na chael ein holi gan Estyn!


Sadwrn Chwefror 7

Diwrnod hyfforddiant yn y Parkway, Cwmbrân. Nifer dda iawn o diwtoriaid wedi mynychu’r sesiwn o dan yr amgylchiadau.


Llun Chwefror 9

Arolwg Estyn…….Oes arolwg Estyn wedi bod? Mae pawb wedi anghofio am Estyn yn y gwaith, gan gynnwys Geraint, medde fe! Ond sa i’n ei gredu fe. Mae’r wythnos diwethaf wedi "de-stresso" pawb! Rhaid i mi gofio dweud wrth y Canolfannau eraill am "archebu" eira yng nghanol Arolwg! Mae’n gwneud y byd o les i bawb.


Mawrth Chwefror 10

Diwrnod prysur yn y gwaith. Geraint yn ddiflas, ac yn poeni am ddydd Gwener!


Mercher Chwefror 11

Cyfarfod Is-Reolwyr ac Estyn. Glenda, Steffan a fi bant i Bont-y-pŵl i gael ein holi am………...bopeth! Geraint yn lwcus…yn cael dianc heddi!


Iau Chwefror 12

Diwrnod adrodd yn ôl – i fod. Ond oherwydd problemau gyda’r tywydd, mae Estyn eisiau diwrnod arall cyn adrodd yn ôl. O diar….pawb yn poeni!


Gwener Chwefror 13!!!!!!!!!

Dydd Gwener y 13eg. Anlwcus i rai! Nid ni…….gobeithio! Geraint a fi yn cyfarfod â thîm Estyn, gyda rheolwyr eraill y Coleg a’r Gymuned. Pawb yn ddifrifol iawn, neb yn gwenu, pawb yn ofni’r gwaethaf…….ac yna’r canlyniad………..

animated-line.gif
argyfwng.jpg
         Gwin coch - llawer
         Gin - digon
         Afalau i’r Arolygwyr
         Eira!!!!!!!!
         Amynedd Job
         Geiriadur Estyn
         Brwdfrydedd Tiwtor
         Brwdfrydedd Dysgwyr
         Llawer o LWC……a chyri mawr i ddathlu’r diwedd.

Siân Griffiths
Rheolwr Gweithredol.


purpleline.jpg