# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 6 Pasg 2009

 syntax_of_welsh.jpg adolygiad.jpg


Cafodd cysyniad gramadeg cynhyrchiol (generative grammar) ei gyflwyno, a’i ddatblygu gan Noam Chomsky (1965), sy’n fwy enwog erbyn hyn am ei weithgarwch gwleidyddol – yn enwedig ei wrthwynebiad i Ryfel Fietnam yn y 1970au. Mae gramadeg cynhyrchiol yn ceisio pennu set o reolau sy’n gallu rhagweld pa gyfuniadau o eiriau a fydd yn ffurfio brawddegau gramadegol. Ers y 1970au, mae sawl ymgais wedi ei wneud i esbonio cystrawen y Gymraeg, a’i thafodieithoedd, drwy ddefnyddio gramadeg cynhyrchiol – yn enwedig gan Gwen Awberry (1976). Ymgais yw The Syntax of Welsh i esbonio cystrawen y Gymraeg drwy gyfuno dwy ddamcaniaeth sydd, yn eu tro, wedi datblygu o ddamcaniaeth gramadeg cynhyrchiol, sef damcaniaeth Egwyddorion a Pharamedrau (Principles and Parameters) a Gramadeg Strwythur Ymadrodd y Pen (Head-driven Phrase Structure Grammar). Cafodd damcaniaeth Egwyddorion a Pharamedrau (P&P) ei datblygu gan Noam Chomsky a Howard Lasnik (1993). Yn ôl damcaniaeth P&P, gall gwybodaeth gystrawennol siaradwr gael ei heffeithio gan ddau fecanwaith ffurfiol:

•  Mae set o egwyddorion sylfaenol yn perthyn i bob iaith. e. e. rhaid i frawddeg feddu ar oddrych – hyd yn oed os nad yw’n amlwg.

•  Mae set benodol o baramedrau sy’n pennu amrywiaeth gystrawennol ymhlith ieithoedd, e.e. paramedr sy’n pennu a oes rhaid wrth oddrych amlwg neu beidio.

Mae Gramadeg Strwythur Ymadrodd y Pen (HPSG) yn ffurf ar ramadeg cynhyrchiol a ddatblygwyd gan Carl Pollard ac Ivan Sag (1994). Mae HPSG yn tynnu ar feysydd allieithyddol fel cyfrifiadureg, ac mae’n defnyddio cysyniad Ferninad de Saussure (1916) o’r arwydd. Mae gramadeg HPSG yn cynnwys egwyddorion a geirfa (lexicon) nad ydynt, fel arfer, yn cael eu hystyried yn elfennau gramadeg. Golyga hyn fod geirfa unrhyw iaith yn fwy na rhestr o eitemau geiregol yn unig. Rhan o hierarchaeth iaith ydyw.

Yn ôl yr awduron, nid cyfeirlyfr mo The Syntax of Welsh, ac fe’i bwriedir ar gyfer arbenigwyr mewn theori gystrawennol ac arbenigwyr yn y Gymraeg nad ydynt yn gyfarwydd â theori gystrawennol. Yn ddelfrydol, dylai’r ail gategori gynnwys tiwtoriaid Cymraeg i oedolion sydd am ehangu eu gwybodaeth gyffredinol am yr iaith. Gair i gall: mae’r gyfrol yn cynnwys llawer o fformwlâu trawsffurfiol ac felly mae angen astudio’r byrfoddau ar ddechrau’r llyfr, yn fanwl iawn.

Mae hi’n dda gweld cyfrolau fel The Syntax of Welsh yn cael eu cyhoeddi gan arbenigwyr byd-enwog yn y maes. Dyma’r cam cyntaf yn y broses o normaleiddio’r Gymraeg o ran astudio ei chystrawen a’i gramadeg. Mae’r gyfres y mae The Syntax of Welsh yn rhan ohoni eisoes wedi ymdrin ag ieithoedd mawr y byd fel Sbaeneg, Ffrangeg a Saesneg Cynnar yn ogystal ag ieithoedd llai eu defnydd fel yr Hwngareg a’r Islandeg.

Yn gyffredinol, mae gan yr awduron ddiddordeb arbennig yn y Gymraeg oherwydd ei bod hi’n iaith Geltaidd. Mae penodau 2 i 8 yn ymwneud â chwestiynau mawr parthed cystrawen syncronig (gyfredol) y Gymraeg. Mae pennod 9 a 10 yn ymdrin â chwestiynau deiacronig (hanesyddol).

Ceir ymdriniaeth fanwl o ferfenwau (‘non-finite verbs’ chwedl yr awduron) a chymalau berfenwol ynghyd ag ‘wh-constructions’, sef cwestiynau sy’n dechrau ag ‘wh’ yn y Saesneg, sef ‘beth’ ‘pwy’ a ‘pa’. Diddorol nodi fod yr awduron (t.107) yn rhoi dadleuon cryf dros beidio â galw’r ‘a’ a geir yn rhagflaenu cymalau perthynol yn y Gymraeg yn ‘rhagenw’ – hen arfer sy’n parhau yn Thorne (1993) a Thomas (1996).

Cwestiwn mawr arall yr eir i’r afael ag ef yn The Syntax of Welsh yw treiglo gwrthrych uniongyrchol y ferf gryno. Ymchwilir i’r posibiliad a ddylai’r treiglad hwn gael ei ystyried yn ‘gyflwr’ (case), er y cydnabyddir bod y Gymraeg yn meddu ar un cyflwr yn unig, sef y cyflwr cyffredinol. (Ceir dau gyflwr yn y Saesneg, sef y cyflwr cyffredinol a’r cyflwr genidol a sylweddolir gan ‘-’s’. e.e. ‘the teacher’s house’.) Ym mhennod 7, cyflwynir dadleuon o blaid ystyried treiglo gwrthrych uniongyrchol y ferf yn ganlyniad yr ymadrodd sy’n ei ragflaenu.

Mae pennod 9 yn ymdrin â datblygiad hanesyddol cystrawen y Gymraeg. Dylai’r adran hon fod o ddiddordeb i diwtoriaid, a myfyrwyr, sy’n ymddiddori yn y ffordd y mae’r Gymraeg wedi datblygu dros y canrifoedd. Telir sylw arbennig i batrwm brawddegau mewn Cymraeg Canol ac yng nghyfnod cynnar Cymraeg Diweddar, ynghyd â datblygiad ‘yn’ traethiadol (predicative) ac fel nodydd agwedd (aspect marker).

Ym mhennod 10, gofynnir a yw astudiaethau cynhyrchiol blaenorol o’r Gymraeg wedi dadansoddi’r Gymraeg yn gywir o ran trefn geiriau. Yn gyffredinol, ystyrir y Gymraeg yn iaith VSO (Berf + Goddrych + Gwrthrych):
gwrthrych.gif
Caiff y Gymraeg ei chymharu ag ieithoedd Celtaidd eraill – yn enwedig y Llydaweg (chwaer iaith y Gymraeg) – sy’n iaith SVO, ynghyd â chyflwyno tystiolaeth ddeiacronig sy’n dangos mai iaith SVO oedd y Gymraeg yn y gorffennol.

Mae The Syntax of Welsh yn astudiaeth fanwl a thrylwyr o agweddau arbennig ar y Gymraeg o safbwynt damcaniaeth P&P a HPSG, ac am hynny, dylid ei ganmol yn fawr iawn. Y gobaith yw y bydd yn ysgogi rhagor o waith yn y maes. Fodd bynnag, ’r wy’n amau gwerth cyfrol fel hon fel cymorth uniongyrchol i ddysgu Cymraeg i oedolion. Gall fod yn ffynhonnell werthfawr i’r tiwtor sydd am wybod mwy am gefndir datblygiad cystrawen Gymraeg – yn enwedig o safbwynt gramadeg cynhyrchiol. Mae hefyd yn cynnig esboniadau, e.e. pam y mae berfau fel ‘cytuno’ a ‘llwyddo’ yn dewis cymryd yr arddodiad ‘i’, tra bo rhai eraill, e.e. ‘addo’ a ‘gobeithio’, yn dewis peidio â gwneud (t. 94). (Mae ‘cytuno’ a ‘llwyddo’ yn ferfau cyflawn (intransitive verbs) nad ydynt yn cymryd gwrthrych tra bo ‘addo’ a ‘gobeithio’ yn ferfau anghyflawn (transitive verbs) sydd yn cymryd gwrthrych.) Ond, yn fy marn i, cyfraniad mwyaf y gyfrol yw ei hymdriniaeth â datblygiad hanesyddol cystrawen yr iaith. Nid cyfrol hawdd ei darllen mo The Syntax of Welsh, ond yn bendant, mae’n gyfraniad gwerthfawr at ein gwybodaeth o sut mae’r iaith yn gweithio a sut mae wedi datblygu.

Cyhoeddir The Syntax of Welsh gan Wasg Prifysgol Caergrawnt; pris: £79 (clawr caled).

Phylip Brake

Chwefror 2009

dots_with_blue.jpg
Cyfeiriadau

Awberry, Gwenllian M. (1976). The Syntax of Welsh: A transformational study of the passive. Gwasg Prifysgol Caergrawnt.

Chomsky, N. (1965). Aspects of the Theory of Syntax. Cambridge, Massachusetts: Gwasg MIT.

Chomsky, N. a Lasnik, H. (1993). ‘Principles and Parameters Theory’, yn An International Handbook of Contemporary Research. Berlin: de Gruyter.

Pollard, C. a Jag I. A., (1994). Head-driven Phrase Structure Grammar. Gwasg Prifysgol Chicago.

Saussure, Ferdinand de (1916), ‘Nature of the Linguistics Sign’, yn Bally C. a Sechehaye A., gol. Cours de linguistique générale. McGraw Hill Education.

Thomas, P. W. (1996). Gramadeg y Gymraeg. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.

Thorne, D. A. (1993). A Comprehensive Welsh Grammar. Rhydychen: Blackwell.


purpleline.jpg