# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 6 Pasg 2009

tlwsrobina2.jpg   
Robina Elis-Gruffydd

Person arbennig iawn llawn egni, brwdfrydedd, ac wastad â gwên gynnes ar ei hwyneb ~ dyna’r argraff o Robina Elis-Gruffydd sy’n aros gyda phawb oedd yn ei hadnabod. Ac roedd cymaint yn ei hadnabod drwy’i gwaith ymroddedig mewn gwahanol feysydd megis papur bro Clebran, dosbarthiadau Cymraeg i oedolion, Siop Siân Crymych, Plaid Cymru, Cyngor Bro Clydau, CND, Cymdeithas Tai Cantref, Menter Iaith Sir Benfro, byd natur a’r amgylchfyd ac yn y blaen.


Nod Tlws Coffa Robina

Sefydlwyd Tlws Coffa Robina er mwyn meithrin parhad ysbrydoliaeth Robina. Y nod yw hyrwyddo a gwobrwyo cyfraniadau i’r meysydd hynny yr oedd Robina’n ymddiddori ynddynt ac yn poeni amdanynt.


Pwy sy’n gymmwys?

Ystyrir gwaith gan unigolyn neu gan grŵp ffurfiol megis mudiad, cymdeithas, sefydliad, elusen, cwmni masnachol, fferm, ysgol, capel, eglwys, cangen Cyd, neu gan grŵp anffurfiol.


Beth yw’r gofynion?

Unrhyw waith neu brosiect a gyflawnir yn hen siroedd Dyfed sy’n hybu :
•  Yr Iaith Gymraeg
•  Dysgu Cymraeg
•  Y Diwylliant Cymraeg
•  Lles yr amgylchedd, byd natur a gwarchodaeth

Dehonglir yr uchod mor eang â phosibl. Bydd yn dderbyniol i’r gwaith gyfrannu at un o’r meysydd uchod yn unig neu at gyfuniad o fwy nag un. Gall y gwaith gyfrannu’n uniongyrchol at y meysydd neu at wybodaeth a dealltwriaeth ohonynt.Ystyrir gwaith neu brosiect sydd newydd ei gwblhau yn ogystal â gwaith sy’n dal i fynd ymlaen.


Sut i gystadlu am y Tlws?

Rhaid i bob ymgeisydd lenwi’r ffurflen gais a’i danfon gydag enwebiad at y pwyllgor.


Y Wobr

Cyflwynir Tlws Coffa Robina i’r enillydd, i’w gadw am flwyddyn. Cerflun cain o ehedydd yw’r Tlws, o waith Wynmor Owen, crefftwr o Drefdraeth a’i gyflwynodd er cof am Robina. Daw’r tlws mewn bocs pren, lle arysgrifennir enwau’r sawl sy’n ennill bob blwyddyn. Rhoddir hefyd rodd i’w chadw am byth i goffáu ennill y Tlws. Gobeithir y bydd yr hysbysrwydd a ddaw o ennill y tlws yn lledu gwybodaeth am waith da yr enillydd, ac yn ysbrydoli eraill yn eu tro. Hefyd, cyflwynir tystysgrif i’r holl ymgeiswyr sy’n cyflawni gwaith a ganmolir gan y Pwyllgor.

* Sefydlwyd y Tlws gan Fenter Iaith Sir Benfro, OGAM a Cyd, ac mae cynrychiolwyr o bob un o’r tri sefydliad ar Bwyllgor Tlws Coffa Robina a Chronfa Goffa Robina.

Dewisir enillydd y Tlws gan y pwyllgor.

Mae angen i’r ceisiadau gyrraedd y pwyllgor erbyn Medi’r 11eg.

Dewisir enillydd erbyn 1af o Hydref a chyflwynir y Tlws yn Eisteddfod Gadeiriol Crymych ar y 10fed o Hydref.

animated-line.gif

Ffurflen Gais:

purpleline.jpg