Ddechrau mis Tachwedd eleni dechreuodd dros dri chant o fyfyrwyr trwy Gymru, Prydain a thu hwnt ar gwrs Cymraeg cyntaf y Brifysgol Agored, Croeso: Welcome to Welsh, sydd wedi ei anelu at bobl heb unrhyw wybodaeth flaenorol o’r iaith.
Y Brifysgol Agored yw darparwr mwyaf Prydain o gyrsiau iaith israddedig, ac mae iddi enw da yn rhyngwladol am y gefnogaeth a rydd i’w myfyrwyr ac am safon ei chyrsiau. Mawr fu’r croeso i’r ffaith fod y Gymraeg bellach wedi ei hychwanegu at y cyrsiau sydd ar gael mewn Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg ac Eidaleg. Dyma’r unig gwrs Cymraeg a gynigir gan y brifysgol ar hyn o bryd, ond gellir defnyddio’r 30 credyd a geir o’i gyflawni’n llwyddiannus tuag at gymwysterau pellach, os dymunir.
Yn rhan amser y mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr y brifysgol yn astudio, a hynny o’u cartref, gan orfod trefnu eu hamser yn aml o gwmpas eu gwaith a’u dyletswyddau eraill. Mae’r cwrs yn arbennig o addas i bobl nad ydynt yn medru neu’n dymuno mynychu dosbarthiadau wyneb-yn-wyneb yn rheolaidd oherwydd diffyg amser neu oherwydd eu lleoliad daearyddol. Cyn belled â bod ganddynt gyfrifiadur a chyswllt â’r we, gall unrhyw un ym Mhrydain, ac yn wir yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop, ei ddilyn.
Cynigir y cwrs unwaith bob blwyddyn, ac mae’n para am un mis ar ddeg gyda thaflen amser osodedig, a nifer o aseiniadau i’w cyflawni. Yn ogystal â dysgu sut i siarad a deall Cymraeg elfennol daw’r myfyrwyr hefyd i wybod rhywfaint am ddiwylliant, hanes a thraddodiadau Cymru.
Mae Croeso’n seiliedig ar gyrsiau Mynediad a Sylfaen CBAC, ac felly erbyn diwedd y cwrs dylai’r myfyrwyr fod wedi cyrraedd Safon A2 Cyngor Ewrop. Wrth addasu’r cyrsiau bu rhaid dewis rhwng fersiwn De a Gogledd Cymru, a’r De aeth â hi, ond cynigir cymorth hefyd i rai sydd am ddysgu iaith y Gogledd.
Yn ogystal â llyfrau cwrs a llyfrau ymarfer mae’r myfyrwyr yn defnyddio cryno ddisgiau sain a’r dechnoleg gyfrifiadurol ddiweddaraf. Mae ganddynt wefan arbennig yn cynnwys toreth o adnoddau megis recordiadau sain ychwanegol, podlediadau, blogiau gan staff a myfyrwyr, nodiadau diwylliannol ac ieithyddol, cwisiau sy’n cael eu marcio ar y cyfrifiadur, dolenni defnyddiol a fforymau trafod.
Rhennir y myfyrwyr yn grwpiau o ryw 15 a bydd ganddynt diwtor profiadol a fedr ateb eu cwestiynau a chynnig cefnogaeth. Cynigir rhai tiwtorialau wyneb-yn-wyneb mewn mannau trwy Gymru, Lloegr a’r Alban, a cheir hefyd diwtorialau trwy gyfrwng y we lle medr myfyrwyr glywed eu tiwtor a’u cyd-fyfyrwyr, ac ymateb i luniau a thestunau ar y sgrin. Drwy’r un feddalwedd cânt gyfle hefyd i gysylltu â’i gilydd i adolygu ac ymarfer ymhlith ei gilydd, os dymunant.
O’r myfyrwyr a gofrestrodd eleni, mae tua’u hanner yn byw yng Nghymru a’r hanner arall yn bennaf yn Lloegr, yr Alban ac Iwerddon, ond yn eu plith mae rhai a ddaw’n wreiddiol o’r Almaen, Awstralia, Ffrainc a Phortiwgal.
Mae’r rhesymau dros ddysgu’r Gymraeg yn amrywiol iawn - mae gan rai o’r myfyrwyr gysylltiadau teuluol â Chymru, mae rhai wedi symud i fyw yma neu’n ymwelwyr cyson, mae rhai’n briod â rhywun sy’n siarad Cymraeg, ac mae gan nifer ohonynt blant sy’n mynychu ysgolion Cymraeg. Mae rhai yn dysgu am fod ganddynt ddiddordeb mewn ieithoedd, rhai er mwyn y gwaith, neu i geisio gwella eu cyfle am waith, ac eraill am eu bod yn Gymry a bod yr iaith yn bwysig i’w hunaniaeth.
Dewi Evans