# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 4 Chwefror 2009

 cymhwyster.jpg

  Hanes y Cymhwyster
Cwrs byr arbenigol i diwtoriaid Cymraeg i Oedolion neu gwrs cyffredinol mwy o faint i athrawon y sector dysgu gydol oes – dyna oedd y dewis ers talwm pan oedd tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn awyddus i ennill cymhwyster.

Mewn ymateb i’r galw gan y maes am gwrs arbenigol fyddai hefyd yn cwrdd â gofynion y sector dysgu gydol oes, cafodd y Cymhwyster Cenedlaethol ei gomisiynu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ddwy flynedd yn ôl. Roedd cwrs arbenigol o’r enw TACiO (Tystysgrif Addysgu Cymraeg i Oedolion) eisoes wedi’i beilota dros gyfnod o dair blynedd yng Nghaerdydd, ond dyma gais gan y Llywodraeth i droi’r cwrs yn gymhwyster sy’n cyfateb i Ran 1 Tystysgrif Addysgu Proffesiynol y sector ôl addysg a hyfforddiant.

cymhwyster2.jpg   
  Beth yw’r Cymhwyster?
Cwrs 60 credyd, rhan amser, wedi’i rannu’n bedwar modiwl yw e. Mae’r cwrs yn cael ei gynnig gan bob un o’r chwe Chanolfan Cymraeg i Oedolion arweiniol ledled Cymru. Mae Canolfan Caerdydd a Bro Morgannwg yn cynnig y cwrs llawn dros gyfnod o flwyddyn ond mae’r pum canolfan arall yn ei gynnig dros ddwy flynedd.

Ers Medi 2008 mae dros hanner cant o diwtoriaid a darpar-diwtoriaid wedi ymrestru i wneud y Cymhwyster a disgwylir i’r nifer gyrraedd 65 erbyn i bob Canolfan gychwyn.

  Cipolwg ar y Modiwlau

Modiwl 1 – Dyma’r modiwl cychwynnol, yn debyg i gymwysterau dysgu sylfaenol fel ETO1 neu FETC1 ond gyda phob uned mewn cyd-destun Cymraeg i Oedolion. Rôl y Tiwtor, Strategaethau Dysgu ac Addysgu a Chynllunio Gwersi yw rhai o’r unedau.

Modiwl 2 – Mae’r Modiwl hwn yn canolbwyntio ar sgiliau addysgu e.e. Rheoli Dosbarth, Ymarfer Iaith, Gwrando, Darllen, Ysgrifennu, Asesu ac Arholi.

Modiwl 3 – Datblygiad proffesiynol y tiwtor ac adnoddau yw themâu Modiwl 3.

Modiwl 4 – Mae Ymwybyddiaeth Iaith a Caffael Iaith ymhlith yr unedau yn y modiwl hwn sy’n cysylltu damcaniaethau ac egwyddorion â gwaith ymarferol y tiwtor.

cymhwyster2.jpg
  Asesu
Mae ymarfer dysgu’n rhan allweddol o’r cwrs a does dim modd ennill y Cymhwyster heb lwyddo yn yr elfen ymarfer dysgu.
Mae aseiniad ysgrifenedig ar ddiwedd pob modiwl ond does dim arholiadau.

  Cymhwyster
O ennill y Cymhwyster Cenedlaethol byddwch yn gymwysiedig i addysgu Cymraeg i Oedolion. I’r rhai a hoffai ennill cymhwyster mwy, bydd cyfle i fynd ymlaen i wneud Rhan 2 Tystysgrif Addysgu Proffesiynol yn y sector ôl addysg a hyfforddiant mewn coleg addysg bellach lleol.

  Y Cam Nesaf
star.gif  
Am fanylion pellach am y ddarpariaeth yn eich ardal chi, cysylltwch â’ch Canolfan Cymraeg i Oedolion lleol.

Carole Bradley

digwydd3ii.jpg