# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 4 Chwefror 2009
taith-1.jpg

Ym mis Gorffennaf 2008 teithiodd tri thiwtor o Gymru i’r UDA: Mark Stonelake, Swyddog Cwricwlwm Canolfan y De Orllewin, Chris Reynolds, Swyddog Hyfforddi ac Ansawdd, Canolfan y De Orllewin, a Geraint Wilson Price, Cyfarwyddwr Canolfan Gwent. Dyma flas o’r daith yng ngeiriau Chris.

Bob blwyddyn mae Cymdeithas Madog yn trefnu cwrs Cymraeg am wythnos i drigolion Gogledd America ac eleni cynhaliwyd y cwrs yn Indianola, Iowa. Daeth bron i hanner cant o bobl ar y cwrs a hedfanodd y tri ohonon ni draw i ymuno â’r tîm dysgu.

Ar ôl taith hir a chroeshoeliad gan wasanaethau diogelwch gwladol yr UDA cyrhaeddon ni’r ‘Mid-West’ a gwres llethol hen ardal y paith a chael ein croesawu gan Mona, un o ddysgwyr y cwrs. Taith fer yn ei 4X4 ac roedden ni yn Indianola, ‘dinas’ â phoblogaeth o 14,000. Yn dilyn cynllun traddodiadol cefn gwlad America, roedd adeilad y llys yng nghanol sgwâr y dref, y strydoedd mewn llinellau syth ar ffurf blociau o’i gwmpas a’r tai wedi’u hadeiladu o blanciau pren. Coleg Simpson oedd ein cartref am yr wythnos, campws hardd llawn gwyrddni ac adar bach coch y ‘cardinal’ yn ystod y dydd a’r criciaid a phryfed tân gyda’r nos.

Roedd gyda ni ychydig o ddyddiau i ymweld â rhai llefydd o gwmpas Indianola cyn dechrau’r dysgu a chawson ni gyfle i weld byffalo Americanaidd mewn gwarchodfa’r paith ar bwys Prairie City a chasgliad o mustangs, corvettes ac ambell i bontiac a chadillac yn nhref Pella, tref a sefydlwyd gan bobl o’r Iseldiroedd a oedd yn gartref i Wyatt Earp am ychydig.

Er mwyn ffonio gartref a chysylltu â’n gilydd tra yn yr UDA penderfynwyd prynu ffôn symudol yr un, bargen - roedd y ffonau yr un pris â cherdyn ffôn. Fyddai dim rhaid chwilio am ffôn cyhoeddus, 300 munud yn rhad ac am ddim, y gallu i ffonio tramor yn rhad, beth allai fynd o’i le....

Wel, er gwaethaf honiadau’r staff doedd e ddim yn bosibl ffonio tramor a threuliwyd llawer iawn o amser yn Walmart yn ceisio datrys y broblem. Fe ddarganfyddon ni hefyd fod modd prynu dryll yn 16 oed ond os ydych chi am brynu cwrw mae angen ID os ydych chi’n edrych yn ifancach na 40! Roedd digon o arfau a bwledi ar werth yn y siop i gadw byddin fach yn hapus. Dychwelwyd y ffonau a phrynwyd cardiau ffôn.

Bore Sul crwydron ni i mewn i’r dref i gael brecwast a gweld bod adeilad ar un o strydoedd sgwâr y dref wedi cwympo lawr. Dros nos daeth Indianola’n enwog trwy’r sir.

taith-2.jpg


Dechreuodd y cwrs yn swyddogol ar nos Sul gyda chyfarfod ffurfiol o gyflwyno’r tiwtoriaid a chwrdd â’r dysgwyr. Roedd y gwaith caled yn dechrau a fyddai dim stop tan y dydd Sul canlynol, dysgu 9.00 tan 5.00, gweithgareddau gyda’r nos, gwaith ysgrifenedig i’w farcio, cystadlaethau i’w beirniadu, dysgwyr i’w cadw’n hapus.

Fi oedd yn gyfrifol am alw’r twmpath nos Lun, Geraint oedd Bamber Gascoine y cwis nos Fawrth a Mark oedd MC y Noson Lawen ac Archdderwydd yr Eisteddfod.

Yn ystod yr wythnos cawson wibdaith i weld Winterset, man geni John Wayne, a chwpl o bontydd Swydd Madison. Cyn dechrau cawson ni rybudd am ‘West Nile Fever’ a nadroedd ‘rattle’. Ho-hum....


taith-3.jpg
Ar ôl wythnos galed o waith ac osgoi’r mosgitos angheuol daeth y dysgu i ben a daeth y noson olaf o fwynhau yng nghwmni pawb. Bar Mojos oedd man cyfarfod y ‘gweithgareddau hwyrach’ trwy’r wythnos, yn cynnwys noson ddifyr yng nghwmni 3,000 o feicwyr o bob rhyw, lliw a chrefydd a’u Harley-Davidsons, ond bu’n rhaid ail-leoli ar gyfer y noson olaf oherwydd bod band roc yn chwarae yno. Dim llawer o ddewis yn y ‘ddinas’ felly cafwyd noson hwylus dros ben mewn tŷ bwyta pizzas. Digon o ganu, joio a datganiad rhyfedd o Bohemian Rhapsody.....

Ffarwelio ag Iowa ac ymlaen i Efrog Newydd, ond yn gyntaf tipyn bach rhagor o sylw gan wasanaethau diogelwch cartref yr UDA. Cyn cyrraedd yr awyren bu’n rhaid i’r tri ohonon ni sefyll i’r ochr tra bod pawb arall yn cerdded heibio. Cerddodd menyw ddiogelwch tuag aton ni’n araf tra’n tynnu par o fenig rwber i lawr yn ofalus dros ei dwylo a’i bysedd hi, cyn iddi gael cip ar ein hwynebau ni a thorri gwên fach a dweud, "popeth yn iawn bois, nid archwiliad o’r fath ‘na yw hon...."

Roedd ein gwesty ni ar gornel uchaf Times Square a Broadway. Yn y theatr drws nesaf oedd y sioe ‘Hairspray’ a gyferbyn â ni oedd ‘Jersey Boys’, sioe am hanes y Four Seasons. Tra oedden ni yn Efrog Newydd cawson docynnau i weld dwy sioe, ‘Spamalot’ ac ‘Avenue Q’, rhyw fath o Sesame St. i oedolion ac yn ddoniol tu hwnt. Mewn ychydig dros 4 diwrnod llwyddon ni ymweld â Chanolfan Rockefeller, ‘Ground Zero’, Ynysoedd ‘Liberty’ ac Ellis, orielau’r Metropolitan a Chanolfan Ryngwladol Ffotograffiaeth. Gwelon ni adeilad hynod Frank Lloyd Wright, y Guggenheim ac ‘Ugly Betty’ yn ffilmio tu fas iddi cyn mynd ymlaen i ‘Central Park’.

Aeth Mark a Geraint dros bont Brooklyn tra fy mod i’n crwydro’r dref yn chwilio am Tammany Hall, hen bencadlys y blaid ddemocrataidd, a lawr y Bowery i hen leoliad clwb CBGBs sydd wedi diflannu ers rhyw 18 mis.

A chyn pen dim roedd y cyfan ar ben, a ninnau yn croesi’r Iwerydd unwaith eto yn ôl i faes awyr Caerdydd.
taith-4.jpg