# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 4 Chwefror 2009

tawe1.jpg  

Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1982 sefydlwyd corff i greu canolfan Gymraeg yn Abertawe mewn man hwylus yng nghanol y dref i gynnal dosbarthiadau a digwyddiadau Cymraeg. Aeth pwyllgor o wirfoddolwyr ati am bum mlynedd i godi arian ac ym 1986/7 prynwyd adeilad yn 9 Stryd Christina. Agorwyd y Ganolfan gyda siop Gymraeg o dan ofal Dyfrig Thomas, bar, neuadd ddigwyddiadau a swyddfeydd.

tawe2.jpg
Am y pymtheng mlynedd gyntaf gwirfoddolwyr oedd yn rhedeg y ganolfan a chynhaliwyd digwyddiadau di-ri i blant, pobl ifanc, dysgwyr a siaradwyr Cymraeg. Dros y blynyddoedd gwariwyd yn helaeth ar yr adeilad trwy gymorth cyfraniadau unigolion a grantiau sylweddol o gronfeydd Ewropeaidd.


tawe3.jpg   
Yn 2001 derbyniwyd cefnogaeth ariannol gan Fwrdd yr Iaith i sefydlu menter iaith o dan adain Tŷ Tawe a sefydlwyd Menter Iaith Abertawe o dan ofal y prif swyddog Myfanwy Jones. Dilynwyd hi gan Siwan Thomas ac yna David Bryer. Erbyn hyn mae’r Fenter yn cyflogi 7 o bobl ifanc gyda nifer o ddigwyddiadau yn cael eu trefnu a’u cynnal gan y Fenter ar hyd y ddinas i hybu’r iaith Gymraeg.

Cynhelir digwyddiadau rheolaidd gan y Fenter Iaith yn Nhŷ Tawe megis Gwener Y Grolsch bob nos Wener olaf y mis. Dyma gyfle i fandiau ifanc sy’n ymarfer yno’n wythnosol gael arddangos eu talentau yn ogystal â chyfle i glywed rhai o fandiau mwyaf blaenllaw y ‘sîn roc Cymraeg.’  

Hefyd, cynhelir Siop Siarad a Chaffi Cymraeg gan y Fenter bob dydd Sadwrn yn ‘Lolfa’ Tŷ Tawe o 10.00 – 12.00. Dyma gyfle i sgwrsio dros baned a chacen ac estynnir croeso mawr i Gymry Cymraeg, dysgwyr, plant a theuluoedd.
tawe4.jpg  
Mae digwyddiadau niferus ar y gweill hefyd, yn cynnwys parti Nadolig i ddysgwyr ar yr 11eg o Ragfyr, noson o ganu carolau ar y 12fed o Ragfyr a pharti Nadolig y plant ar y 13eg o Ragfyr. Cyfnod prysur dros ben!

Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01792 460 906 neu ewch i www.menterabertawe.org

tawe5.jpg
Yn 2006 derbyniodd y Ganolfan Gymraeg yn Nhŷ Tawe arian sylweddol gan gronfeydd Ewropeaidd ac estynnwyd tri llawr yr adeilad. A hithau ar ei newydd wedd, cymerwyd awenau’r siop gan ddwy chwaer, Non Vaughan Williams a Siwan Vaughan Rees. Mae Siwan, sy’n byw yn awr ym Mhontarddulais, yn gweithio llawn amser yn y siop ac mae Non, sy’n byw yn Llanddarog, yn rhannu eu diwrnodau gwaith rhwng y siop a Choleg y Drindod yng Nghaerfyrddin. Mae’r ddwy hefyd yn feichiog, gyda Siwan yn disgwyl ei babi cyntaf yn y gwanwyn a Non yn disgwyl ei phedwerydd erbyn diwedd y flwyddyn! Digon i’w wneud felly, mae’n siwr!

tawe6.jpg  
Mae amrywiaeth y cynnyrch a gynigir yn y siop yn tynnu dŵr i’ch dannedd. Mae yma gardiau a llyfrau o bob math i oedolion, plant a dysgwyr. Ceir nwyddau lleol a chenedlaethol o bob math hefyd, yn amrywio o emwaith a chrochenwaith i bethau ar gyfer y cartref. Mae eu cyflenwyr yn cynnwys Cyngor Llyfrau Cymru, Cardiau Cain, Cwmni Bodlon, Shwldimwl, Cowbois, Silibili a Tom Gloster. Mae naws hyfryd i’r siop a gallwch archebu paned o goffi wrth i chi geisio penderfynu beth i’w brynu - cynnyrch hudolus Monamor efallai neu un o luniau unigryw Diana Williams!

Mae’r siop yn gweithio’n agos iawn â Menter Iaith Abertawe sydd yn rhannu’r un adeilad a cheir nifer o ddigwyddiadau sy’n cael eu trefnu ar y cyd e.e. ar 6 Rhagfyr bydd Caryl Lewis yn dod i’r siop i arwyddo copïau o’i llyfr newydd, ‘Plu.’   

digwydd3ii.jpg