# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 4 Chwefror 2009

     anghenion.jpg

star.gif
      I ba raddau y gallai, ac y dylai, tiwtor
      addasu i ateb anghenion unigolion?

Yn y cyflwyniad cafwyd golwg ar amrywiaeth y myfyrwyr ar geir ar gyrsiau Cymraeg i Oedolion, er enghraifft eu cefndir, eu disgwyliadau, a’u dymuniadau ac anghenion dysgu, gan ystyried sut y daw’r pethau hyn yn amlwg i’r tiwtor. Codwyd hefyd elfennau sy’n gallu gwneud y profiad dysgu’n negyddol i fyfyrwyr. Rhan greiddiol y sesiwn oedd edrych ar nifer o astudiaethau achos, gan drafod ffyrdd posibl i diwtor ymateb iddynt. Ni chynigiwyd atebion pendant yma, ond yn hytrach gyfle i wyntyllu profiadau a phryderon a allai fod yn destun pryder i diwtoriaid llai profiadol. Croeso i rai sydd yn dymuno cael copi PowerPoint o’r cyflwyniad gysylltu ag Owen Saer (Osaer@glam.ac.uk)

Yn y lle cyntaf edrychwyd ar sut mae’r myfyrwyr yn amrywio yn ôl:
  • teimladau ar ddechrau cwrs
  • disgwyliadau, dyheadau a nodau dysgu
  • profiadau addysgiadol blaenorol, gan gynnwys dysgu ieithoedd eraill
  • gallu cynhenid
  • personoliaeth
  • oedran
  • maint y cyswllt â’r Gymraeg y tu allan i’r dosbarth
  • os nad ydynt yn Gymry, ers pryd y maent yng Nghymru, a beth yw eu hiaith gyntaf
  • cefnogaeth teulu, ffrindiau a chydweithwyr
  • sefyllfa’r cartref

star.gif  
Nodwyd rhai ffactorau ‘gelyniaethus’ a allai fod yn rhwystr i’r dysgu:
  • nifer sydd yn y dosbarth yn rhy fawr/rhy fach
  • lleoliad anhygyrch: trafferth gyda pharcio, grisiau ac ati
  • ystafell rhy dwym/rhy oer
  • diffyg goleuni yn y dosbarth
  • methu gweld neu glywed yn dda
  • trefn y cadeiriau a’r desgiau yn anghysurus
tiwtor sy’n ymddangos yn ymosodol, aneffeithiol, aneglur, anghyfeillgar, difater neu’n flêr
  • gwers sy’n symud yn rhy gyflym/rhy araf
  • tiwtor sy’n dangos ffafriaeth at unigolion
  • gweithgareddau dysgu ddim yn plesio
  • egwyl/dim egwyl
  • tiwtor sy’n ynganu mewn ffordd anghyfarwydd, e.e., cael, oer, eisiau, chwarae

Y cwestiwn mawr yw sut y gall y tiwtor addasu? Yn y gynhadledd cafwyd cyfle i drafod yr astudiaethau achos canlynol:
  • menyw ordew yn anghysurus heb ddesg o’i blaen
  • myfyriwr anllythrennog: diffyg sgiliau sylfaenol
  • myfyriwr a chanddo ddrewdod corfforol: ymddygiad aflonyddol/annymunol/sy’n amharu ar gysur y dosbarth ac ar y dysgu mewn rhyw fodd
  • myfyriwr sy’n mynnu edrych mewn geiriadur/ysgrifennu’r cwbl/gofyn i’r tiwtor roi’r cwbl ar y bwrdd
  • myfyriwr sy’n rhoi’r gorau i’r cwrs oherwydd iselder ysbryd
  • myfyriwr sy’n lladd ar y cwrslyfr
  • myfyriwr sy’n gwneud hwyl am ben gwallau cydfyfyriwr
  • myfyriwr sy’n cyrraedd y wers ar ddiwedd y gwaith cyflwyno
  • myfyriwr gwan sy’n ailymddangos ar ôl colli gwersi
  • myfyriwr sy’n gwrthod siarad Cymraeg amser coffi gan fod angen saib
  • myfyriwr sy’n lladd ar y tiwtor yn ei gefn, neu’n cymharu tiwtoriaid

I ba raddau, felly, mae hi’n deg disgwyl i diwtor gyfaddawdu budd y grŵp er mwyn rhoi sylw i anghenion neu ddymuniadau unigolyn?

star.gif  
Ar ôl trafodaeth helaeth, daethpwyd i’r casgliad bod yn rhaid anelu am gyfaddawd rhwng polisi’r sefydliad ac arddull unigol y tiwtor (a bod yn barod i addasu). Lle bo hynny’n bosib, rhaid ystyried anghenion yr unigolyn o fewn cyd-destun y grŵp.

Owen Saer

digwydd3ii.jpg