Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 4 Chwefror 2009

      alte1.jpg   

Daeth dwy asiantaeth dysgu ieithoedd yn Ewrop at ei gilydd yn ddiweddar i gynnal cynhadledd ar y cyd er mwyn trafod materion ansawdd ac asesu. Mae ALTE yn gyfrifol am drefnu arholiadau a gwasanaethau cofnodi cyrhaeddiad i ddysgwyr ieithoedd ac am ddatblygu safonau ar gyfer arholiadau a phrofion ieithyddol. Efallai eich bod yn ymwybodol o’r gwaith mae CBAC wedi’i wneud gydag ALTE wrth ddatblygu’r Llwybr Credydau ac Arholiadau Defnyddio’r Gymraeg newydd. Mae EAQUALS yn gymdeithas darparwyr gwasanaethau iaith sydd yn cynnig safonau ansawdd ar gyfer darpariaeth dysgu ieithoedd. Maen nhw hefyd yn cynnal arolygiadau ansawdd i’w haelodaeth.
alte2.jpg  
Cynhaliwyd y gynhadledd i’r aelodaeth ym Mhrifysgol Lisbon 13 - 15 Tachwedd gyda chynhadledd agored ar ddydd Gwener.

Gyda chymorth Emyr Davies (CBAC) trefnwyd bod Steve Morris a Chris Reynolds o Ganolfan y De Orllewin yn mynychu’r gynhadledd er mwyn darganfod mwy am y systemau proffilio iaith, ansawdd a hyfforddi tiwtoriaid. Agorwyd y gynhadledd gan Brian North, Cadeirydd EAQUALS gydag amlinelliad o ddatblygiadau diweddaraf y CEFR (Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd).

alte3.jpg  
Prif siaradwr y gynhadledd oedd Yr Athro Diane Larsen-Freeman, Cyfarwyddwr Sefydliad Yr Iaith Saesneg, Prifysgol Michigan, un o arbenigwyr y byd caffael ail-iaith. Roedd ei sgwrs am y ffordd y mae ieithoedd yn newid trwy’u defnyddio ac felly yn effeithio’n uniongyrchol ar brosesau dysgu yn ysgogiad i’r meddwl ac yn llawn syniadau ar sut mae hyn yn gallu newid ein systemau dysgu, hyfforddiant a phrofi.

Rhannwyd y gynhadledd yn weithdai/cyflwyniadau paralel am weddill y dydd gyda Steve yn canolbwyntio ar broffilio ieithyddol a sut mae hynny yn cynorthwyo dadansoddiadau geirfaol ac effeithio ar batrymau ysgrifenedig, a Chris yn rhan o drafodaeth ar ddefnyddio fframwaith cyffredin er mwyn asesu a threfnu hyfforddiant i diwtoriaid. Mae’n bosibl y bydd y sesiynau hyn yn esgor ar ragor o gydweithio yn y dyfodol a bydd modd trafod y syniadau ymhellach yng nghyfarfodydd cenedlaethol y Pwyllgor Ymchwil a chyfarfod Swyddogion Hyfforddiant ac Ansawdd.
star.gif  
Chris Reynolds

digwydd3ii.jpg