# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 4 Chwefror 2009

prawf-llafar.jpg

Mae meddwl am gynnal prawf llafar am ddeugain munud yn gallu codi ofn ar yr ymgeisydd ac ar yr arholwr di-brofiad. Y rhyfeddod yw bod yr amser yn gwibio heibio a hynny oherwydd bod cymaint i’w gyflawni o fewn y deugain munud. Prif orchwyl yr arholwr llafar yw tynnu’r gorau o’r ymgeisydd drwy roi’r cyfle iddo/iddi ddangos yr hyn y gall ei wneud a’i ddweud yn Gymraeg. Rhaid i’r arholwr fod yn drefnus a pharatoi’n drwyadl ymlaen llaw a dyna pam yr anfonir ffolio’r ymgeisydd ato/ati tua pythefnos cyn yr arholiad i’w ddarllen a gwneud nodiadau ymlaen llaw. Mae hyn yn golygu eich bod yn dod i led-adnabod yr ymgeisydd wrth ddarllen y gwaith yn y ffolio a gwrando arno/arni’n siarad ar y tapiau.

Dyma’n fras y patrwm y bydda i’n ei ddilyn wrth arholi :

1. Yn y pum munud cyntaf, sgwrsio’n gyffredinol er mwyn gwneud i’r ymgeisydd deimlo’n gyfforddus a llai nerfus. Dylid defnyddio’r wybodaeth o erthygl gynta’r ffolio i roi sylwedd i’r sgwrs gychwynnol hon.

2. Bydd yr ymgeisydd wedi darllen erthygl gyda chymorth geiriadur cyn dod i mewn
atoch. Dylai’r pwnc ysgogi’r ymgeisydd i fynegi barn ac efallai gyfeirio at brofiadau neu wybodaeth bersonol sy’n ymwneud â’r pwnc.

3. Mae’r ffolio yn gosod yr agenda ar gyfer y rhan fwyaf o’r prawf llafar. Gall yr ymgeisydd felly baratoi cryn dipyn ymlaen llaw. Rhaid sicrhau eich bod yn rhoi digon o amser i’r ymgeisydd siarad am y prosiect.

4. Bydd yr ymgeisydd wedi darllen dau lyfr o’r rhestr lyfrau cyn yr arholiad.
Dylid anelu at drafodaeth lawn ar elfennau gwahanol o’r llyfrau ond ni ddisgwylir trafodaeth lenyddol ddofn. Gellir dechrau gyda chwestiynau agored e.e.
    Beth oeddech chi’n ei feddwl o’r llyfr? Pa fath o lyfr ydy o?
    Pam wnaethoch chi fwynhau’r llyfr? Beth oedd ddim yn eich plesio?

Mae cwestiynau fel y rhai uchod yn galluogi’r ymgeisydd i ddilyn ei drywydd ei hun yn y drafodaeth. Er hynny, mae’n bwysig bod yr arholwr yn eu hannog i siarad am y cymeriadau, y rhannau da neu’r rhannau gwael, digri’ neu hir-wyntog a diflas yn ogystal ag iaith a fformat y llyfr.

5. Mae munudau olaf y prawf yn holl bwysig. Y nod yw gwneud i’r ymgeisydd deimlo ei fod wedi cael profiad da a gwerthfawr yn ystod y deugain munud blaenorol.

I gloi, cofiwch mai’r ymgeisydd fydd yn siarad am y rhan fwyaf o’r amser. Y nod yw cynnal sgwrs mor naturiol a rhwydd â phosib o dan yr amgylchiadau.

Pob hwyl i chi!

Eleri Swift Jones

digwydd3ii.jpg