Mae’r Tiwtor yn ddiolchgar iawn i Siop Tŷ Tawe am gynnig y wobr ar gyfer cystadleuaeth y rhifyn hwn, sef hamper hyfryd gan Gwmni Bodlon yn cynnwys jam cartref amrywiol a mêl pur Cymreig.
Gan gofio am gysylltiadau’r rhifyn hwn ag Abertawe a’r cylch, mae’r cwestiwn yn berthnasol iawn:
Beth yw enw’r stadiwm
ble mae’r Gweilch a’r
Elyrch yn chwarae?
Mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb, boed yn diwtoriaid, dysgwyr neu unrhyw un arall!
Cofiwch anfon yr ateb drwy e-bost gan ddefnyddio’r ffurflen sylwadau yn yr adran Cysylltu, a hynny erbyn dydd Gwener, 9 Ionawr.